Concordat rhwng Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU a Llywodraeth Cymru
Mae’r concordat hwn yn nodi'r dull y cytunwyd arno ar gyfer perthynas waith effeithiol rhwng Llywodraeth y DU y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
- Mae’r Concordat hwn yn nodi trefniadau ar gyfer ymgynghori a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU, ac mae’n ymdrin â chyfnewid gwybodaeth (gan gynnwys ar ba delerau mae gwybodaeth yn cael ei rhannu), effeithiau cyfiawnder, mynediad at wasanaethau, datrys anghydfodau ac adolygu cysylltiadau (Troednodyn 1). Ymhlith pethau eraill, mae’n ceisiosicrhau bod:
- y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru wrth lunio a gweithredu polisïau a gweithgareddau cyfiawnder y DU sy’n debygol o gael effaith ar Gymru
- Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder wrth weithredu swyddogaethau datganoledig, a
- eglurder ac atebolrwydd, sy’n galluogi cysylltiadau gwaith cynhyrchiol a gwell canlyniadau.
- Mae’r Concordat hwn yn anstatudol ac nid yw’ngyfreithiol rwymol. Dogfen ganllawiau fyw yw hi sy’n egluro’r berthynas waith ac mae’n rhoi set o egwyddorion i Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder y bydd y ddwy ochr yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
- Mae Swyddfa Cymru yn gyfrifol am oruchwylio setliad datganoli Cymru ac am sicrhau bod polisïau Llywodraeth y DU yn gweithio’n effeithiol yng Nghymru ac mae ganddi gyfrifoldeb allweddol am hyrwyddo perthynas waith effeithiol rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU.
- Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi darpariaethau cyffredin ar gyfer y perthnasau gwaith rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn sail i’r Concordat hwn.2 Mae’r egwyddorion craidd sy’n sail i’r Memorandwm, yn cynnwys:
- y bydd cytundebau dwyochrog, a adwaenir fel Concordatau, yn disgrifio’r arferion gwaith rhwng adrannau unigol Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig
- y bydd rhan fwyaf y materion lle y mae angen cyfathrebu rhwng un neu ragor o’r gweinyddiaethau eraill fel arfer yng ngofal swyddogion neu Weinidogion, a
- lle y bydd mater nad oes modd ymdrinag ef yn ddwyochrog, bydd yn cael ei gyfeirio at Gyd-bwyllgor y Gweinidogionsy’n cydlynu’n ganolog y berthynas gyffredinol rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig (Troednodyn 2).
- Ni fydd y Concordat hwn yn lleihau effaith unrhyw newidiadau i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth na Chanllawiauar Ddatganoli Llywodraeth y DU.
Egwyddorion cyffredinol
- Mae perthnasau gwaith da rhwng Llywodraeth Cymru ac adrannau Llywodraeth y DU yn hanfodol i gyflenwigwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol ac i sicrhau bod busnes llywodraeth yn parhau i gael ei gynnal yn hwylus ac yn effeithlon. Bydd Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cydweithredu i’r graddau mwyaf posibl i gyflawni’r nod hwn, yn benodol drwy gydnabod ac ystyried eu priodgyfrifoldebau a buddiannau, gan weithio mewn modd sy’n seiliedig ar dryloywder, ymddiriedaeth a chonsensws. Cânt benderfynu cydweithio â’i gilydd ar faterion penodol, er enghraifft, drwy gyhoeddi cyngor neu ganllawiau ar y cyd i asiantaethau lleol.
- Dylai gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddilyn telerau’r Concordat hwn a pharchu priod awdurdod y ddeddfwrfa arall fel bod polisïau a deddfwriaeth newydd sy’n gysylltiedig â chyfiawnder yn cael eu gwneud er budd pobl Cymru.
Cyd-destun
- Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diffinio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) i ddeddfu drosGhymru. Mae natur barhaoly Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael ei chydnabod gan Lywodraeth a Senedd y DU fel rhan o ddarpariaethau’r trefniant cyfansoddiadol sydd wedi’u mewnosod gan Ddeddf Cymru 2017 (adran A1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y’i mewnosodwyd gan adran 1 o Ddeddf Cymru 2017).
