Neidio i'r prif gynnwy

Cyn cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay yng Nghaerdydd heddiw, rhybuddiodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles bod cynlluniau Prif Weinidog y DU ar gyfer pleidlais yn y Senedd ar ddeddfwriaeth Brexit yn gamgymeriad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Jeremy Miles:

"Pwrpas y trafodaethau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r wrthblaid yw adeiladu consensws. Mae gosod terfyn amser ar gyfer pleidlais newydd heb gonsensws rhwng y pleidiau yn mynd yn groes i'w holl bwrpas. Dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar adeiladu cefnogaeth drawsbleidiol go-iawn i sicrhau'r mwyafrif eang ei sail sydd ei angen i gymeradwyo cytundeb, a'r ddeddfwriaeth i'w weithredu.

"Ond mae'n ymddangos ei bod hi'n benderfynol o ddod â'i chyfnod fel arweinydd i ben drwy wneud yr un camgymeriad o osod llinellau coch a gwrthod ildio. Dyna'r agwedd a arweiniodd at y llanast yma yn y lle cyntaf.

"Hyd yma mae'r Prif Weinidog wedi llesteirio'r trafodaethau a chreu sefyllfa lle mae'r Senedd yn methu'n lân â chytuno. Rhaid i ni ddod i gyfaddawd er mwyn symud ymlaen a dod o hyd i ffordd o ymadael â'r UE sy'n medru pasio drwy'r Senedd. Dydy'r cytundeb fel y mae ddim yn mynd i basio wrth i'r Prif Weinidog wneud dim mwy na chroesi ei bysedd a gobeithio am y gorau.

"Mae perygl o hyd - rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o feddwl bod y risg o Brexit heb gytundeb wedi mynd yn llwyr. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos hyblygrwydd, rhywbeth y mae wedi methu ei ddangos hyd yma."

Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn defnyddio’r cyfarfod heddiw i alw eto ar i'r gweinyddiaethau datganoledig gael eu cynnwys yn llawn mewn trafodaethau ar y bartneriaeth rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol.

Ychwanegodd Jeremy Miles:

"Rhaid i ni weld newid radical yn agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cam nesaf y trafodaethau. Byddaf yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Brexit unwaith eto heddiw am ymrwymiad y bydd unrhyw safbwynt y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gymryd yn cael ei gytuno'n llwyr gan y gweinyddiaethau datganoledig cyn y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Yn amlwg, dylai’r gweinyddiaethau datganoledig fod yn bresennol yn yr ystafell pan fo trafodaethau ynghylch partneriaeth yn y dyfodol yn trafod materion sydd wedi’u datganoli. Rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd - mae'n hen bryd i Whitehall dderbyn bod datganoli yn golygu partneriaeth wrth lywodraethu'r Deyrnas Unedig.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu dinasyddion a sefydliadau ar draws Cymru, a gwneud popeth a allwn i baratoi ar gyfer Brexit. Mae hyn yn cynnwys mwy o gyllid o'n Cronfa Bontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn, cefnogi arweinyddiaeth a chydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus, darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd drwy wefan Paratoi Cymru a helpu busnesau i addasu a pharatoi ar gyfer y dyfodol."