Neidio i'r prif gynnwy

Mae yna gonsensws cynyddol ledled y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Dyna y bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn ei ddweud wrth gynulleidfa yn Belfast heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Dirprwy Weinidog fydd y prif siaradwr mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chomisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon. Bydd y digwyddiad yn galw am ddeddfwriaeth i wahardd cosbi plant yn gorfforol yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ei haraith, bydd y Dirprwy Weinidog yn tynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i helpu i ddiogelu hawliau plant a bydd yn sôn am y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthi'n craffu ar y Bil ar hyn o bryd, a'i nod yw rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud wrth y gynulleidfa, sef aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol, cyrff trydydd sector, cyrff adnoddau dynol a ffigurau gwleidyddol a chyhoeddus pwysig y bydd y Bil arfaethedig yn anfon neges glir bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol yn ein cymdeithas. 

"Mae yna gonsensws cynyddol yn rhyngwladol y dylai'r gyfraith wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae pum deg pedwar o wladwriaethau eisoes wedi deddfu yn ei gylch. Fy ngobaith i yw y bydd Cymru yn ychwanegu at y nifer hwn yn fuan."

Bydd y Gweinidog yn ei gwneud yn glir hefyd nad dweud wrth rieni sut i godi eu plant yw nod y Bil. "Nid mater o dynnu oddi wrth rieni yr hawl i ddewis sut i godi eu plant yw hyn. Dydyn ni ddim chwaith o blaid caniatáu i blant wneud beth bynnag y maen nhw'n dymuno ei wneud. 

"Mae angen terfynau a disgyblaeth synhwyrol ar bob plentyn wrth iddyn nhw dyfu, ac mae darparu hynny yn rhan o fod yn rhiant da. Fydd y Bil ddim yn stopio oedolion rhag gofalu am blant, nac yn stopio ymwneud arferol bob dydd rhwng rhieni a'u plant, wrth iddyn nhw eu helpu i wisgo, brwsio'u dannedd, neu eu gwarchod rhag perygl."

Yn olaf, bydd yn trafod y gefnogaeth y mae'r Bil wedi'i chael gan garfanau amrywiol yng Nghymru.

"Dw i wrth fy modd bod sawl corff allweddol yn rhannu ein hymrwymiad i hawliau plant. Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Cymru; Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru; y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol; Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant; a'r heddlu yn enghreifftiau o'r rheini sydd wedi datgan eu bod yn cefnogi egwyddorion y Bil."

Bydd y Dirprwy Weinidog yn tynnu sylw hefyd at y ffordd y mae pobl ifanc yng Nghymru yn cefnogi'r Bil. Yn ddiweddar, mewn pleidlais gudd, roedd mwyafrif llethol Senedd Ieuenctid Cymru o blaid y Bil.

Dywedodd Les Allamby, Prif Gomisiynydd Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon:

"Fyddai'r rhan fwyaf o oedolion ddim yn breuddwydio codi llaw i daro oedolyn arall. Nid yw'n dderbyniol i oedolyn sydd â chyfrifoldeb gofal am berson hŷn fwrw neu smacio'r person hwnnw. Pam felly ei bod hi'n dderbyniol i oedolyn sydd â chyfrifoldeb gofal am blentyn ei fwrw neu ei smacio?

Rydym yn croesawu ymweliad Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, i Ogledd Iwerddon heddiw a'r cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn. Mae cyfraith Gogledd Iwerddon yn dal i ganiatáu amddiffyniad 'cosb resymol' i rieni sy'n cosbi eu plant yn gorfforol. Fe ddylen ni ddilyn esiampl Cymru a sicrhau'r un amddiffyniad cyfreithiol i blant rhag trais ag sydd gan oedolion. Mae angen inni gysoni cyfraith Gogledd Iwerddon â safonau hawliau dynol a rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol."