Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i'r afael â chamwybodaeth sy'n tanseilio'r frwydr yn erbyn COVID-19 a'n hymrwymiad i Ddiogelu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae pandemig y Coronafeirws (COVID-19) nid yn unig wedi creu argyfwng iechyd byd-eang ond mae hefyd wedi arwain at lawer o wybodaeth gamarweiniol, annibynadwy a ffug. Mae hyn wedi llesteirio ymdrechion gwyddonwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a llywodraethau i gyfathrebu'n effeithiol am y feirws, ac o ganlyniad mae'n effeithio ar yr ymdrech fyd-eang i reoli'r pandemig. 

Mae'n bwysig ein bod i gyd yn mynd i'r afael â chamwybodaeth sy'n tanseilio ein brwydr yn erbyn y feirws a'n hymrwymiad i Ddiogelu Cymru, diogelu'r GIG ac yn y pen draw, achub bywydau.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd:

Mae camwybodaeth yn wybodaeth ffug, sy’n aml yn cael ei dechrau gan rywun sydd wir eisiau deall pwnc ac sy'n poeni am gadw pobl eraill yn ddiogel ac yn iach. Yna caiff ei rhannu gan eraill sy'n teimlo'r un fath. Mae pawb yn credu eu bod yn rhannu gwybodaeth dda – ond yn anffodus, dydyn nhw ddim. Felly, gan ddibynnu beth sy’n cael ei rannu, gall y gamwybodaeth fod yn eithaf niweidiol.

Ar ben arall y sbectrwm mae twyllwybodaeth. Yn wahanol i gamwybodaeth, mae hon yn wybodaeth ffug a grëwyd gyda'r bwriad o elwa arni neu o achosi niwed. Gallai'r niwed hwnnw fod i berson, grŵp o bobl, sefydliad neu hyd yn oed wlad. Yn gyffredinol, mae twyllwybodaeth yn gwasanaethu rhyw agenda a gall fod yn beryglus. Yn ystod y pandemig hwn, rydym yn ei gweld yn cael ei defnyddio i geisio gwanhau ein hymddiriedaeth yn ein gilydd ac yn ein llywodraeth a'n sefydliadau cyhoeddus.

Er mwyn lleihau faint o wybodaeth rydym yn ei chael o ffynonellau annibynadwy, rydym yn eich cynghori’n gryf i wirio ffeithiau cyn anfon unrhyw wybodaeth ymlaen at eraill. Dim ond gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel y rhain y dylech ei rhannu:

Isod rydym yn mynd i'r afael â chamsyniadau drwy nodi'r ffeithiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gyfredol.

Beth yw Coronafeirws?

Mae Coronafeirws (COVID-19) yn glefyd newydd sydd eisoes wedi heintio mwy na 211 miliwn o bobl ac sydd, gwaetha’r modd, wedi lladd mwy na 4 miliwn o bobl drwy’r byd. Mae'n heintus iawn ac yn lledaenu'n gyflym ymhlith pobl o bob oed, a gwyddom ei fod yn cael effaith anghymesur ar bobl hŷn, pobl dlotach a phobl mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae COVID-19 yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd ac mae'r camau rydym wedi'u cymryd yn gymesur â'r risg y mae'n ei achosi i bobl yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Caiff COVID-19 ei ddiffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd fel Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol – digwyddiad eithriadol a allai beri risg iechyd cyhoeddus i wledydd eraill drwy ledaeniad clefyd o wlad i wlad, ac a allai fod angen ymateb rhyngwladol cydgysylltiedig.

A all COVID-19 effeithio ar bobl o bob oed?

Gall. Er bod pobl hŷn, a phobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes fel asthma, diabetes, a chlefyd y galon mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda'r feirws, gall COVID-19 effeithio'n wael ar bobl ifanc hefyd.

Mae pobl ifanc yn llai tebygol o orfod mynd i’r ysbyty neu o farw oherwydd COVID-19 ond gallant ei ddal a'i ledaenu, ac mae rhai yn datblygu symptomau difrifol sy’n para’n hir, sy’n cael ei adnabod fel ‘Covid Hir’. Rydym yn dal i ddysgu am effaith hirdymor y feirws ar bob grŵp oedran.

Mae atal yn bwysig. Mae’n bwysig bod pobl o bob oed yn dilyn y canllawiau swyddogol ac yn cymryd camau i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag y feirws. Mae hyn yn cynnwys dilyn arferion hylendid dwylo da, cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, sicrhau bod ystafelloedd wedi'u hawyru'n dda ac, yn bwysicaf oll, cyfyngu ar nifer y bobl yr ydym yn dod i gysylltiad â nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda COVID-19 gan y gallwch fod yn heintus a throsglwyddo'r feirws i eraill, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.

A yw COVID-19 yn fwy marwol na ffliw tymhorol?

Ydy. Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod mwy na thair gwaith cymaint o farwolaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Ionawr a mis Awst 2020 lle'r oedd COVID-19 yn achos sylfaenol, o gymharu â'r ffliw a niwmonia.

Yn anffodus, ers dechrau'r pandemig, mae dros 5,500 o bobl wedi marw yng Nghymru oherwydd COVID-19.

Dyna un bywyd wedi’i golli bob 90 munud ers mis Mawrth 2020.

A fydd prawf COVID-19 yn dangos canlyniad positif os mai dim ond annwyd neu ffliw sydd gen i?

Na fydd. Mae'r prawf COVID-19 wedi'i ddatblygu i ganfod COVID-19 yn unig.

Mae'r prawf swab (PCR, antigen) a’r profion llif unffordd (LFD) ar gyfer COVID-19 wedi’u datblygu’n benodol i ganfod presenoldeb y feirws SARS-CoV-2 – a elwir hefyd yn COVID-19 – ac mae ganddo gyfradd cywirdeb brofedig o 99.91%. Ni fydd annwyd neu'r ffliw yn achosi profion positif ar gyfer COVID-19 er y gall y symptomau fod yn debyg, i rai pobl.

Mae profion llif unffordd (LFT) yn awr yn cael eu defnyddio i ddod o hyd i bobl sydd â COVID-19 ond nad ydynt yn dangos symptomau. Nid oes gan tua 1 o bob 3 unigolyn sydd â COVID-19 unrhyw symptomau. Os na ganfyddir y feirws bydd yr unigolion hyn yn parhau i’w ledaenu.

Mae profi’r rheini nad oes ganddynt symptomau yn arf pwysig yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Gall pob achos positif a ganfyddir helpu i atal llawer mwy o heintiadau.

Mae profion llif unffordd yn hawdd i’w defnyddio ac yn rhoi canlyniad o fewn 30 o funudau. Maent yn hawdd i’w dehongli a gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o leoliadau.

A yw gwisgo gorchudd wyneb yn eich amddiffyn chi ac eraill rhag cael eich heintio?

Y consensws gwyddonol a chyngor Sefydliad Iechyd y Byd yw bod gwisgo gorchudd wyneb yn helpu i ddiogelu'r rhai o'ch cwmpas rhag defnynnau mân yn yr awyr sy'n lledaenu'r feirws, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol.

Daeth gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus o dan do ledled Cymru ym mis Medi 2020.

Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn un ffordd o atal trosglwyddo'r feirws, ar y cyd â mesurau eraill fel cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n aml, osgoi lleoliadau gorlawn neu gaeedig lle rydych yn dod i gysylltiad agos â phobl, a sicrhau awyru da.

Dyma'r prif ffyrdd y gallwch gael eich heintio:

  • Trosglwyddiad agos uniongyrchol o un person i’r llall pan fydd rhywun yn dod i gysylltiad uniongyrchol â defnynnau anadlol ac aerosolau a ryddheir gan berson arall 2 fetr neu lai i ffwrdd. Mae’r gronynnau hyn yn cario’r feirws a gallent ddod ag ef i mewn i’r corff drwy'r llygaid, pilenni’r trwyn, mwcws y geg, neu drwy’r system anadlu.
  • Mae trosglwyddo anuniongyrchol oddi ar arwyneb yn digwydd pan fydd rhywun yn cyffwrdd ag arwyneb sydd wedi'i halogi â'r feirws. Yna gallant gael eu heintio pan fyddant yn cyffwrdd â'u trwyn, eu llygaid neu eu ceg gyda’u llaw neu wrthrych halogedig. Gall arwynebau gael eu halogi wrth i ddefnynnau anadlol lanio arnynt neu wrth i bobl heintiedig gyffwrdd yr arwyneb â’u dwylo.
  • Mae trosglwyddo drwy’r awyr yn digwydd pan fydd aerosolau anadlol bach sy'n cynnwys y feirws yn cael eu cario gan yr aer a'u hanadlu wedyn. Gall yr aerosolau hyn gael eu rhyddhau drwy weithredoedd anadlol (anadlu, siarad, pesychu ac ati), yn ogystal â thrwy weithdrefnau cynhyrchu aerosol mewn ysbyty neu amgylchedd deintyddol. Mae trosglwyddo aerosolau yn gallu achosi heintiad y tu hwnt i 2m mewn ystafelloedd sydd wedi'u hawyru'n wael.

Er bod gwisgo gorchudd wyneb yn gall bod yn anghyfforddus, nid yw'n niweidiol os ydych yn ffit ac yn iach. Nid yw gwisgo gorchudd yn arwain at lefelau uwch o garbon deuocsid yn y gwaed nac at lefelau ocsigen isel.

Mae plant o dan 11 oed, a phobl sydd â rhesymau meddygol dros beidio â gwisgo masg wedi'u heithrio. Mae canllawiau pellach ar gael, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar wneud eich gorchudd wyneb eich hun.

Mae'r Grŵp Cyngor Technegol wedi cyhoeddi cyngor wedi’i ddiweddaru ar orchuddion wyneb.

A yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyfiawnhau'r ymyriadau y mae wedi'u cymryd a'r cyfyngiadau y mae wedi’u gosod?

Ydy. Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Prif Weinidog a'i gydweithwyr, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyngor a ddarperir gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a'r Prif Swyddog Meddygol. Mae hefyd wedi sefydlu ei banel ei hun o arbenigwyr, y Gell Cyngor Technegol (TAC), sy’n darparu cyngor arbenigol i helpu i reoli COVID-19, gan gynnwys:

  • crynodebau wythnosol o’r cyngor
  • data gwyliadwriaeth (gan gynnwys y gwerth R)
  • adroddiadau am faterion penodol

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried data a thystiolaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r cyfyngiadau sydd wedi'u rhoi ar waith wedi'u cynllunio i achub bywydau ac i ddiogelu'r economi lle y bo'n bosibl, tra'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi lles meddyliol pobl.

Caiff pob ymyriad ei ystyried o ran y manteision (e.e. lleihau niwed uniongyrchol yn sgil COVID-19) a’r anfanteision (e.e. niwed economaidd, teimlo’n unig neu’n ynysig).

Rydym yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ac i ystyried y niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol yn nghyd-destun ein sefyllfa yng Nghymru, ac yn cyhoeddi'r dystiolaeth wyddonol y tu ôl i'n penderfyniadau.

A yw mesurau amddiffyn cenedlaethol yn gweithio?

Ydyn, mae tystiolaeth glir bod cyflwyno mesurau amddiffyn yn gostwng y rhif atgynhyrchu (y "rhif R"), sef cyfradd trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned. 

Mae'r cyfyngiadau cenedlaethol sydd wedi'u gosod, megis ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref a rhoi'r gorau i gymysgu â phobl y tu allan i'w haelwyd, yn ogystal â'r mesurau amddiffyn a argymhellir - sy'n cynnwys golchi dwylo'n aml, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau caeedig, a sicrhau bod eu cartref wedi’i awyru’n dda - wedi cyfrannu at leihau trosglwyddiad y feirws, lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, a lleihau’r marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid.

Nod y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau yw gostwng y rhif R. Maent yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac yn cael eu hadolygu'n gyson.

Gwyddom o'r gostyngiad yn y gyfradd R o ganlyniad i'r mesurau amddiffyn a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020 ac ym mis Rhagfyr, eu bod yn effeithiol o ran arafu lledaeniad COVID-19, lleihau'r pwysau ar ein GIG ac yn y pen draw, achub bywydau.

Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) yn darparu cyngor gwyddonol a thechnegol i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth yn ystod argyfyngau. Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan SAGE yn dangos bod y rhif R wedi gostwng yng Nghymru ers i'r cyfyngiadau a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr ddechrau cael effaith.

Hyd yn oed ar ôl cael brechlyn, gallem ddal i gael ein heintio ein hunain, a gallem drosglwyddo'r feirws. Mae'n bwysig parhau i ymddwyn mewn ffordd amddiffynnol a bod yn ymwybodol o'r risg er mwyn osgoi lledaenu'r feirws i eraill.

Gweler ein Cynllun Rheoli'r Coronafeirws sy'n disgrifio newidiadau i’r lefelau rhybudd gan ystyried y rhaglen frechu a straen Caint, sef y ffurf gryfaf o’r feirws ar hyn o bryd.

A fydd osgoi prawf yn cadw’r niferoedd swyddogol i lawr ac felly'n atal cyfyngiadau newydd rhag dod i rym?

Na fydd. Ni fydd hyn yn atal mesurau rhag cael eu cyflwyno i atal lledaeniad y feirws. Defnyddir nifer y profion a nifer yr achosion positif i fesur yr achosion mewn ardal benodol. Gallai diffyg profi arwain at bandemig estynedig.

