Neidio i'r prif gynnwy

1. Gwerthoedd Craidd i lywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau ar gyfer darparu gofal iechyd i bawb yng Nghymru

Wrth fynd i'r afael â darpariaeth gofal iechyd yn ystod Pandemig COVID-19 yng Nghymru, y gwerth craidd sy'n sail i'r fframwaith moesegol hwn yw ‘pryder a pharch cyfartal’. Mae hyn yn hyrwyddo'r ymrwymiad cyfansoddiadol craidd i gydraddoldeb, a'r mesurau amddiffyn i bawb, sydd wedi'u corffori yn y gyfraith yng Nghymru mewn perthynas â llywodraethu ac iaith.

Mae hyn yn golygu'r canlynol:

  • mae pawb yn bwysig – caiff gwasanaethau iechyd eu darparu mewn ffordd sy'n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol 
  • mae pawb yr un mor bwysig â'i gilydd – nid yw hyn yn golygu y caiff pawb ei drin yn yr un ffordd, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau iechyd weithio'n effeithiol ac yn deg mewn partneriaeth â phob person yn unol â'i anghenion
  • mae buddiannau pob person yn bwysig i bob un ohonom, ac i'n cymdeithas
  • mae'r niwed a allai pob person ei ddioddef yn bwysig ac, felly, nod ein gweithredoedd yw lleihau'r niwed y gallai pandemig ei achosi

2. Defnyddio'r fframwaith i ddarparu gwasanaethau iechyd yn deg

Mae gwerth craidd ‘pryder a pharch cyfartal’ yn dwyn nifer o wahanol egwyddorion moesegol ynghyd. Pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniad penodol, gellir defnyddio'r rhestr ganlynol o egwyddorion yn systematig er mwyn helpu'r rhai sy'n darparu gwasanaethau iechyd i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau y caiff yr ystod lawn o faterion moesegol ei hystyried.

3. Yr egwyddorion a'r gyfraith sy'n sail i ddarparu gofal iechyd mewn ffordd foesegol

Ystyr parch

 Yw:

  • gweld y person yn ei gyfanrwydd, gan ystyried ei hawliau, ei ddymuniadau a'i deimladau fel unigolyn unigryw
  • rhoi cymaint â phosibl o wybodaeth i bobl, gan sicrhau bod gohebiaeth ar gael mewn fformatau hygyrch yn eu dewis iaith
  • rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn a chymryd rhan mewn penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio arnynt
  • ymateb i ddewisiadau personol pobl ynglŷn â'u triniaeth a'u gofal, gan gynnwys anghenion cyfathrebu a chymorth
  • pan na all pobl wneud penderfyniad, bydd y rhai sy'n penderfynu drostynt yn gwneud hynny'n seiliedig ar fudd pennaf yr unigolyn dan sylw
  • cynnal cyfrinachedd

Ystyr lleihau'r niwed a achosir gan y pandemig

Yw:

  • cydweithredu er mwyn cyfyngu ar ledaeniad yr haint, yn enwedig ymhlith grwpiau mwy agored i niwed
  • lleihau'r risg o gymhlethdodau os bydd rhywun yn sâl
  • osgoi achosi niwed drwy roi neu beidio â rhoi triniaeth neu ymyriad yn amhriodol
  • dysgu o brofiad, gartref ac mewn gwledydd tramor, o ran y ffordd orau o ddarparu'r gofal iechyd gorau posibl i bobl sy'n sâl, a chyfrannu at waith ymchwil er mwyn meithrin gwybodaeth amdano
  • lleihau'r tarfu ar gymdeithas a achosir gan y pandemig, gan gynnwys niwed corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac economaidd
  • lleihau effaith gweithgarwch sy'n gysylltiedig â'r pandemig ar wasanaethau iechyd hanfodol eraill sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pobl yn goroesi a sicrhau eu llesiant

Ystyr tegwch

Yw:

  • bod pawb yr un mor bwysig â'i gilydd, felly dylai pobl sydd yr un mor debygol o gael budd o adnoddau gofal iechyd gael yr un cyfle i fanteisio arnynt
  • bod yn rhaid i ffyrdd o asesu buddiannau a niwed posibl yn sgil ymyriad iechyd neu ei amseriad barchu hawliau unigolion

