Skip to main content

Cefndir

Mae'r sefyllfa hon yn newid yn gyflym. Cofiwch edrych ar GOV.UK i weld unrhyw gyhoeddiadau. 

Mae tudalen Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi datganiad dyddiol am 12pm.

 Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:

Nod y canllawiau hyn yw darparu cyfarwyddyd penodol i denantiaid y sector preifat ledled Cymru.

Caiff y ddogfen hon ei diweddaru’n rheolaidd wrth i fwy o wybodaeth, canllawiau a chymorth ddod i’r amlwg.

Aros gartref

Y cyngor diweddaraf yw aros gartref, a pheidio â gadael y tŷ ond am resymau hanfodol yn unig.

  • Peidiwch â mynd allan heblaw i brynu bwyd, i wneud ymarfer corff, am resymau iechyd neu i wneud gwaith hanfodol
  • Arhoswch 2 fetr (6 tr) i ffwrdd oddi wrth bobl eraill
  • Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref

Gall unrhyw un ledaenu’r feirws.

Canllawiau llawn ar aros gartref ac i ffwrdd oddi wrth eraill.

Hunanynysu

Yn ogystal â dilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus diweddaraf, mae’n bwysig ystyried cadw mewn cysylltiad â’ch landlord a/neu eich asiant rheoli.

Os oes rhaid ichi hunanynysu, rydym yn awgrymu y dylech roi gwybod i’ch landlord a/neu eich asiant rheoli. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd eich landlord a/neu eich asiant rheoli:

  • Wedi trefnu neu ar fin trefnu i rywun weld yr eiddo;
  • Wedi trefnu neu ar fin trefnu i rywun ddod i atgyweirio rhan o’r eiddo;
  • Wedi trefnu neu ar fin trefnu i rywun ddod i wneud gwaith cynnal a chadw ar yr eiddo;
  • Wedi trefnu ymweliad â’r eiddo am unrhyw reswm arall.

Rydym yn awgrymu y dylech roi gwybod i’ch landlord a/neu eich asiant rheoli sut i gysylltu â chi, ee drwy e-bost, ar y ffôn neu drwy neges destun, neu os nad yw hyn yn bosibl, drwy aelod o’r teulu neu ffrind.

Os ydych yn rhannu ardaloedd byw ag eraill, ee cegin, ystafell ymolchi neu lolfa, dylech roi gwybod i’r bobl eraill rydych yn byw gyda nhw eich bod yn hunanynysu, gan ddilyn y canllawiau canlynol: Aros gartref: canllawiau i aelwydydd a allai fod wedi’u heintio â choronafeirws (COVID-19).

Gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio i'ch eiddo rhent

Nid yw rhwymedigaethau atgyweirio eich landlord wedi newid. Mae gan denantiaid yr hawl i gartref gweddus, cynnes a diogel ac mae er lles gorau tenantiaid a landlordiaid i sicrhau bod eiddo'n cael ei gadw mewn cyflwr da ac yn rhydd o unrhyw beryglon.

Fodd bynnag, dylid gohirio unrhyw ymweliadau ag eiddo nad oes brys amdanynt – mae hyn yn cynnwys dangos yr eiddo i denantiaid newydd neu brynwr, gwaith glanhau a gwaith atgyweirio a/neu gynnal a chadw nad oes brys amdano ac nad yw’n fater iechyd a diogelwch brys. Os bydd angen mynediad ar frys i’r eiddo, os bydd rhaid i landlord ymweld ag eiddo a/neu fod rhaid i rywun ymweld â’r eiddo ar ei ran, rydym yn argymell ei fod yn cysylltu â chi, y tenant, er mwyn cael gwybod p’un a ydych yn hunanynysu a dilyn y cyngor meddygol a roddwyd.

Dylai unrhyw ofyniad i newid unrhyw broses lanhau y cytunwyd arni, megis glanhau mannau cymunol mewn tai amlfeddiannaeth, gael eu cyfathrebu i chi gan eich landlord neu eich asiant rheoli, a dylid cytuno ar broses amgen dros dro.

Rhaid cymryd i ystyriaeth amgylchiadau tenantiaid unigol, yn enwedig lle mae tenantiaid yn wynebu rhwystrau corfforol sy'n eu hatal rhag gallu glanhau mannau a rennir, megis anabledd neu gyflwr iechyd - dylid eu rheoli mewn ffordd sensitif.

Mae materion iechyd a diogelwch brys yn faterion a fydd yn effeithio ar eich gallu i fyw'n ddiogel a chynnal eich iechyd meddwl a chorfforol yn yr eiddo. Gallai hyn gynnwys (ond nid yw wedi'i gyfyngu i):

  • os oes problem gyda adeiladwaith yr adeilad e.e. bod y to yn gollwng.
  • os yw'r boiler wedi torri, sy'n golygu nad oes gennych wres na dŵr poeth.
  • os oes problem plymio, sy'n golygu nad oes gennych gyfleusterau ymolchi na thoiled.
  • os yw'r nwyddau gwynion fel oergell neu beiriant golchi, y mae eich landlord yn gyfrifol amdanynt, wedi torri sy'n golygu nad ydych yn gallu golchi dillad na storio bwyd yn ddiogel.
  • os oes problem diogelwch e.e. ffenestr neu ddrws allanol wedi torri.
  • os oes angen gosod neu atgyweirio cyfarpar y mae person anabl yn dibynnu arno.

