Neidio i'r prif gynnwy

Mae cosbau ynghlwm wrth bob prawf hwyr lle derbynnir llythyr hysbysu am brawf gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Caiff y cosbau eu rhoi os yw prawf yn 1 diwrnod neu fwy'n hwyr ac maent yn cynyddu po hiraf yw'r oedi.

Profion croen TB
Er mwyn osgoi cosb, rhaid i ffermwyr sicrhau bod pob anifail cymwys yn cael ei chwistrellu a'i ddarllen (dyddiad TT2) cyn dyddiad olaf y cyfnod profi. Er enghraifft, os oes rhaid cwblhau'r prawf cyn 6 Ebrill yna'r hwyraf y gellir darllen y prawf yw 5 Ebrill. 

Profion Gamma interferon/IDEXX
Er mwyn osgoi cosb, rhaid i ffermwyr sicrhau bod y sampl gwaed angenrheidiol yn cael ei chymryd cyn y dyddiad a nodir yn y Llythyr Hysbysu am Brawf. Er enghraifft, os oes rhaid cwblhau'r prawf cyn 6 Ebrill, yna'r hwyraf y gellir cymryd y sampl gwaed yw 5 Ebrill.

Cofiwch drefnu eich profion mor gynnar â phosibl o fewn y cyfnod profi. Dylai hyn eich helpu i osgoi cosbau, drwy roi mwy o amser i chi ganiatáu am unrhyw oedi annisgwyl.

Mae Safonau dilysadwy trawsgydymffurfio yn diffinio'r difrifoldeb ar sail pa mor hwyr yw prawf. Mae'r matrics cosbi taliadau yn rhoi canran o safbwynt lleihau'r taliad sy'n seiliedig ar ddifrifoldeb y sefyllfa.

Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn rhoi cyngor ar brofion.