Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar gostau’r awdurdodau lleol mewn perthynas â darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gyfer dysgwyr sy’n hunanynysu

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu o leiaf £420,000 i helpu i sicrhau bod disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn dal i allu derbyn darpariaeth os na allant fynychu'r ysgol am eu bod yn gwarchod eu hunain neu'n hunanynysu.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu hawlio o gronfa galedi COVID-19 Llywodraeth Cymru am gostau ychwanegol a ysgwyddwyd mewn perthynas â disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim ac sy'n gwarchod eu hunain neu'n hunanynysu. Mae'r arian ychwanegol sydd ar gael yn seiliedig ar lwfans wythnosol o £3.90 y disgybl, y dydd neu £19.50 yr wythnos.

Mae'r arian sydd ar gael yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd awdurdodau lleol, lle bo'n bosibl, yn talu'r £2.50 cyntaf fesul disgybl, y dydd (£12.50 yr wythnos) o unrhyw gostau a ysgwyddwyd, gyda Llywodraeth Cymru’n talu costau sy'n fwy na'r swm hwn hyd at uchafswm o £1.40 y disgybl, y dydd neu £7.00 yr wythnos. Atgoffir awdurdodau lleol i warchod rhag cyllido dwbl.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol y bydd gan awdurdodau lleol gostau sefydlog sy'n gysylltiedig â darparu prydau ysgol am ddim. Ar y sail hon, mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod y rhan fwyaf o'r cyllidebau ar gyfer prydau ysgol am ddim yn debygol o fod wedi’u hymrwymo. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn cael hi’n anodd bodloni ein disgwyliad y bydd yn talu'r £2.50 cyntaf fesul disgybl, y dydd. Yn yr achosion hyn, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ymchwilio i weld a oes arbedion wedi'u gwneud yng nghyllidebau arlwyo ysgolion. Os nad yw hyn yn bosibl a lle gall awdurdod lleol ddangos nad oes modd gwrthbwyso cyllidebau pellach, yna byddwn yn gwneud eithriadau rhesymol ac yn talu mwy na £1.40 y disgybl, y dydd. Atgoffir awdurdodau lleol y bydd angen iddynt ddangos mai'r trefniadau y maent wedi'u rhoi ar waith ar gyfer y ddarpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim yw'r gwerth gorau posibl am arian gan ystyried unrhyw gyfyngiadau iechyd a diogelwch.

Dim ond mewn perthynas â disgyblion sy'n ynysu o ganlyniad i COVID-19 y mae'r cyllid ychwanegol ar gael. Nid yw ar gael mewn perthynas â disgyblion sy'n absennol am unrhyw reswm arall.

Byddwn hefyd yn digolledu awdurdodau lleol am gostau gweinyddol rhesymol wrth ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys y mae'n ofynnol iddynt ynysu oherwydd COVID-19. Unwaith eto, dylai'r egwyddor o'r gwerth gorau am arian fod yn berthnasol. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy'n agored iawn i niwed rhag y coronafeirws (COVID-19) yn nodi’n glir nad oes angen i'r rhai a wnaeth ddilyn y cyngor gwarchod o‘r blaen wneud hynny mwyach ac y gallant bellach ddilyn yr un rheolau â gweddill y boblogaeth yng Nghymru (Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19)). Nid ydym yn disgwyl y bydd gofyn i'r rhan fwyaf o blant warchod eu hunain eto yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae yna nifer fach o blant â chyflyrau penodol neu sy'n cael triniaethau penodol, megis gofal canser neu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu heintio'n ddifrifol oherwydd imiwnedd, a fydd yn aros ar y rhestr gwarchod ac felly mae’n bosibl y gallant gael eu cynghori i warchod eu hunain eto yn y dyfodol. Bydd y plant a'r bobl ifanc hyn/eu rhieni neu ofalwyr wedi cael gwybod gan eu pediatregydd neu feddyg teulu a ddylent aros ar y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud (Cyngor wedi’i ddiweddaru – Ni fydd angen ichi warchod eich hun ar ôl 16 Awst 2020) os bydd angen i bobl amddiffyn, y byddant yn cael eu cynghori i wneud hynny ar sail unigol yn y dyfodol lle gall eu meddyg edrych ar eu risg eu hunain a phenderfynu beth yw'r cyngor gorau iddynt. Y grŵp cyntaf y bydd meddygon yn gwneud hyn ar ei gyfer fydd plant. Ar gyfer cleifion o dan 18 oed ar 16 Awst 2020, gofynnwyd i'w pediatregydd neu eu meddyg teulu adolygu eu cofnod i weld a oes angen iddynt aros ar y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir. Dylent fod wedi derbyn llythyr yn cynnwys cadarnhad o ganlyniad yr adolygiad hwn. Y nod oedd ysgrifennu at blant eto erbyn dechrau mis Medi. Gallai awdurdodau lleol nodi disgyblion y mae angen iddynt warchod eu hunain o hyd ac felly na ddylent fynychu'r ysgol, drwy ofyn am weld y llythyr hwn.

Bydd angen i ysgolion ac awdurdodau lleol fod yn fwy hyblyg pan ddywedir bod disgybl yn hunanynysu gan nad oes cadarnhad swyddogol o hyn ar gael o bosibl. Bydd achosion lle mae'r ysgol wedi gofyn i'r disgybl hunanynysu a fydd yn eithaf clir. Ond lle dywedir bod y disgybl yn hunanynysu oherwydd bod aelod o'r teulu wedi profi'n bositif neu'n aros am brawf, bydd angen i'r ysgol ddefnyddio disgresiwn i dderbyn gair y rhiant (er y byddai dal yn rhesymol gofyn am fanylion ynghylch pam y mae'r disgybl yn hunanynysu a'r cyfnod tebygol). Yn gyffredinol, nid ydym yn disgwyl i'r gronfa hon gael ei defnyddio i gynnwys disgyblion y mae eu rhieni wedi dewis peidio â'u hanfon i'r ysgol lle nad yw'n ofynnol i'r disgybl warchod ei hun neu nad yw wedi cael cyfarwyddyd i ynysu.