Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Hydref 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 339 KB
Ymatebion - Rhan 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Ymatebion - Rhan 2 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi rhagor o fanylion am greu Corff Adnoddau Naturiol newydd i Gymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’n dilyn ymgynghoriad blaenorol lle gofynnwyd am eich sylwadau ynghylch creu’r corff newydd.
Mae dwy ran i’r ymgynghoriad hwn:
- dyletswyddau’r corff newydd
- rhagor o wybodaeth am drefniadau gwaith a chyfreithiol y corff.
Rhan 1
Mae’r rhan gyntaf yn canolbwyntio ar bwrpas a dyletswyddau’r corff yn cynnwys:
- harddwch naturiol a chadwraeth natur
- mynediad i’r cyhoedd a hamdden
- coedwigaeth
- dyletswyddau cyffredinol eraill.
Rhan 2
Mae ail ran yr ymgynghoriad yn edrych ar feysydd lle gofynnwyd am ragor o wybodaeth a lle’r ydym am rannu ein bwriadau. Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- materion trawsffiniol
- rheolaeth a gorfodaeth gan gynnwys Trefn Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) ac archwilio ymchwilio gorfodaeth ac erlyn gan gynnwys sancsiynau sifil a phwerau ymchwilio
- monitro trawsffiniol
- cynllunio ac adroddiadau statudol
- ymateb i argyfwng gan gynnwys trosglwyddo pwerau dan Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
- cynlluniau masnachu a chyfrifoldeb cynhyrchwyr
- trefniadau pontio.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 260 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn weithredol ym mis Ebrill 2013. Am mwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol).