Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i ddarparwyr llety ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer gwasanaethau sy’n gweithio gyda’r rheini sy’n cyflawni pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae’n hanfodol bod gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr yn gallu ymateb i’r risgiau newidiol sy’n gysylltiedig â COVID-19, er mwyn iddynt allu diogelu dioddefwyr a phlant rhag niwed. Byddai gwasanaethau o’r fath eisoes wedi gwneud newidiadau yn y ffordd y maent yn gweithredu er mwyn lleihau’r risg o ledaenu COVID-19 drwy gysylltiadau staff a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y canllawiau hyn yn cynnig gwybodaeth ar sut y gall gwasanaethau weithredu gan gymryd COVID-19 i ystyriaeth, a sut y gallant leihau’r risgiau cysylltiedig.

Effeithiau COVID-19 ar ymddygiad cyflawnwyr trais

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai COVID-19, a’r newidiadau y mae angen eu gwneud yn sgil y feirws, roi dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mewn mwy o berygl.

Mae’r cyfleoedd ar gyfer troseddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cynyddu, gan fod angen i unigolion aros gartref yn fwy na fyddent o’r blaen. Yn ychwanegol, gallai troseddau VAWDASV fod hyd yn oed yn fwy ‘cuddiedig’ nag oeddent o’r blaen, gan na all dioddefwyr a goroeswyr y troseddau hynny weld eu teulu, eu ffrindiau a’u cydweithwyr am gyfnodau estynedig.

Ar ben hynny, gallai dioddefwyr gael llai o gysylltiad ag eraill, ac mae’n bosibl y bydd y rheini, fel cymdogion, gweithwyr iechyd a staff siop yn sylwi ac yn holi ynghylch a ydynt yn agored i niwed.

Gallai’r ffaith bod pawb o dan fwy o straen oherwydd COVID-19 hefyd gynyddu’r risg y byddai cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyflawni mwy o droseddau o’r fath. Gallai’r straen fod yn gysylltiedig â’r canlynol:

  • Pryderon am y feirws ei hun a’r risg o ran eu hiechyd (ac iechyd eraill)
  • Bod wedi’u cyfyngu yn y cartref o ganlyniad i’r cyfyngiadau newydd
  • Amhariadau eraill, fel colli cyflogaeth sefydlog.
  • Teimlo bod eu synnwyr o reolaeth dros eu hunain, dros eraill, ac am eu sefyllfa bresennol yn cael ei herio.

Gallai’r cyfyngiadau mewn perthynas â gadael y cartref a chau nifer o’r mannau cyhoeddus gael effaith hefyd ar ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n camddefnyddio sylweddau. Mae’n bosibl na fyddant yn gallu cael hyd i’r sylweddau y maent yn eu defnyddio neu efallai y byddant yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau yn y cartref. Gallai hynny gynyddu lefel eu risg.

Mae’n bosibl bod y cyflawnwyr hynny sy’n ad-droseddu, neu sy’n fympwyol ac yn mentro peryglon o ran eu ffordd o fyw, yn fwy tebygol o ledaenu COVID-19.

Dylai'r gwasanaethau fod yn ymwybodol bod swyddogion Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru. Gwneir hynny er mwyn i'w gwaith fynd yn sail i gynlluniau wrth gefn, sy'n blaenoriaethu diogelwch staff a defnyddwyr gwasanaethau ac yn sicrhau bod diogelu'r cyhoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

I'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, bydd hynny'n cynnwys blaenoriaethu achosion sydd wedi'u hasesu i fod yn risg uchel neu'n risg uchel iawn o niwed difrifol ac o gam-drin domestig ac achosion i ddiogelu plant ac oedolion. Mae'r gofynion i gadw pellter cymdeithasol yn golygu bod angen mabwysiadu dulliau gwahanol i oruchwylio cyflawnwyr mewn modd priodol.

