Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyrraedd trafodaethau COP15 am fioamrywiaeth ym Montreal, Canada i ddwyn ei dylanwad ar y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ac i lofnodi ei hymrwymiad i brysuro adferiad natur yng Nghymru.
Mae gan y Gweinidog obeithion mawr y gall arweinwyr y byd ddod i gytundeb uchelgeisiol i atal y dirywiad cyflym sy’n digwydd i’n byd naturiol ac sy’n bygwth holl fywyd y ddaear fel y gwn ni amdano.
Fel hwb i ymrwymiad Cymru i gyrraedd y ‘targed o 30 erbyn 30’ a fydd yn rhan o’r cytundeb – sef i ddiogelu a rheoli’n effeithiol 30% o’r tir a 30% o’r môr erbyn 2030 - comisiynwyd arbenigwyr i gynnal ‘Archwiliad Dwfn i Fioamrywiaeth’ a gafodd ei gyhoeddi fis Hydref. Gan ymateb yn gyflym i argymhellion y panel, mae’r Gweinidog wedi treblu’r targedau ar gyfer adfer mawnogydd Cymru er mwyn diogelu cynefin rhywogaethau prin, fel y gylfinir, sydd mewn perygl o ddiflannu. Cafodd £3 miliwn ei neilltuo hefyd ar gyfer Partneriaethau Natur Lleol i helpu cymunedau lleol i weithredu ar y cyd fel Tîm Cymru a lansiwyd hefyd y broses i gwblhau’r rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Bydd grŵp arbenigwyr yr archwiliad dwfn yn monitro Cymru o ran cyrraedd y targed 30 x 30. Ar hyn o bryd, dim ond 10% o dir Cymru sy’n cael ei reoli’n effeithiol.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan ei bod, yn 2021, yn argyfwng natur ac yn 2019 ei bod yn argyfwng hinsawdd ac ers hynny, mae’r argyfyngau wedi bod yn greiddiol ac yn ganolog i bob penderfyniad gan bob portffolio, boed iechyd, trafnidiaeth neu addysg, yn y llywodraeth.
Ers datgan yr argyfyngau, mae Cymru wedi cyflwyno llawer iawn o bolisïau i sbarduno degawd o weithredu, a fydd meddai’r Gweinidog, yn penderfynu pa fath o blaned y byddwn yn ei gadael i’r cenedlaethau i ddod. Yn eu plith y mae:
- Bil Plastigau Untro hanesyddol fydd yn gwahardd yr eitemau plastig sy’n cael eu taflu’n sbwriel amlaf ac yn llygru’r amgylchedd ac yn bygwth adar, planhigion ac anifeiliaid.
- Cynigion ar gyfer Bil Amaethyddiaeth Cymru, y cyntaf o’i fath, a fydd yn cynnwys Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac adfer ecosystemau a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd yr un pryd. Dywed y cynigion bydd gofyn bod pob fferm o dan o leiaf 10% o orchudd coed a bod 10% o’r tir wedi’i neilltuo ar gyfer cynefinoedd lled-naturiol.
- Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr a gwytnwch y rhwydwaith o safleoedd sydd wedi’u gwarchod yn y môr, mewn dŵr croyw ac ar y tir, a’u cysylltu â’i gilydd.
- Cynllun newydd arloesol i ailgylchu gêr pysgota sydd wedi dod i ddiwedd ei oes; math cyffredin o sbwriel yn y môr sy’n niweidio bywyd y môr ac yn cynyddu’r perygl y daw micro-blastigau’n rhan o’n cadwyn fwyd.
- Coedwig Genedlaethol ddi-dor rhwng y De a’r Gogledd.
- Sicrhau bod y dynodiad posibl o Barc Cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain yn creu cyfleoedd i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac i adfer natur fel prif flaenoriaethau’r Parc newydd.
- Cynlluniau i wneud sector cyhoeddus Cymru’n garbon niwtral erbyn 2030 a Chymru’n wlad net sero erbyn 2050.
- Cyfres o bolisïau plannu coed sy’n gofyn am blannu coed brodorol ochr yn ochr â mentrau masnachol, i wireddu argymhelliad y Glymblaid Newid Hinsawdd bod Cymru’n plannu 82 miliwn o goed dros y degawd nesaf
- Ymwreiddio’r economi gylchol a chynaliadwyedd yn ein polisïau caffael
- Mynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn ein hafonydd trwy weithio gyda’r prif sectorau i ddatrys y broblem.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi canmol Cymru, gwlad â phoblogaeth o lai na phedair miliwn yn y Deyrnas Unedig, am fod yr unig wlad yn y byd i greu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf yn golygu bod yn rhaid ystyried effaith pob penderfyniad ar bob cenhedlaeth sy’n dilyn.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Does dim dwywaith amdani – bu dirywiad cyflym yn ein byd naturiol ac mae hynny’n bygwth holl fywyd y ddaear fel y gwn ni amdano.
“Fel ym mhob gwlad arall yn y byd datblygedig, mae gweithgarwch dyn yng Nghymru wedi difa coedwigoedd, wedi dihysbyddu’r moroedd ac wedi creu llygredd, gan arwain at ddiflaniad tua hanner holl anifeiliaid a phlanhigion Cymru.
“Rhaid i ni ymroi i gael cytundeb natur sydd yr un mor fawr a dewr â Chytundeb Paris ar newid hinsawdd.
“Adfer y byd naturiol fyddai’r gamp fwyaf gorchestol y gallai dynoliaeth ei chyflawni. Trwyddi, gallwn roi i’r cenedlaethau i ddod y gwasanaethau di-dâl y mae’n hecosystemau cydblethedig yn eu darparu i ni mor hael – dŵr i’w yfed, priddoedd iach i dyfu’n bwyd neu’r tawelwch mewnol a gawn wrth nofio mewn dŵr glân neu wrth rodio mewn coedwigoedd iach.
“Rydym am fod yn gyndeidiau da i genedlaethau’r dyfodol trwy adfer natur. O beidio â gofalu am natur, mae perygl i ni adael planed afiach a llygredig i’n plant. Bydd hynny yn ei dro’n gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd wrth i diroedd sy’n cael eu camreoli ollwng mwy o garbon nag y maen nhw’n gallu ei storio. Mae hwnnw’n bris nad ydym ni yng Nghymru’n barod i’w dalu. Rwy’n galw am Dîm Cymru o ymdrech, am ddegawd o weithredu pendant ac am ymrwymiadau mawr, dewr ac eofn gan arweinwyr y byd fydd yn rhoi anadl einioes i’n planed y gallwn ymfalchïo ei throsglwyddo i'r dyfodol.”
Mae’r trywydd rydym yn ei ddilyn ar hyn o bryd yn bygwth dinistrio miliwn o rywogaethau. Mae ffactorau lleol, is-genedlaethol, cenedlaethol a byd-eang i gyd yn sbarduno dirywiad ein bioamrywiaeth. Mae angen felly ymateb ar bob lefel ym mhob sector.