- Mae adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (fel y’i mewnosodwyd gan adran 1 o Ddeddf Cymru 2017) hefyd yn cydnabod bod y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru yncynnwys corff o gyfreithiau Cymreig a wneir gan y Cynulliad a gallu’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru i wneud cyfraith sy’n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.
- Mae Deddf Cymru 2017 yn rhagnodi materion sydd wedi’u cadw’n ôl i Senedd y Deyrnas Unedig (gweler atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru). Mae materion sy’n gymwys yng Nghymru ac nad ydynt wedi’u rhestru fel rhai a gedwir yn ôl neu sy’n gyfyngedig wedi eu datganoli i’r Cynulliad. Er bod Senedd y DU hefyd yn gallu deddfu ar faterion datganoledig (gweler Rhan 1(2)), adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd) mae’n cydnabod na fydd yn gwneud hynny fel arfer heb gydsyniad y Cynulliad (gweler Deddf Cymru 2017 Rhan 1(2) Convention about Parliament legislating on devolved matters).
- Mae gan Weinidogion Cymru ystod eang o swyddogaethau sydd wedi eu rhoi iddynt neu sydd wedi eu trosglwyddo iddynt o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, amryw o Orchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau a Deddfau Seneddol eraill. Mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio i wahanol raddfeydd â chyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae’r prif feysydd rhyngweithio rhwng gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru wedi’u crynhoi yn yr Atodiad i’r Concordat hwn (Troednodyn 3).
Trefniadau cyfathrebu ac ymgynghori
- Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor o gyfathrebu da, yn enwedig pan fydd gwaith un weinyddiaeth yn gallu effeithio ar gyfrifoldebau’r weinyddiaeth arall, ac i gydweithio pan fo’n briodol ar faterion sydd o fudd i’r ddwy weinyddiaeth. Ni fydd cyfathrebu o’r fath yn cyfyngu ar ddisgresiwn y naill na’r llall ond bydd yn eu galluogi i wneud sylwadau ar faterion y bydd angen eu hystyried yn ofalus wrth ddatblygu polisi. Bydd Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ymdrechu i wneud y canlynol wrth gyfathrebu yn y ffordd hon, ac yn gyfrinachol, os bydd angen
- hysbysu ein gilydd cyn gynted ag y bydd yn ymarferol am ddatblygiadau perthnasol sy’n effeithio ar y system gyfiawnder yn eu meysydd cyfrifoldeb, cyn eu cyhoeddi pan fo’n bosibl
- hoi ystyriaeth briodol i safbwyntiau’r naill a’r llall, a
- phan fo’nbriodol, gwneud trefniadau sy’n galluogi i bolisïau lle y mae cyfrifoldeb yn cael ei rannu gael eu llunio a’u datblygu ar y cyd rhwng y gweinyddiaethau.
- Dylai natur ac amseriad ymgynghori o’r fath roi cyfle rhesymol i wneud ac i ystyried sylwadau ac felly dylid dechrau arni mor gynnar â phosibl yn y broses o lunio polisi. Mae’r Atodiad i’r Concordat yn nodi’r meysydd lle y mae’n debygol y bydd angen ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth rhwng y gweinyddiaethau, ond nid yw’n cyfyngu cyfleoedd i ymgynghori a chydlynu i’r meysydd hyn yn unig.
- Dylai swyddogion arweiniol yn y ddwy weinyddiaeth gadw mewn cysylltiad rheolaidd â’u swyddogion cyfatebol, gan gydlynu drwy’r tîm Polisi Cyfiawnder yn Llywodraeth Cymru a’r tîm Datganoli Cyfiawnder yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder / neu'r Uwch-swyddog Arweiniol ar gyfer y Weinyddiaeth Cyfiawnder yng Nghymru a’r Tîm Troseddu a Chyfiawnder yn Llywodraeth Cymru, fel y bo’n briodol (Troednodyn 4). Dylai Swyddfa Cymru hefyd fod yn rhan o drafodaethau rhwng y ddwy weinyddiaeth, fel y bo’n briodol (Nodir manylion rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn materion datganoli yng Nghanllaw 4 ar Ddatganoli).
- Bydd trafodaethau ar faterion o ddiddordeb i’r ddwy weinyddiaeth yn cael eu cynnal yn ôl yr angen a phan fo’nbriodol. Yn unol âhynny, caiff swyddogion:
- sefydlu gweithgorau, pwyllgorau neu gyfarfodydd rheolaidd neu’n ôl y galw eraill (e.e. y Grŵp Strategaeth Cyfiawnder yng Nghymru)
- gofyn am gael eu cynrychioli ar gyrff statudol neu grwpiau buddiant penodol (e.e. y Pwyllgor Cynghori Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru)
- gwahodd cynrychiolwyr o’r Weinyddiaeth Cyfiawnder neu Lywodraeth Cymru (neu gyrff hyd braich) i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd mewnol ei gilydd
- creu timau prosiectau integredig, a ategir gan ddogfennaeth brosiect ffurfiol, neu
- sefydlu trefniadau mwy penodol (e.e. cytundebau lefel gwasanaeth) rhwng partïon.
Cyfnewid gwybodaeth, ystadegau ac ymchwil
- Bydd Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, i’r graddau y mae hynny’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, yn ymdrechu i roi mynediad mor llawn ac agored â phosibl i’w gilydd at ddata ystadegol ac ymchwil a, phan fo’n briodol, sylwadau gan drydydd partïon. Gall yr wybodaeth a rennir gynnwys papurau polisi, dadansoddiadau ac ystadegau a gwybodaeth ffeithiol arall a, phan fo’n briodol, gall fod ar ffurf gwybodaeth lafar. Bydd pob gweinyddiaeth yn ymdrechu i ddarparu unrhyw wybodaeth y gall y llall wneud cais rhesymol amdani i’w galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau’n effeithiol, ar yr amod:
- bod hynny’n ymarferol
- na fyddai’n golygu cost anghymesur, ac
- bod yr wybodaeth ar gael mewn ffurf gymharol hygyrch.
- Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata a gasglwyd eisoes am Gymru ynghylch y gyfraith, trefn a gwasanaethau amddiffynnol pan gaiff eu cyhoeddi. Bydd data heb eu cyhoeddi’n cael eu rhannu pan fo hynny’n briodol ac ymarferol, ac ar unrhyw bwnc y mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn casglu, neu y daw’n gyfrifol am gasglu, neu grynhoi, data sy’n ymwneud â Chymru. Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru os bydd yn cynnig newid yr ardaloedd daearyddol mae’n eu defnyddio i gasglu a dadansoddi data am Gymru.
- Bydd y pwyslais bob amser ar gyfnewid gwybodaeth pan fo hynny’n bosibl; os na fydd un o’r tri amod yn cael ei fodloni, bydd materion yn cael eu datrys fesul achos. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaetha’r canllawiau cysylltiedig, gan gynnwys yr angen i gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a therfynau a osodir gan gyfreithiau sy’n gymwysyng Nghymru a Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Darparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol
- Yn unol ag adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, caiff y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol i’w gilydd i’w cynorthwyo i arfer eu priod gyfrifoldebau. Nid yw unrhyw drefniant o’r fath yn effeithio ar gyfrifoldeb Gweinidogion Cymru na’r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Caiff y naill godi tâl ar y llall am y gwasanaethau a ddarperir, ac eithrio pan fo gwasanaethau wedi cael eu darparu’n ddi-dâl yn y gorffennol, fel
- darparu ystadegau am Gymru gan y naill barti i’r llall, pa un a ydynt wedi’ucyhoeddi’n barod ai peidio, ac
- y naill barti’n gwirio data neu wybodaeth i’r parti arall.
Deddfwriaeth
- Yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyffredinol, Canllaw 18 ar Ddatganoli Llywodraeth y DU a Chanllaw Gyfatebol Llywodraeth Cymru o ran Canllaw 18 ar Ddatganoli, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymdrechu i ymgynghori â’i gilydd yn gynnar yn y broses o ddatblygu cynigion deddfwriaethol sy’n effeithio ar bolisi a chyfrifoldebau ymarferol y llall (nodir manylion y prosesau sydd i’w dilyn mewn achosion o’r fath yng Nghanllaw 9 ar Ddatganoli). Sail yr ymgynghoriad fydd bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chyfnewid yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac na fydd yn cael ei rhannu’n ehangach oni bai y nodwyd yn wahanol er mwyn diogelu gofod diogel i’r ddwy weinyddiaeth i ddatblygu polisïau.
- Yn ychwanegol at ofynion statudol penodol y gallai fod angen i Weinidogion yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder ymgynghori â Gweinidogion Cymru yn eu cylch o dan y Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau neu o dan Ddeddfau, mae pwerau penodol o dan adrannau 80(3) a 82(2), (3), neu (5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n ymwneud â Gweinidogion Cymru yn gweithredu rhwymedigaethau’r UE a rhwymedigaethau rhyngwladol.
- Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cytuno i ymgynghori â Llywodraeth Cymru mor gynnar â phosibl ynglŷn â deddfwriaeth neu gynlluniau gan y DU a fydd yn effeithio ar gyfrifoldebau Cymreig i sicrhau nad amherir ar y ffordd y mae gwasanaethau datganoledig yn cael eu darparu.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ymgynghori â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mor gynnar â phosibl ynglŷn â darpariaethau ym Miliau arfaethedig y Cynulliad sy’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion y Goron, sy’n effeithio, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar gyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder.
- Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn sicrhau bod deialog synhwyrol ac amserol ar gynigion sy’n debygol o effeithio ar gyfrifoldebau cyfiawnder (sifil a throseddol)y naill barti neu’r llall. Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, cyflwyno troseddau neu reolau trefniadaeth newydd.
Asesu’r effaith ar gyfiawnder
- Yn unol ag adran 110A o Ddeddf Llywodraeth Cymru (fel y’i mewnosodwyd gan adran 11 o Ddeddf Cymru 2017), os bydd deddfwriaeth Gymreig ag effaith bosibl ar y system gyfiawnder, rhaid i ddatganiad o’r asesiad o’r effaith honno gyd-fynd â hi (Troednodyn 5).
- Nid yw adran 110A yn datgan bod rhaid i Weinidogion y DU gytuno â’r asesiad hwnnw. Ei ddiben yw sicrhau bod effeithiau posibl, gan gynnwys goblygiadau cost ac arbedion, ar y system gyfiawnder yn cael eu nodi ac y cynllunnir ar eu cyfer yn gynnar, er mwyn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus ac i wneud yn siŵr nad amherir ar wasanaethau a ddarperir o fewn y system gyfiawnder. Mae cwblhau asesiad o’r effaith ar gyfiawnder yn rhan hanfodol o lunio polisïau ac mae o fudd i’r ddau barti drwy:
- helpu llunwyr polisi ym mhob llywodraeth i ystyried ac i leihau i’r graddau posibl effaith polisïau newydd ar y system gyfiawnder
- sicrhau bod swyddogion polisi yn cynllunio ar gyfer sut y bydd polisïau newydd yn cael eu rheoli, a
- darparu gwybodaeth ar ddiweddariadau a phenderfyniadau gan weinidogion.
- Yn unol ag adran 110A, bydd ffurf yr asesiad o’r effaith ar gyfiawnder a’r modd y caiff ei wneud yn cael ei benderfynu gan y Cynulliad a rhaid cyhoeddi (y fersiwn derfynol).
- Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Cyfiawnder cyn gynted ag sy’n ymarferol ar bob Bil Cynulliad ac unrhyw is-ddeddfwriaeth neu gynnig polisi a allai o bosibl gael effaith ar unrhyw agwedd ar elfennau o’r system gyfiawnder sydd heb eu datganoli. Yn yr un modd, bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted ag sy’n ymarferol ynglŷn â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth neu gynigion polisi a allai o bosibl effeithio ar unrhyw elfen ar agweddau ar y system gyfiawnder sydd wedi’u datganoli i Gymru.
- Polisi Llywodraeth y DU yw lleihau’r nifer y troseddau newydd sy’n cael eu creu pan fo’n bosibl. O ganlyniad, er mai mater i’r Cynulliad fydd penderfynu ar ddeddfwriaeth ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig â materion datganoledig, ac mai mater i Lywodraeth Cymru fydd datblygu cynigion deddfwriaethol ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â materion datganoledig, un o swyddogaethau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yw craffu ar yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymestyn i Gymru a Lloegr ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer troseddau, i sicrhau eu bod yn briodol ac yn gymesur. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn arfer da i ymgysylltu’n gynnar â’r Weinyddiaeth Cyfiawnder ynghylch pob trosedd arfaethedig sydd i gael ei greu drwy ei deddfwriaeth fel bod penderfyniadau Gweinidogion yn cael eu goleuo gan ddealltwriaeth drylwyr o’r goblygiadau i gyflawnder. Yn fwy cyffredinol, mae’r ddau barti’n cytuno i ystyried goblygiadau tymor hwy rhybuddiadau, rhybuddion a chosbau troseddol ac i fabwysiadu dull cymesur wrth ddatblygu deddfwriaeth cyfiawnder troseddol.