Ystyr cydweithio

Yw:

  • bod yn rhaid i wasanaethau gofal iechyd gydweithio â gwasanaethau eraill, asiantaethau statudol a'r trydydd sector, er mwyn cynllunio ar gyfer pandemig, ac ymateb iddo
  • bod yn rhaid i wahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd cyffredinol gydweithredu er mwyn helpu ei gilydd
  • bod dinasyddion a gweithwyr iechyd i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain, yn enwedig drwy beidio â pheryglu pobl eraill
  • bod gwasanaethau gofal iechyd yn barod i rannu gwybodaeth (er enghraifft, am effeithiau triniaeth, neu risgiau penodol i rai) a fydd yn helpu eraill 

Ystyr dwyochredd

sy'n seiliedig ar y cysyniad o gydymddibyniaeth rhwng defnyddwyr gofal iechyd, gweithwyr sy'n rhoi gofal a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau, yw:

  • y dylai unrhyw berson y gofynnir iddo wynebu mwy o risg neu faich yn ystod y pandemig gael cymorth i wneud hynny drwy fesurau llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol
  • y dylai arweinwyr gwasanaethau sicrhau y caiff risgiau a beichiau eu lleihau cymaint â phosibl i bawb, gan ymateb yn gymesur i'r risg

Ystyr bod yn gymesur

Yw:

  • na fydd y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth yn gor-ddweud nac yn bychanu'r sefyllfa ac y byddant yn rhoi'r wybodaeth fwyaf cywir posibl i bobl
  • y bydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gamau gweithredu a all effeithio ar fywydau beunyddiol pobl, gyda'r nod o amddiffyn y cyhoedd rhag niwed, yn gweithredu'n hyblyg ac yn gymesur â'r risgiau a'r buddiannau i unigolion

Ystyr hyblygrwydd

Yw:

  • y bydd y rhai sy'n llunio cynlluniau gofal iechyd unigol yn ystyried gwybodaeth newydd a newidiadau mewn amgylchiadau, ac yn addasu cynlluniau yn unol â hynny
  • y caiff pobl gymaint o gyfle â phosibl i fynegi pryderon ynglŷn â phenderfyniadau mewn perthynas â'u gofal iechyd sy'n effeithio arnynt, neu anghytuno â'r penderfyniadau hynny
  • y gall pobl sy'n anghytuno â phenderfyniad ynghylch eu gofal iechyd gael ail farn annibynnol, a hynny'n brydlon

Ystyr gwneud penderfyniadau da

Yw:

  • bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar ofal iechyd yn gweithredu'n agored ac yn dryloyw, yn unol â chyfrifoldebau proffesiynol a chyfreithiol, ac;
    • yn ymgynghori â phobl cymaint â phosibl yn yr amser sydd ar gael ac yn caniatáu digon o amser i wneud penderfyniadau (gydag eiriolwr os dymunir hynny), yn enwedig mewn perthynas â gofal diwedd oes a phenderfyniadau Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol
    • yn cynnwys pobl cymaint â phosibl mewn agweddau ar gynllunio gofal sy'n effeithio arnynt, gan ystyried eu hanghenion a'u dewisiadau unigol
    • yn hyrwyddo tegwch drwy asesu anghenion unigolion ac ymateb iddynt, osgoi polisïau hollgynhwysfawr yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, yn enwedig anabledd neu oed
    • yn ystyried yr holl safbwyntiau perthnasol a fynegir, a bod yn agored i gael eu herio
    • yn glir ynghylch pa benderfyniadau y mae angen eu gwneud, a'r model gofal neu ddadansoddi sy'n cael ei ddefnyddio
    • yn agored ynglŷn â'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud, a pham, a phwy sy'n gyfrifol am eu gwneud
    • yn ceisio sicrhau na chaiff unrhyw unigolion na grwpiau eu heithrio rhag cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
    • yn atebol am y penderfyniadau a gaiff eu gwneud neu na chânt eu gwneud
    • yn gwneud penderfyniadau rhesymol a synhwyrol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, drwy ddilyn proses glir ac ymarferol
    • yn cofnodi penderfyniadau a chamau gweithredu ynghyd â'r cyfiawnhad neu'r rhesymau drostynt