Mae nifer o garcharorion wedi'u rhyddhau yn gynnar. Mae gwaith ar y gweill i sichrau bod sefydliadau partner yn barod pe byddai penderfyniad i ryddhau rhagor o garcharorion. Diogelu ac amddiffyn y cyhoedd yw'r flaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Cam-drin domestig

Mae’r cam-drin sy’n digwydd tra bo cyfyngiadau COVID-19 ar waith yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ddigwydd ym mhresenoldeb plant na allant fynd i’r ysgol ar hyn o bryd.

Gallai'r cyfyngiadau presennol ynghylch gadael y cartref roi mwy o gyfleoedd i gyflawnwyr reoli drwy orfodaeth.

Gallai COVID-19 gael effaith ar drefniadau o ran cael cysylltiad â phlentyn, neu gynnig cyfle i'r trefniadau hynny gael eu newid neu eu torri, a allai gynyddu'r risg o gam-drin. Ceir dolenni at y canllawiau perthnasol ar ddiwedd y ddogfen hon.

Roedd Monckton-Smith (2019) wedi cysylltu salwch â 'digwyddiad sbardun' posibl ar gyfer rhai cyflawnwyr cam-drin domestig, a allai arwain at gynyddu achosion o gam-drin ac o bosibl o ddynladdiadau trais domestig.  Yn ôl Dr Monckton-Smith, y rheswm am hynny yw y gallai salwch arwain at deimlo bod eu synnwyr o reolaeth drostynt eu hunain, dros eraill a thros eu sefyllfa'n cael ei herio.

Trais rhywiol

Gallai trais rhywiol ddigwydd mewn lleoliad cam-drin domestig, a dylai'r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai'r risg i hynny ddigwydd gynyddu oherwydd y rhesymau a amlinellir uchod.

Mae hefyd yn bosibl y bydd trais rhywiol yn parhau i ddigwydd y tu allan i'r cartref. Er gwaethaf y cyfyngiadau, efallai y bydd casgliadau o bobl yn ymgynnull neu bartïon yn cael eu cynnal. Mae'n bosibl y bydd canlyniadau cyfreithiol neu gymdeithasol cynnal cynulliadau o'r fath neu fod yn bresennol ynddynt yn atal dioddefwyr rhag sôn am yr ymosodiad.

Dylai'r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai gweithwyr rhyw gael eu camfanteisio o hyd, er gwaethaf y cyfyngiadau.

Cam-drin ar sail anrhydedd ac arferion niweidiol

Dylai'r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai cam-drin ar sail anrhydedd, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, a phriodi dan orfod barhau o hyd tra bo'r cyfyngiadau ar waith. Fel arfer mae cam-drin ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodasau dan orfod yn cael eu cyflawni gan aelodau penodol o'r teulu, neu gan y teulu cyfan hyd yn oed. Mae unedau teuluol estynedig sy'n byw gyda'i gilydd mewn un annedd yn gyffredin mewn nifer o gymunedau sy'n cynnal arferion o'r fath. O ganlyniad, gallai'r cyfyngiadau presennol gynnig yr amser a'r cyfle i arferion o'r fath ddigwydd heb i neb sylwi, oherwydd y gallai'r ffaith nad oes mynediad i ysgolion a gwasanaethau eraill olygu na all dioddefwyr ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol a allai godi pryderon ynghylch diogelwch unigolion.

Fodd bynnag, dylai'r gwasanaethau fod yn ofalus o ran tybio bod yr arferion hyn yn cael eu cynnal mewn cymuned, dim ond oherwydd bod y gymuned wedi'i rhestru i ddod o un o'r gwledydd gwreiddiol sy'n arfer y camdriniaethau hynny. Gall rhagdybiaethau o'r fath wneud i deuluoedd a chymunedau nad ydynt yn ymwneud â'r arferion hynny deimlo eu bod wedi'u targedu'n annheg.

Dylai pob achos posibl neu gadarn o gam-drin ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod neu briodasau dan orfod gael eu trin yn unigol, gan gymryd camau cyflym a phriodol yn unol â chanllawiau'r llywodraeth ac ar sail tystiolaeth. Ceir rhagor o wybodaeth gan y Swyddfa Gartref ar anffurfio organau cenhedlu benywod, a chan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Swyddfa Gartref ar briodasau dan orfod, yn adran 'Dolenni Defnyddiol' y canllawiau hyn.

