Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cynllun cymorth ar gyfer unigolion sy'n agored iawn i niwed yn glinigol (cleifion a warchodir) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data am o leiaf 6 mis i gynorthwyo ag unrhyw ymholiadau pellach. Bydd yr holl drefniadau rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol a'n partneriaid yn y sector preifat hefyd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Er mwyn rhoi cymorth i bobl agored i niwed (gan gynnwys y rhai y gofynnwyd iddynt eu gwarchod eu hunain mewn llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol) y gofynnwyd iddynt hunanynysu yn ystod pandemig Covid 19 (coronafeirws), bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn prosesu data personol adnabyddadwy'r bobl hynny. Cesglir y data o ffynonellau lluosog, gan gynnwys yn uniongyrchol oddi wrth bobl agored i niwed neu eu gofalwyr dros y ffôn neu drwy'r rhyngrwyd. Ni fyddwn ond yn casglu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi'r bobl hynny sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data ar gyfer y data personol y mae'n ei gasglu.  Byddwn yn prosesu'r data hwn yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio ynom. Pan fydd yr wybodaeth yn ddata categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd o ran amddiffyn pobl agored i niwed.

Bydd y data'n cael ei brosesu i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ystod epidemig y coronafeirws drwy ddatblygu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol, ac yn hwyluso’r gwaith o ddarparu eitemau hanfodol i'r rhai sydd yn y perygl mwyaf, gan gynnwys bwyd a meddyginiaeth.

Byddwn yn rhannu'r wybodaeth angenrheidiol â thrydydd partïon, megis partneriaid y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid yn y sector preifat gan gynnwys cwmnïau cyflenwi bwyd. Ni fyddwn yn rhannu data personol ond i'r graddau y bydd angen hynny er mwyn cefnogi pobl agored.

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei storio ar weinyddion diogel. Bydd data personol, adnabyddadwy a rennir gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a chyflenwyr trydydd parti yn cael ei drosglwyddo yn unig gan ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig presennol lle bynnag y bo modd. Dim ond data sy'n gwbl angenrheidiol ar gyfer darparu cymorth i bobl agored i niwed a gaiff ei rannu.

Bydd data personol personol a ddelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am o leiaf 6 mis ar ôl i’r cyfyngiadau ar symud oherwydd epidemig y coronafeirws gael eu codi’nllawn, a hynny er mwyngalluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i unrhyw gwestiynau terfynol neu i helpu gyda'r Ymchwiliad COVID-19 arfaethedig. Wedi hynny bydd y data personol yn cael ei ddinistrio'n ddiogel. Byddwn yn parhau i gadw data ystadegol dienw am y rhestr at ddibenion ymchwil a gwerthuso, ond ni fydd yn bosibl adnabod unigolyn o'r wybodaeth hon..

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni er mwyn eich cefnogi, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I weld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch.
  • I ofyn inni gywiro unrhyw beth sy'n anghywir yn y data hwnnw.
  • o dan rai amgylchiadau, i wrthwynebu bod y data'n cael ei brosesu.
  • Yr hawl (o dan rai amgylchiadau) i ofyn bod eich data yn cael ei ddileu.
  • i gofrestru cwyn yn Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.