Gall arolygwyr neu weithwyr cynnal a chadw barhau i ymweld â blociau o fflatiau ac eiddo amlfeddiannaeth i wneud gwaith hanfodol neu waith brys fel arolygu a phrofi larymau tân a systemau goleuadau argyfwng lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Rhannu ardaloedd byw

Os ydych wedi darllen y cyngor meddygol, ac wedi penderfynu a/neu wedi cael cyngor i hunanynysu, dylech lle bynnag y bo’n bosibl gadw ar wahân oddi wrth y bobl eraill ar eich aelwyd.  

Bydd rhai ohonoch yn rhannu ardaloedd byw sy’n gwneud hyn yn arbennig o anodd. Dylech dreulio cyn lleied â phosibl o amser yn yr ardaloedd rydych yn eu rhannu, ee ceginau, ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd eistedd, a sicrhau eu bod yn cael digon o awyr iach. Gofalwch fod yr ardaloedd a rennir yn cael eu glanhau’n rheolaidd, gan gynnwys pob arwyneb.

Os ydych yn rhannu toiled a/neu ystafell ymolchi, mae’n bwysig eich bod yn eu glanhau ar ôl ichi eu defnyddio bob tro (ee glanhau arwyneb rydych wedi’i gyffwrdd). Gallech ystyried creu rota ar gyfer cael cawod/bath, gan drefnu mai’r tenant sy’n hunanynysu sy’n defnyddio’r cyfleusterau olaf, ac wedyn ei fod yntau’n glanhau’r gawod, y bath, y sinc a’r toiled yn drylwyr.

Os ydych yn rhannu cegin ag eraill, osgowch ei defnyddio tra bo eraill yno. Ewch â’ch prydau yn ôl i’ch ystafell i’w bwyta. Os oes gennych beiriant golchi llestri, defnyddiwch ef i lanhau a sychu’r llestri a’r cyllyll a ffyrc a ddefnyddiwch. Os nad yw hyn yn bosibl, golchwch nhw gan ddefnyddio eich hylif golchi llestri arferol a dŵr poeth, a’u sychu’n drylwyr, gan gofio defnyddio lliain gwahanol.

Dim ond eich brws dannedd chi y dylech ei ddefnyddio, a defnyddiwch eich cwpanau a’ch platiau eich hunain i yfed a bwyta ohonynt (gan gynnwys eich cwpanau a’ch gwydrau eich hunain yn yr ystafell ymolchi a’r ystafell wely). Hefyd defnyddiwch eich bwyd, diodydd, tywelion, clytiau golchi wyneb a chorff a dillad gwely eich hun. Ni ddylech rannu’r eitemau hyn ag aelodau eraill o’ch aelwyd, a gofalwch eich bod yn glanhau’r ardal rydych wedi’i defnyddio yn drylwyr â hylif glanhau gwrthfacterol.

Os oes gennych eich gardd eich hun, mae’n iawn ichi ei defnyddio cyn belled â’ch bod yn cadw dwy fetr rhyngoch chi ac aelodau eraill o’ch aelwyd a’ch cymdogion. Os oes modd, dylech ddefnyddio’r ardal hon ar adegau gwahanol.

Cyfrifoldebau gofal

Os ydych wedi’ch cyflogi, mae hawl gennych i gael amser o’r gwaith i helpu rhywun sy’n dibynnu arnoch (‘dibynnydd’) mewn achos annisgwyl neu frys. Byddai hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd sy’n codi mewn perthynas â’r coronafeirws (COVID-19). Er enghraifft:

  • os oes gennych blant y mae angen ichi ofalu amdanynt neu drefnu gofal ar eu cyfer am fod eu hysgol wedi cau
  • i helpu eich plentyn neu ddibynnydd arall os yw’n sâl neu os oes angen iddo hunanynysu neu fynd i’r ysbyty

Nid oes gennych hawl statudol i gael eich talu yn ystod eich cyfnod o’r gwaith, ond mae’n bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig eich talu, yn dibynnu ar y cytundeb neu bolisi’r gweithle. Efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod hwn. Gallwch gael gwybod mwy yma: Credyd Cynhwysol ar GOV.UK.

Os ydych yn gyd-riant, mae cyngor pellach yma: Canllawiau COVID-19 i blant a theuluoedd ar wefan Cafcass.

Lles meddyliol wrth hunanynysu

Rydym yn deall y gall hunanynysu fod yn ddiflas neu’n rhwystredig i rai. Efallai y bydd yn effeithio ar eich hwyl a’ch teimladau, a gallech fynd i deimlo’n isel, yn bryderus neu gael trafferth cysgu. 

Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i helpu, ee cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau ar y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn bwysig cadw i symud a gwneud ymarfer corff, hyd yn oed wrth hunanynysu gartref.

