Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Rhagfyr 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Adroddiad cyfranogiad ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Adroddiad cyfranogiad ymgynghori - atodiadau (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 71 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn chi ar y cynllun drafft i ddatrys problemau yn ymwneud â thrafnidiaeth sy'n effeithio ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae amseroedd siwrnai annibynadwy a thagfeydd traffig yn enwedig yn ystod yr oriau brig yn gyffredin iawn ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
Mae hyn yn digwydd oherwydd diffyg capasiti a llwybrau pwrpasol ac mae’n amlycach fyth os oes digwyddiad neu ddamwain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i newid y sefyllfa.Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn yr Ymgynghoriad ar y Mesurau i Wella Coridor yr M4 rydym nawr yn ymgynghori ar Gynllun drafft sy’n ychwanegu at yr wybodaeth yr ydym eisoes wedi’i chasglu ac mae’n rhoi cyfle i chi roi eich barn ar y strategaeth yr ydym ni’n ei ffafrio ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd.
O’i roi ar waith byddai’r Cynllun drafft yn arwain at adeiladu traffordd i’r de o Gasnewydd ailddosbarthu’r rhan bresennol o’r M4 rhwng Magwyr a Chas-bach fel nad yw bellach yn draffordd creu cyswllt newydd rhwng yr M48 a’r B4245 a darparu seilwaith sy’n fwy addas i feicwyr a cherddwyr.
Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddarllen ein Cynllun drafft a gwneud sylwadau arno a hefyd ar yr asesiadau – yr asesiad amgylcheddol strategol yr asesiad ar y rheoliadau cynefinoedd yr asesiad iechyd a’r asesiad cydraddoldeb.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun drafft ewch i wefan www.M4newport.com (Saesneg yn unig).