Canllawiau ar barhau i gynnal gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

1. Egwyddorion cyffredinol

Diogelu

Diogelu dioddefwyr, plant a defnyddwyr y gwasanaeth yw’r egwyddor a ddylai fod yn llywio pob penderfyniad a wneir gan sefydliad mewn perthynas â’r ffordd y mae’n parhau i weithredu.

Dylai'r gwasanaethau sicrhau bod polisïau ac arferion diogelwch a chydnerthedd staff, plant a phobl ifanc yn ystyried mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth, gan gynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Rhaid ichi sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'ch dyletswyddau o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru. Ceir dolen atynt ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Dylid parhau i atgyfeirio pobl os bydd angen, er mwyn eu diogelu, er enghraifft, i Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) neu i wasanaethau plant.

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Safonau Gwasanaeth i Gyflawnwyr Trais Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr amrediad o ffactorau y dylai gwasanaethau eu hystyried wrth addasu’r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, a’u helpu i sicrhau bod eu gwaith yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae CAFCASS Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy'n ymwneud â'r coronafeirws. Ceir dolen atynt yn adran 'Dolenni Defnyddiol' y canllawiau hyn.

Dylai'r gwasanaethau ystyried effaith y trawma sy'n gysylltiedig â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol wrth gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Ceir dolen i ACE Aware Wales ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn annog darparwyr i sicrhau eu bod yn ystyried presenoldeb plant ac oedolion agored i niwed yn yr aelwyd. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu yn ystod y cyfnod hwn o hyd, ac yn derbyn pobl sydd wedi'u hatgyfeirio.

Asesu a rheoli risgiau

Gallai rhoi terfyn ar driniaeth neu ei haddasu fod yn ofidus ac yn anodd i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r rheini sy’n cael eu heffeithio gan ymddygiad y cyflawnwr. Dylai’r gwasanaethau geisio adlewyrchu dealltwriaeth o hynny fel rhan o’u ffordd o weithio. Ond ar yr un pryd ni ddylent gyfaddawdu’r angen i asesu risg a chymryd y camau priodol.   

Yn ystod cyfnodau pan fydd llai o adnoddau, dylid dilyn egwyddorion y model risg-angen-ymatebolrwydd, a dylai’r gwasanaethau roi sylw ac adnoddau i’r unigolion sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl.

Dylai asesiadau risg a’r atgyfeiriadau a chamau gweithredu dilynol gael eu cyflawni gan holl ddefnyddwyr gwasanaethau, hyd yn oed os gwneir penderfyniad i barhau â rhaglenni ac ymyriadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl yn unig.

Dylai’r gwasanaethau wneud defnydd o ddulliau asesu risg dilys. Bydd angen i asesiadau risg gael eu diweddaru’n rheolaidd o ystyried y sefyllfa newidiol.

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai rhannu gwybodaeth gael ei effeithio gan brinder staff. Mae hynny’n cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau i gyflawnwyr ac i ddioddefwyr mewn grwpiau amlasiantaeth, fel MARAC a Chanolfannau Diogelu Amlasiantaeth.

Cadw cofnodion, cyfrinachedd a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Dylai egwyddorion arferion da gael eu dilyn o hyd pan fydd gweithrediadau’n addasu i COVID-19, gan gynnwys cadw cofnodion da.

Rhaid i wasanaethau barhau i gydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a diogelu cyfrinachedd. Ceir gwybodaeth am reoli’r risg sy’n gysylltiedig ag aelodau o staff sy’n gweithio gartref yn nes ymlaen yn y canllawiau hyn.

Cyllid

Os ystyrir ei bod yn angenrheidiol i wario cyllid mewn ffyrdd gwahanol, dylai’r gwasnanaethau gysylltu â noddwyr cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau cytundeb ffurfiol.

Os bydd angen cyllid ychwanegol, dylai’r gwasanaethau rhoi dadl glir dros hynny. Ni ellir gwarantu y bydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael.

2. Rhaglenni ac ymyriadau

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cael cysylltiad uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaethau i gynnal asesiadau ymyriadau, gwaith goruchwylio a monitro. Yn sgil hynny, bydd angen i bob sefydliad wneud penderfyniad i naill ai rhoi terfyn ar wasanaeth neu ei addasu i osgoi cysylltiad sy’n llai na 2 fetr ar wahân.

Dylai’r penderfyniad ynghylch terfynu gwasnaeth neu ei addasu gael ei wneud yn dilyn ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â phob opsiwn yn ofalus.

Os bydd gwasanaethau neu raglenni wedi’u hachredu, dylent gael cyngor gan eu corff achredu cyn gynted ag y bo modd. Mae Respect wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer eu gwasanaethau achrededig ac ar gyfer ymarferwyr, a gallwch weld cyfeiriad at y canllawiau hynny ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi canllawiau eu hunain ar gyfer staff mewn perthynas â rheoli cyflawnwyr cam-drin domestig yng nghyd-destun COVID-19.

Dylai’r penderfyniad i derfynu neu addasu gwasanaeth gael ei gyfathrebu i ddefnyddwyr gwasanaethau cyn gynted ag y bo modd hefyd. Os bydd gwasanaeth yn cael ei derfynu, dylid rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth ar sut y gallant gael cymorth ychwanegol, ac a fydd modd iddynt barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Dylai’r penderfyniad i derfynu neu addasu gwasanaeth gael ei gyfathrebu hefyd i’r sefydliadau partner perthnasol cyn gynted ag y bo modd, gan gynnwys gwasanaethau i ddioddefwyr, er mwyn iddynt roi gwybod i’r dioddefwyr, a gallai unrhyw newidiadau gael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau diwygiedig ar ddiogelu dioddefwyr.

Terfynu rhaglen neu ymyriad

Os nad yw’n bosibl i wasanaeth, rhaglen neu ymyriad barhau heb gysylltiad uniongyrchol, neu os yw’r risg o wneud hynny’n rhy uchel, efallai y bydd angen terfynu neu ohirio’r gwasanaeth, y rhaglen neu’r ymyriad hwnnw.

Gall peidio â chwblhau ymyriad neu raglen fod yn gysylltiedig â mwy o risg. Os bydd grŵp neu ymyriad un-i-un yn cael eu terfynu, yna dylid cymryd camau i sicrhau bod lefelau risg defnyddwyr y gwasanaeth dan sylw’n cael eu monitro a’u cyfathrebu i’r asiantaethau perthnasol.

Dylid cynnig gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr neu eu cyfeirio i asiantaethau sy’n cynnig cymorth o hyd.

Dylai’r gwasanaethau benderfynu sut y bydd rhaglen neu ymyriad yn ailgychwyn yn dilyn y saib, ac os yw’n briodol, gyfathrebu hynny i ddefnyddwyr y gwasanaethau.

Dylai fod gan wasanaethau broses glir i ddelio ag atgyfeiriadau newydd yn ystod y cyfnod hwn. Os bydd rhaglen neu ymyriad yn cael eu terfynu, dylid ystyried yr effaith debygol ar gymhelliant a’r risg sy’n gysylltiedig â gohirio atgyfeiriadau.

Dylai’r gwasanaethau fod yn ystyrlon o’r effaith y gallai terfynu rhaglenni ac ymyriadau ei chael ar wasanaethau cysylltiedig eraill, fel yr heddlu neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Dylent gyfathrebu’r penderfyniad i derfynu rhaglen neu ymyriad i’r partneriaid hynny cyn gynted ag y bo modd.

Addasu gwasnaeth, rhaglen neu ymyriad

Dylid ystyried opsiynau i barhau i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau heb gysylltiad uniongyrchol, os yw hynny’n bosibl. Gallai fideoalwad neu alwad ffôn fod yn opsiynau y gellid eu hystyried. Os yw’r adnoddau’n brin, dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau sydd fwyaf mewn perygl.

