Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd arolwg ar-lein sy’n gofyn i blant a phobl ifanc Cymru am eu sylwadau a’u barn yn ystod pandemig y coronafeirws ei lansio heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r arolwg, Coronafeirws a fi, yn agored i bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed. Mae’n ymdrin â themâu a materion allweddol, gan gynnwys iechyd, addysg, effaith y coronafeirws ar agweddau cymdeithasol ar eu bywydau ac anghenion grwpiau penodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Chomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru i lunio’r arolwg cenedlaethol. Llywodraeth Cymru yw’r llywodraeth gyntaf yn y DU i geisio barn plant a phobl ifanc y wlad yn ffurfiol.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lywio dull Llywodraeth Cymru o weithio gyda chenhedlaeth iau Cymru a chyfathrebu â hi yn ystod cyfnod y pandemig a thu hwnt iddo.

Er mwyn caniatáu i amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc gymryd rhan, gan gynnwys plant o dan 7 oed ac unigolion ag anghenion cymorth ychwanegol, mae fersiwn â symbolau o’r arolwg ar gael. Mae yna hefyd weithgaredd sy’n cynnwys lluniau y gellir ei gwblhau yn lle llenwi’r arolwg sydd ar ffurf testun.

Mae Jonathon Dawes, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru sy’n cynrychioli Dyffryn Clwyd, yn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle i fynegi eu barn.

Dywedodd Jonathon:

Mae’r coronafeirws yn cyflwyno llawer o heriau i bobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae’r heriau hynny’n amrywio o faterion yn ymwneud â chyflogaeth i faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mynegwch eich barn chi drwy gymryd rhan yn ein harolwg. Cafodd ei lunio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Plant er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael cyfle i ddweud eich dweud.”

Ychwanegodd Finlay Bertram, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Gorllewin Casnewydd:

“Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gael cyfle i fynegi ei farn am y pwnc pwysig iawn hwn sy’n effeithio arnom ni i gyd.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae barn plant a phobl ifanc yn ganolog i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yng Nghymru.

“Gall cyfnodau fel hyn fod yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc. Mae’r arolwg hwn yn gyfle pwysig inni glywed eu sylwadau a’u pryderon. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni’n gwrando ac yn cymryd camau i leddfu pryderon ac yn gwneud ein gorau i dawelu meddyliau.

“Bydd ein partneriaid yn gwneud pob ymdrech i dargedu grwpiau sydd o bosib yn teimlo nad yw’r neges yn berthnasol iddyn nhw, sy’n agored i niwed, sy’n ynysig yn ddigidol neu sy’n methu cyfathrebu’n dda iawn er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys cymaint o blant a phobl ifanc ag y gallwn ni.”

Wrth siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, dywedodd y Gweinidog:

Mae eich meddyliau, eich barn a’ch profiadau chi yn bwysig iawn. Dyna pam rydw i eisiau clywed gan gynifer ohonoch chi â phosibl. Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau’r arolwg hwn i’n helpu ni i’ch cefnogi chi.”

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Fe newidiodd bywydau plant a phobl ifanc dros nos pan gafodd ysgolion, meithrinfeydd, colegau a meysydd chwarae eu cau. Un o fy mhrif flaenoriaethau yw gwneud yn siŵr nad ydy plant a phobl ifanc yn cael eu hanghofio yn ystod y pandemig hwn. Rydw i eisiau gwneud yn siŵr y bydd yr arolwg cenedlaethol hwn yn siapio syniadau Llywodraeth Cymru ac yn dylanwadu ar y camau y bydd yn eu cymryd.

“Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym lywodraeth yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i sicrhau hawliau plant ac sy’n awyddus i wrando ar sylwadau plant ar adeg pan fo angen iddi wrando fwyaf.”

Bydd yr arolwg yn cael ei hyrwyddo’n eang drwy’r cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau partneriaeth ac ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru.

Mae’r arolwg i’w gael yma: www.complantcymru.org.uk/coronafeirwsafi