Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau heno y bydd coridorau teithio yn cael eu hatal yng Nghymru i helpu i atal y mathau newydd o’r coronafeirws rhag dod i mewn i'r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd coridorau teithio’n cael eu hatal o ddydd Llun ymlaen tan o leiaf 15 Chwefror – ac yn hirach o bosibl – wrth i bedair gwlad y DU weithio gyda'i gilydd.

Bydd y newidiadau'n golygu y bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n teithio dramor gael prawf cyn gadael a chwarantin am 10 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd adref i Gymru.

Bydd y rhestr o bobl sydd wedi'u heithrio o'r gofynion hyn yn cael ei thynhau hefyd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Yn anffodus, rydym wedi gweld mathau newydd sy’n peri pryder o’r coronafeirws yn ymddangos ledled y byd ac mae angen i ni gymryd camau ychwanegol i ddiogelu pobl yng Nghymru a gweddill y DU rhag y mathau newydd hyn o'r feirws.

Mae atal coridorau teithio’n golygu y bydd rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sy'n teithio dramor gael prawf cyn gadael a chwarantin pan fyddant yn dychwelyd i Gymru i sicrhau nad ydynt yn dod â’r coronafeirws adref gyda hwy.

Rydym yn dechrau gweld nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gostwng yng Nghymru diolch i waith caled ac aberth pawb – gyda'n rhaglen frechu’n ennill momentwm gwirioneddol, rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw Cymru'n ddiogel.

Rwy'n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth y DU a gyda Phrif Weinidogion Gogledd Iwerddon a'r Alban i gytuno ar ddull gweithredu ar y cyd.

Daw’r rheolau newydd i rym am 4am fore Llun 18 Ionawr.