Dylai gwaith a gynhelir gyda chyflawnwyr trais drwy fideoalwadau neu dros y ffôn ganolbwyntio ar reoli ymddygiad, yn hytrach na newid ymddygiad. A hynny oherwydd bod sylfaen dystiolaeth cyflawni amcanion newid ymddygiad drwy ddull anuniongyrchol yn parhau i fod yn aneglur.

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain wedi cyhoeddi “Effective Therapy via Video: Top Tips” a allai fod o ddefnydd i wasanaethau. Ceir dolen gyswllt at y ddogfen ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Os yw’n bosibl, dylid helpu defnyddwyr gwasanaethau i ddod o hyd i rywle yn eu cartrefi sy’n caniatáu preifatrwydd iddynt allu ymrwymo i’r ymyriad neu’r rhaglen heb fod unrhyw beth yn tynnu eu sylw oddi ar wneud hynny. Os nad yw hynny’n bosibl, dylai’r staff ystyried opsiynau eraill, a dylai lleoliad defnyddiwr y gwasanaeth a phwy arall sy’n bresennol yn y cartref gael eu cofnodi.

Os gwyddys na all defnyddiwr gwasanaeth ymgymryd â rhaglen neu ymyriad heb gysylltiad uniongyrchol, am resymau sy’n cynnwys nad oes mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiadur, ffôn clyfar neu rywle preifat ar gael, dylai hynny gael eu cyfathrebu i’r asiantaethau perthnasol

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai peidio â chael cysylltiad uniongyrchol gael effaith ar ansawdd y trafodaethau ac effeithiolrwydd yr ymdrechion i reoli ymddygiad a/neu newid ymddygiad.

Dylai’r gwasanaethau hysbysu’r grwpiau amlasiantaeth y maent yn cymryd rhan ynddynt am eu penderfyniad i addasu rhaglen neu ymyriad, a’r effaith y gallai hwnnw ei chael ar ba mor effeithiol y bydd y rhaglenni a’r ymyriadau hynny.

3. Gweithgareddau eraill

Dylai gwasanaethau ystyried gohirio gwaith nad oes ei angen ar frys, fel ymchwil a hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer gwaith sydd angen yr adnoddau hynny fwyaf.

Gallai rhai gwasanaethau gynnig cymorth ychwanegol i'r rheini sy'n cyflawni troseddau neu i'r dioddefwyr, sy'n ymwneud ag anghenion eraill, fel tai neu gamddefnyddio sylweddau. Yn yr achosion hynny, dylid ystyried canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru. Ceir dolen i holl ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws yn yr adran 'Dolenni Defnyddiol'.

4. Effaith COVID-19 ar staff

Gweithio gartref

Dylai holl staff y gwasanaethau fod yn gweithio gartref os yw hynny’n bosibl.

Dylai’r gwasanaethau fod yn darparu staff â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithio gartref mewn modd diogel ac effeithiol.

Dylai’r gwasanaethau sicrhau nad yw staff yn anwybyddu’r cyngor er mwyn parhau i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau tra byddant yn gweithio gartref, er enghraifft drwy roi eu rifau ffôn personol i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Dylai staff ystyried eu hamgylchedd eu hunain, ac a ydynt yn cynyddu’r risg y gallai eu teulu eu hunain gael eu hadnabod. Cynghorir staff sy’n defnyddio fideoalwadau i gyfathrebu â chyflawnwyr trais i sicrhau bod wal gwag y tu ôl iddynt, heb ffotograffau o’r teulu, ffenestri nac unrhyw nodweddion eraill y gellir eu defnyddio i adnabod y teulu neu’r lleoliad. Dylent hefyd sicrhau na fydd aelodau o’r cartref yn cerdded o fewn golwg y camera, tra byddant yn cynnal fideoalwad gyda defnyddiwr gwasanaeth.

Dylai’r gwasanaethau sicrhau bod staff yn ymwybodol bod yn rhaid i’r rheini sy’n byw gyda nhw, eu cymdogion, ac unrhyw un arall nad ydynt yn gweithio i’r gwasanaeth beidio â gallu darllen neu glywed unrhyw wybodaeth nac ychwaith gael mynediad arall i’r wybodaeth honno sy’n gyfrinachol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a allai helpu i adnabod defnyddiwr gwasanaeth.

