Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio sut mae'r Deddfau coronafeirws yn wahanol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod y penderfyniad i osod cyfyngiadau eang wedi cael ei wneud ar sail y DU gyfan, mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yr un fath neu'n debyg iawn ledled y DU. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau o ran dulliau gweithredu, ac mae rhai ohonynt yn arwyddocaol. Mae'r prif wahaniaethau rhwng y ddeddfwriaeth sy'n gymwys yng Nghymru a'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys yn Lloegr wedi'u nodi isod:

  • nid yw deddfwriaeth Lloegr yn gosod gofynion i gymryd mesurau rhesymol i gynnal pellter corfforol (o 2 fetr) tra'n gweithio
  • ni wneir unrhyw ddarpariaeth yn neddfwriaeth Lloegr i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn Lloegr gau mannau prydferth etc
  • yn neddfwriaeth Cymru mae'r “esgus rhesymol” i adael y cartref i wneud ymarfer corff wedi'i gyfyngu i ardal sy’n lleol i’ch cartref
  • mae'r darpariaethau sy'n ymwneud ag angladdau yn wahanol (yn fwyaf nodedig, yn Lloegr mae presenoldeb i bob pwrpas yn gyfyngedig i deulu agos, ond yng Nghymru y ffactor penderfynu yw nifer y bobl sy'n gallu mynychu – nid pwy ydynt)
  • mae'r eithriadau sy'n caniatáu i westai ac ati barhau i weithredu yn llymach yng Nghymru
  • mae nifer o ddarpariaethau ychwanegol yn ymwneud â gorfodi'r cyfyngiadau yn neddfwriaeth Cymru
  • mae deddfwriaeth Cymru (fel deddfwriaeth Lloegr) yn darparu i'r swm sy'n daladwy o dan hysbysiad cosb benodedig gael ei ddyblu ar gyfer pob tramgwydd. Fodd bynnag, mae lefelau’r gosb yn wahanol. Yng Nghymru maent yn cynyddu o £60 i £120 hyd at £1,920 ar gyfer y chweched achos ac unrhyw achosion pellach (er nad oes unrhyw derfyn ar ddirwy os caiff achos o dorri’r Rheoliadau ei erlyn yn y Llys)

Mae'r rheswm dros yr amrywiadau o ran y dull gweithredu yn deillio o'r angen i fynd i'r afael â materion sydd wedi bod yn broblem benodol yng Nghymru, neu oherwydd yr angen i ymateb i bryderon a godwyd yng Nghymru ers i'r Rheoliadau cychwynnol yn cyfyngu ar symud gael effaith.

Gwnaed y newid sylweddol cyntaf yn gynnar pan ddaeth yn amlwg bod niferoedd mawr o bobl yn teithio i’r arfordir, i barciau cenedlaethol ac i fannau prydferth eraill yng Nghymru, ac yn ymgynnull yn y mannau hynny. Gwnaed Rheoliadau brys ar 23 Mawrth i'w gwneud yn ofynnol i gau safleoedd carafannau gwyliau, safleoedd gwersylla, arcedau difyrion a chanolfannau chwarae dan do er mwyn diogelu rhag y risgiau i iechyd y cyhoedd sy'n deillio o'r coronafeirws. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gosod dyletswydd, at yr un diben, ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau cyhoeddus penodol a thir penodol.

Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod am reoli i ba raddau yr oedd gwestai yn gallu agor, gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol. Roedd hyn oherwydd pryderon y gellid manteisio ar eithriadau i'r gofyniad i gau ac yn sgil creu cynllun i reoli'r defnydd o westai at ddibenion cyhoeddus.

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd o'r farn, er mwyn atgyfnerthu'r neges gyffredinol y dylai pawb aros gartref, ac oherwydd rhesymau gorfodi ymarferol, fod gadael y cartref i wneud ymarfer corff ond yn esgus rhesymol unwaith y dydd. Cafodd hyn ei lacio yn ddiweddarach, ar 25 Ebrill, yn dilyn yr adolygiad tair wythnosol cyntaf o'r Rheoliadau, ond dim ond yn achos pobl â chyflwr iechyd penodol neu anabledd penodol. Gwnaed y newid hwn o ganlyniad i bryderon a godwyd gan deuluoedd â phlant awtistig a oedd yn ofidus oherwydd newid yn eu trefn arferol. Cafodd ei lacio eto yn ddiweddarach yn dilyn yr ail adolygiad tair wythnosol er mwyn peidio â gosod terfyn (ond eglurwyd hefyd y dylid gwneud ymarfer corff yn lleol).

Gwnaed newidiadau i'r darpariaethau ynghylch angladdau hefyd oherwydd pryderon a godwyd gan deuluoedd y rhai a fu farw'n ddiweddar. Roedd y dull gweithredu dilynol yn sicrhau bod y ffocws ar ymateb iechyd y cyhoedd a'r angen i sicrhau bod pellter corfforol yn cael ei gynnal, yn hytrach nag ar statws y rheini y caniateir iddynt fynychu angladd (nad yw'n fater i'r llywodraeth benderfynu arno).     

Roedd y newid sylweddol i'r gofynion cyfreithiol wrth weithio i sicrhau bod pellter corfforol yn cael ei gynnal hefyd wedi ei wneud er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ym maes iechyd y cyhoedd, o ran atal y coronafeirws. Gan hynny, cafodd y gofynion presennol i gynnal pellter corfforol o 2 fetr eu hymestyn i bob gweithle, gan ei gwneud yn ofynnol i fesurau rhesymol gael eu cymryd ym mhob sefyllfa ac eithrio mewn cerbydau (lle na fyddai'n ymarferol, yn gyffredinol, i gyflawni'r rhwymedigaeth). 

Rhannu’r dudalen hon