Heddiw, cyfarfu Gweinidogion Cyllid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd, gan ganolbwyntio unwaith eto ar yr argyfwng costau byw.
Ymysg y pynciau trafod yr oedd chwyddiant, diogelu ffynonellau ynni a phwysau ar wariant cyhoeddus – i gyd yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw sy’n parhau i effeithio ar sawl rhan o fywydau pob dydd pobl.
Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans. Dywedodd hi:
“Ry’n ni’n gwybod bod incwm gwario aelwydydd yn dal i ostwng, a bod angen cymorth ychwanegol o hyd. Ry’n ni’n gwybod hefyd y bydd yr angen hwnnw’n parhau. Heddiw, fe wnes i ofyn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ystyried cymorth ychwanegol i gwsmeriaid ynni sy’n agored i niwed, pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a gwasanaethau cyngor ar ddyled.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £3.3 biliwn yng Nghymru yn barod i gefnogi’r bobl hynny sydd fwyaf angen help. Ond beth ry’n ni wir ei angen nawr yw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig reoli’r cynnydd mewn chwyddiant – yn unol ag addewid y Prif Weinidog – a sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gynnal yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny ry’n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw.”
O ran ynni, ychwanegodd y Gweinidog:
“Yng Nghymru, ry’n ni’n buddsoddi mewn rhaglenni arloesol i’n helpu i ddibynnu’n llai ar danwydd ffosil. Hefyd, ry’n ni wedi cyflwyno bil yn ddiweddar i foderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith. Mae hyn yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â’n heriau ynni hirdymor. Ry’n ni nawr angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fuddsoddi mwy yn y grid trydan yng Nghymru i ateb y galw cynyddol; manteisio ar y cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy; a’n galluogi i elwa ar system ynni sy’n lanach, yn fwy dibynadwy ac yn cefnogi ffyniant economaidd.”
O ran cyflogau yn y sector cyhoeddus, fe wnaeth y Gweinidog, ynghyd â’i Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, bwyso am gyllid ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gefnogi ei waith hanfodol wrth iddo baratoi at ddathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu. Gwnaethant hefyd bwyso am eglurder o ran a fydd y llywodraethau datganoledig yn cael cyllid ychwanegol yn sgil cynigion cyflog yn Lloegr i’r GIG a’r Gwasanaeth Sifil.