Os oes gen i symptomau ysgafn, a gaf i hunanynysu a peidio â chael prawf?

Na chewch. Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 (tymheredd uchel, peswch newydd parhaus, colli’r gallu i flasu neu arogli neu newid yn y gallu hwnnw), waeth pa mor ysgafn, rhaid ichi hunanynysu gartref am o leiaf 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eich symptomau a threfnu i gael prawf i weld a ydych wedi dal y feirws. I gael prawf, ffoniwch 119 neu archebwch ar-lein neu drwy ap COVID-19 y GIG.

Gall prawf helpu i gadarnhau a ydych wedi'ch heintio â'r feirws (SARS-CoV-2) – boed gennych symptomau ai peidio – ac a ydych mewn perygl o ledaenu'r haint i eraill. Cymryd camau i atal yr haint rhag lledaenu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu pobl eraill, er enghraifft drwy hunanynysu.

Mae'n bwysig ein bod yn cael ein profi er mwyn deall pa mor eang y mae'r feirws wedi lledaenu mewn cymuned. Mae cael darlun llawn yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer cynnydd yn y galw ar ein gwasanaeth iechyd a gwneud penderfyniadau am gyflwyno mesurau pellach. Mae hefyd yn golygu bod pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â chi, os ydych yn heintus, yn cymryd y camau angenrheidiol i atal trosglwyddo'r feirws ymhellach.

Os dywedwyd wrthych am hunanynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru neu ap COVID-19 y GIG ac na allwch weithio gartref ac y byddwch yn colli enillion, gallwch wneud cais am daliad ar sail disgresiwn gan eich awdurdod lleol drwy’r Cynllun Cymorth Hunanynysu. Gallwch hefyd wneud cais os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19.

Nid oes gan tua 1 o bob 3 unigolyn sydd â coronafeirws unrhyw symptomau ond maent yn dal i allu heintio pobl eraill.

Yr unig ffordd o wybod a oes gennych chi’r feirws yw drwy gael profion rheolaidd. Os bydd pobl yn cael prawf positif ac yn hunanynysu, mae’n helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Dim ond ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws y mae’r profion llif unffordd cyflym yn addas. 
Gallwch gael pecynnau profi rheolaidd os na allwch weithio gartref ac nad ydych yn rhan o gynllun profi rheolaidd drwy eich cyflogwr. Gallwch gael pecynnau profi ar eich cyfer chi eich hun a’ch aelwyd.

Dysgwch ragor am sut y mae profion llif unffordd COVID-19 yn gweithio a’u rôl yn ein rhaglen brofi.

Pam y dylwn i gael brechiad?

Y brechiad COVID-19 yw un o'n dulliau pwysicaf i helpu i leihau lledaeniad y feirws. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac yn cynnig amddiffyniad i unigolyn rhag COVID-19. Bydd hefyd yn cynnig mwy o amddiffyniad i'n teuluoedd, ein ffrindiau a'n cymunedau.

Mae tri brechlyn COVID-19 ar gael ar hyn o bryd – Pfizer-BioNTech, Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca a Moderna.
Bydd brechu'r boblogaeth ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle yn:

  • diogelu pobl rhag COVID-19 gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • ein galluogi i godi cyfyngiadau maes o law
  • ein helpu i ddychwelyd i fywyd mwy normal

Nid yw cael eich brechu yn orfodol ac rydym yn deall y bydd pobl am gael gwybodaeth am ddiogelwch. Gofynnwn i bobl addysgu eu hunain gyda gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am frechu rhag COVID-19 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

A yw'r brechlyn COVID-19 yn eich gwneud yn sâl?

Mae rhai pobl wedi teimlo rhai sgil-effeithiau ysgafn, tymor byr ar ôl cael y brechlyn. Ymhlith y sgil-effeithiau cyffredin a gofnodwyd mae symptomau "tebyg i ffliw" fel cur pen, poenau a thwymyn. Gall y fan lle rhoddwyr y pigiad deimlo’n boenus a dolurus hefyd. Nid oes tystiolaeth wyddonol bod y brechlyn yn cael effaith hirdymor ar y corff.

Nid yw'r brechlynnau'n defnyddio'r feirws byw sy'n achosi COVID-19; ni all y brechlyn roi COVID-19 ichi.

Bydd cael eich brechu a dilyn mesurau amddiffyn yn eich diogelu chi a'ch anwyliaid rhag mynd yn ddifrifol wael neu farw o'r feirws.