Dylai staff hefyd barhau i fod yn ymwybodol y byddai'n amhriodol i'w plant eu hunain, neu i blant defnyddwyr gwasanaethau, ddigwydd clywed rhai agweddau ar unrhyw gymorth a gynigir. Dylid cymryd camau i atal hynny rhag digwydd.

Os yw’n briodol, dylid rhoi gwybodaeth ac adnoddau i staff er mwyn iddynt atal torri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a chyfrinachedd a allai ddigwydd o ganlyniad i weithio gartref.

Dylid sicrhau bod cymorth i staff yn parhau i fod ar gael dros y ffôn neu drwy fideoalwad, gan gynnwys goruchwyliaeth glinigol, cael ôl-drafodaethau, cymorth proffesiynol, cwnsela, a chyfarfodydd tîm.

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol o effaith bosibl gweithio gartref ac ynysu ar iechyd meddwl staff. Mae’n bosibl y bydd staff yn teimlo eu bod dan straen ychwanegol o ganlyniad i natur eu gwaith, a’r ffaith eu bod yn gyfrifol am ddefnyddwyr gwasanaeth a allai fod yn risg uchel. Dylai’r gwasanaethau gymryd camau rhagweithiol i leihau’r effaith ar eu hiechyd meddwl, a bod yn barod i gefnogi aelodau o staff pan fydd angen gwneud hynny. Ceir dolen gyswllt at adnoddau sy’n ymwneud â llesiant gan Mind a Mental Health at Work ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Dylai'r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai'r staff ddioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gallai hynny ddigwydd yn ystod pandemig COVID-19. Dylai fod gan y gwasanaethau bolisïau a gweithdrefnau sy'n adlewyrchu hynny.

Prinder staff

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallent fod yn brin o staff, os bydd aelodau o staff yn arddangos symptomau COVID-19, neu os na fydd staff ar gael oherwydd cyfrifoldebau gofal plant neu oherwydd bod angen gofalu am eu rhieni neu aelodau eraill o’r teulu.

Mae’n bosibl y bydd defnyddwyr gwasanaethau’n gorfod gweithio gydag aelodau o staff nad ydynt yn eu hadnabod neu nad ydynt wedi meithrin perthynas â nhw os nad yw eu gweithiwr rheolaidd ar gael. Dylai defnyddwyr gwasanaethau gael gwybod am bosibilrwydd hynny cyn gynted ag y bo modd.

Dylid cymryd camau i leihau effaith prinder staff neu newidiadau aml o ran y staff sydd ar gael, a sicrhau bod cofnodion da yn cael eu cadw.

Casgliad

Dylai'r gwasanaethau gyfathrebu â sefydliadau eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, os byddant yn profi anawsterau o ganlyniad i COVID-19. Gall hynny gynnwys prinder staff, anhawster wrth addasu gwasanaethau neu wrth reoli risgiau, neu unrhyw broblem arall y gallai gwasanaeth ei hwynebu.

Yn yr un modd, gellir rhannu enghreifftiau neu syniadau o arferion gorau â Llywodraeth Cymru, i'w hystyried ar gyfer argraffiad nesaf o'r canllawiau hyn.

Mae COVID-19 yn cyflwyno ystod o heriau ac anawsterau i'r gwasanaethau, wrth iddynt ddod o hyd i'r ffordd orau o weithredu na fydd yn peri risg o ledaenu'r feirws ymhellach. Mae'r sefyllfa'n debygol o barhau i ddatblygu dros amser, ac efallai y bydd angen i'r gwasanaethau barhau i ymateb i amgylchedd sy'n newid. Wrth wneud hynny, dylai'r gwasanaethau sicrhau bod diogelwch dioddefwyr a phlant yn cael eu blaenoriaethu uwchlaw popeth arall.

 

Dolenni defnyddiol

Rhannu’r dudalen hon