Mae yna adnoddau ar gael hefyd, gan gynnwys Every Mind Matters a Good Thinking. Mae rhai pobl sydd wedi hunanynysu wedi’i chael yn ddefnyddiol ailgydio mewn hobi neu ddysgu sgil newydd drwy gwrs ar-lein.

Newid mewn deddfwriaeth – troi tenantiaid allan o’u cartrefi

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i gefnogi pobl sy’n rhentu yng Nghymru. Os yw tenantiaid yn cael trafferth talu rhent yn y cyfnod hwn, rydym wedi gofyn i landlordiaid beidio â rhoi hysbysiad cymryd meddiant, yn enwedig o ystyried y gallai eu tenantiaid fod yn sâl neu'n wynebu caledu arall oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, mae Deddf Coronafeirws 2020 Llywodraeth y DU yn darparu diogelwch ychwanegol i denantiaid drwy ymestyn y cyfnod rhybudd a roddir iddynt cyn y gellir eu troi allan i dri mis. Mae’r mesurau hyn wedi dod i rym yng Nghymru hefyd.  

Bydd y mesurau’n diogelu tenantiaid yng Nghymru rhag cael eu troi allan am gyfnod rhesymol a phenodedig, i gydnabod yr ansicrwydd sy’n deillio o bandemig y coronafeirws. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi rhybudd o dri mis o leiaf i’w tenantiaid o’u bwriad i ddod â thenantiaeth i ben.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i denantiaethau diogel, sicr, byrddaliadol sicr, rhagarweiniol ac isradd, ynghyd â thenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o denantiaid, felly, yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol.  Newid y sefyllfa dros dro yw nod y mesurau hyn, er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i denantiaid yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y mesurau felly’n weithredol am chwe mis, tan 30 Medi eleni.

Fodd bynnag, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ymateb yn gyflym, mae pwerau wedi’u cynnwys i ymestyn y cyfnod rhybudd i hyd at chwe mis ac i ymestyn y cyfnod y bydd yn berthnasol.

Yn ogystal, bydd y gwaharddiad o 90 diwrnod ar wrandawiadau a gorchmynion adennill meddiant, a ddechreuodd ar 27 Mawrth, hefyd yn effeithio ar unrhyw hawliadau meddiant gan landlordiaid sydd yn y system llysoedd, neu ar fin mynd i'r system.

Anawsterau ariannol ac ôl-ddyledion rhent

Os bydd rhaid ichi hunanynysu ac, o ganlyniad uniongyrchol i hynny, y byddwch yn wynebu anawsterau o ran talu eich rhent, siaradwch â’ch landlord a/neu eich asiant rheoli cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddynt am yr heriau rydych yn eu hwynebu. Efallai y bydd modd iddynt lunio cynllun i’ch helpu i ad-dalu unrhyw arian sy’n ddyledus neu gynnig seibiant rhent ichi (os ydynt wedi dod i drefniant seibiant talu morgais eu hunain). Rydym wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid rheoli, ac maent i’w gweld yma o dan yr adran Tai.

Mae nifer o fesurau brys wedi’u rhoi yn eu lle i sicrhau na fydd cyfleustodau tenantiaid agored i niwed yn cael eu hatal yn ystod y cyfnod hwn. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK.

Os oes gennych hawl i gael Credyd Cynhwysol tuag at eich costau tai, yna mae’n bosibl bod gennych hawl i wneud cais am Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai. Mae rhagor o wybodaeth yma: Hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar GOV.UK.

I’r rheini sy’n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol ac sy’n hunanynysu yn sgil y Coronafeirws – COVID-19, cewch Dâl Salwch Statudol o’r diwrnod cyntaf y byddwch yn hunanynysu heb allu gweithio. Mae rhagor o wybodaeth yma: Tâl Salwch Statudol ar GOV.UK

Mae’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y DU am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cyfrannol yma: Cefnogaeth i’r rheiny effeithir arnynt gan COVD-19 ar GOV.UK

Mae canllawiau i’ch helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar GOV.UK.

If you have concerns around losing your job, or have been made redundant, information on support that may be available to you can be found on the Working Wales website.

Efallai y byddwch am gysylltu hefyd â’r Ganolfan Byd Gwaith. Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa leol yma: Cysylltu â Canolfan Byd Gwaith ar GOV.UK.

Os ydych mewn perygl o golli eich cartref, neu os ydych wedi derbyn hysbysiad yn nodi bod yn rhaid ichi adael eich cartref, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol. Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch hefyd ofyn i’ch awdurdod lleol am Ostyngiad Treth Gyngor (CRT). Nodwch eich cod post yma i gael manylion eich awdurdod lleol.

Adnoddau pellach

I gael cymorth a chyngor pellach, cysylltwch â Shelter Cymru ar 08000 495 495 neu Cyngor ar Bopeth ar 0345 404 0506.

Mae gan Shelter Cymru dudalen benodol ar eu gwefan i gefnogi tenantiaid yn ystod y pandemig hwn: gweler Cyngor tai: coronafeirws (COVID-19) ar wefan Shelter Cymru.

Rhannu’r dudalen hon