Beth sydd yn y brechlynnau?

Mae brechlynnau COVID-19 yn achub bywydau. Er gwaethaf rhywfaint o wybodaeth gamarweiniol am yr hyn y mae brechlynnau COVID-19 yn ei gynnwys, nid yw’r brechlynnau yn cynnwys unrhyw beth sy'n deillio o bobl neu anifeiliaid.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma:

Brechlyn Pfizer BioNTech, brechlyn AstraZenecabrechlyn Moderna.

Ar ôl imi gael y brechlyn, a gaf i fynd yn ôl i'r bywyd arferol oedd gen i cyn y pandemig?

Bydd effaith brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol yn cynnig amddiffyniad i unigolion yn ogystal â mwy o amddiffyniad i'n teuluoedd, ein ffrindiau a'n cymunedau. Maes o law, gallai olygu bod cyfyngiadau'n cael eu llacio ac y a gallwn symud ymhellach tuag at ddychwelyd i fywyd mwy normal o ddydd i ddydd. Wrth i’r rhaglen frechu COVID-19, fynd rhagddi, bydd yn cymryd amser i gyrraedd pawb. Ein nod yw cynnig brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf 2021.

Nid yw cael brechiad yn golygu eich bod wedi'ch diogelu'n llawn. Hyd yn oed os cewch eich brechu, mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu trosglwyddo'r feirws i eraill yn y gymuned, felly dylech barhau i ddilyn y mesurau amddiffyn i'ch diogelu eich hun a'r rhai o'ch cwmpas.

A yw amrywiolynnau newydd y feirws yn fwy heintus na'r straen gwreiddiol?

Mae nifer o amrywiolynnau newydd sy'n peri pryder wedi dod i'r amlwg yn ystod y misoedd diwethaf gan gynnwys un o Dde Affrica, un arall o Gaint ac amrywiolyn Brasil.

Ceir tystiolaeth wyddonol bod yr amrywiolynnau hyn yn tueddu i ledaenu'n gyflymach a'u bod yn fwy trosglwyddadwy na'r math gwreiddiol o COVID-19 ac rydym yn cadw llygad fanwl ar y rhain.

Wrth i straeniau newydd ddod i'r amlwg, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau sylfaenol i'n cadw i gyd yn ddiogel. Mae hyn yn golygu cadw ein pellter oddi wrth eraill; golchi ein dwylo'n aml; gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwn mewn mannau cyhoeddus o dan do; sicrhau awyru da o dan do, aros gartref cyn gynted ag y bydd gennym symptomau a threfnu i gael prawf.

Sut mae ysgolion yn cael ailagor os gall plant ledaenu'r feirws?

Mae gostyngiad mewn achosion yn y rhan fwyaf o ranbarthau Cymru yn golygu bod digon o hyblygrwydd i alluogi ein dysgwyr i ddychwelyd i’r ysgol yn raddol. Rhoddwyd blaenoriaeth i’n dysgwyr ieuengaf i ddechrau oherwydd y dystiolaeth ynghylch trosglwyddo mewn plant iau, ac oherwydd ein bod yn gwybod eu bod yn ei chael yn anodd dysgu o bell. 

Bydd yn bwysig monitro’r tueddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i blant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth a myfyrwyr i'r campws. Mae hefyd yn bwysig nodi bod mesurau diogelu amrywiol ar waith mewn ysgolion ac ar gerbydau cludiant i’r ysgol er mwyn lleihau'r risg o haint.

Os ydw i eisoes wedi cael COVID-19, alla i ei ddal eto?

Rydym yn gwybod y gall rhai pobl sydd wedi gwella o COVID-19 gael eu hailheintio.

Daeth astudiaeth ddiweddar a noddwyd gan Public Health England o fwy nag 20,000 o weithwyr gofal iechyd i'r casgliad bod y rhan fwyaf o bobl sy'n dal COVID-19 ac yn gwella ohono yn debygol o fod yn imiwn am rai misoedd wedyn.

Mae ail-ddal yr haint yn anarferol ond mae ymchwil yn awgrymu y gall pobl sy'n cael eu hailheintio gario lefelau uchel o'r feirws yn eu trwyn a'u gwddf, hyd yn oed pan nad ydynt yn dangos symptomau. Mae hynny’n golygu bod risg uchel o drosglwyddo'r feirws i eraill.

Hyd yn oed os ydych wedi cael COVID-19 ac wedi gwella, mae'n bwysig dilyn mesurau amddiffyn i leihau'r siawns o'i ledaenu i eraill.