- Polisi Llywodraeth y DU hefyd yw lleihau effaith deddfwriaeth ar y llysoedd os yn bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn arfer da i ymgysylltu’n gynnar â’r Weinyddiaeth Cyfiawnder ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth a all effeithio ar lysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr.
- Mae’r ddau barti yn cytuno i ystyried effeithiau posibl mesurau sifil newydd ar lysoedd a thribiwnlysoedd wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth.
- Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cytuno y bydd yr holl wybodaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi’r asesiad o’r effaith ar gyfiawnder at ddefnydd mewnol yn unig ac nid ar gyfer ei chyhoeddi oni bai bod y gyfraith yn mynnu hynny.
Cyllid
- Rhaid i bob gweinyddiaeth ystyried goblygiadau ariannol ei pholisïau ar y weinyddiaeth arall. Mae hyn yn cynnwys lle y mae polisïau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cael effaith ar Lywodraeth Cymru yn achos gwasanaethau datganoledig a lle y mae gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn cael effaith ar y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Ymgysylltu â’r farnwriaeth
- Mae’r Concordat hwn yn cydnabod, y trefniadau presennol ar wahân sydd ar waith i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â’r farnwriaeth, y cyfeirir atynt yng Nghyfarwyddyd Desg , ac nid yw’r Concordat hwn yn effeithio arnynt. Bydd ymgysylltu â’r farnwriaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidog iony Goron neu’r Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â’r farnwriaeth neu ar bolisi barnwrol yn parhau i ddigwydd drwy dîm Polisi Barnwrol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Tribiwnlysoedd Cymru
- Mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gorgyffwrdd yn achos rhai o Dribiwnlysoedd Cymru a restrir yn Rhan 3 o Ddeddf Cymru 2017. Mae’r tribiwnlysoedd hyn yn gyrff datganoledig, ond mae swyddogaethau penodi, diswyddo a disgyblu yn achos rhai o’u haelodau yng ngofal yr Arglwydd Ganghellor. Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder, y Swyddfa Farnwrol, a’r Swyddfa Cwynion ac Ymchwiliadau Barnwrol ac Uned Tribiwnlysoedd Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ar y materion hyn yn ôl yr angen. Hefyd, lle y mae’r swyddogaethau yng ngofal Gweinidogion Cymru, ond nad oes modd annibynnol yng Nghymru i weithredu’r swyddogaethau hynny, gall Uned Tribiwnlysoedd Cymru lunio cytundeb asiantaeth ag un o’r cyrff barnwrol fel ym mharagraff [17] uchod. Mae cytundeb o’r fath yn bodoli yn achos y gwasanaethau recriwtio sy’n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Busnes Senedd y Deyrnas Unedig / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’w gilydd, i’r graddau y mae’n briodol ac yn ymarferol, i gyflawni eu priod gyfrifoldebau i Senedd y Deyrnas Unedig ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y llywodraethau.
Y Gymraeg
- Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ac i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo yn yr un modd i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal pan fo’n bosibl wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru sydd heb eu datganoli. Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn datblygu deddfwriaeth, polisïau a gwasanaethau yn unol â’i Chynllun Iaith Gymraeg.
- Wrth drafod datblygu deddfwriaeth, polisïau a gwasanaethau yng Nghymru, dylai Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder drafod effaith y ddeddfwriaeth, polisi neu wasanaeth arfaethedig ar y Gymraeg, a dylai hefyd drafod i ba raddau y bydd rhaglenni cyllido, a fydd yn cefnogi gweithgareddau a gynhelir yng Nghymru, yn talu am ddarparu’r gweithgareddau hynny yn y Gymraeg.
Cyfrinachedd
- Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyffredinol yn cynnwys yr egwyddorion sy’n llywodraethu dyletswydd cyfrinachedd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Deyrnas Unedig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig Confidentiality No. 12), gan gynnwys:
- cydnabyddiaeth y bydd pob gweinyddiaeth yn dymuno sicrhau bod yr wybodaeth a gyflenwir ganddi i eraill yn amodol ar fesurau diogelu priodol ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data er mwyn osgoi peryglu ei buddiannau
- mewn rhai amgylchiadau lle y gall dyletswydd cyfrinachedd godi, cydnabyddiaeth y bydd pob gweinyddiaeth rhyngddynt yn parchu gofynion cyfreithiol cyfrinachedd, a
- chydnabyddiaeth na all pob gweinyddiaeth ddisgwyl cael gwybodaeth oni bai ei bod yn trin gwybodaeth o’r fath â’r disgresiwn priodol.
- Dylai’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru ddatgan pan fyddant yn rhannu gwybodaeth â’i gilydd pa gyfyngiadau, os oes rhai, a ddylai fod ar y defnydd ohoni a bydd y ddau barti’n ymdrechu i drin gwybodaeth a gânt yn unol ag unrhyw gyfyngiadau o’r fath. Os byddi un weinyddiaeth yn cael cais gan drydydd parti am wybodaeth y mae wedi’i chael gan y weinyddiaeth arall, bydd yn gofyn barn y weinyddiaeth arall ynghylch datgelu ond bydd yn gwneud penderfyniad yn y pen draw yn unol â chyfreithiau mynediad at wybodaeth a diogelu data ac, yn achos Llywodraeth Cymru, ei Chod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth.
- Os bydd unrhyw amheuon yn cael eu mynegi ynglŷn â rhoi gwybodaeth gan un parti i’r llall, dylid cyfeirio’r mater yn y lle cyntaf at y timau Cysylltiadau Rhynglywodraethol yn Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (y Tîm Polisi Cyfiawnder a’r Tîm Datganoli Cyfiawnder yn y drefn honno), neu at Swyddfa Cymru.
Gohebiaeth
- Mae’r ddau barti wedi ymrwymo i sicrhau bod delio â gohebiaeth yn cael blaenoriaeth uchel a’i fod yn cael ei reoli’n unol â’r egwyddorion a geir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r gweithdrefnau a nodir yn:
- Canllawar Ddatganoli 1 (Common Working Arrangements), a
- Canllaw ar Ddatganoli 2 (Handling correspondence under Devolution).
- Dylai’r ganllaw gyfatebol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd gael ei dilyn, ynghyd ag unrhyw gyfundrefn gweithredu’n agored berthnasol.
Datrys anghydfodau
- Bydd camau i osgoi a datrys gwahaniaethau, anghytundebau ac anghydfodau rhynglywodraethol yn digwydd yn unol â’r egwyddorion a’r gweithdrefnau a nodir yn y protocol i osgoi a datrys anghydfodau yn adran A3 o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatrys problemau ar y lefel swyddogol briodol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, lle na ellir datrys anghydfod yn ddwyochrog neu drwy Swyddfa Cymru, y bydd materion yn cael eu cyfeirio at Weinidogion neu at Gydbwyllgor y Gweinidogion.
Adolygu
- Gall y Concordat gael ei ddiwygio ar unrhyw adeg os yw’r ddau barti’n cytuno’n ysgrifenedig i’r newidiadau.
- Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn adolygu’r Concordat ar y cyd yn rheolaidd a gellir gwneud cais am adolygiad ar unrhyw adeg os yw’r naill barti neu’r llall yn teimlo bod angen hynny. Efallai y bydd angen cymeradwyaeth gweinidogion i wneud newidiadau sylweddol.
- Yn ychwanegol at adolygiad ar y cyd o’r Concordat, efallai y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Swyddfa Cymru yn dymuno cwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn i adolygu cysylltiadau gyda golwg ar roi sylw i faterion ac i ystyried blaenolwg ar raglenni ar gyfer deddfwriaeth a gweithredu ar lefel weithredol.
Cytundeb
- Cafwyd cytundeb ar y Concordat rhwng y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru ar (21 Mawrth 2018).
Troednodiadau
[1] Mae cyfeiriadau at Lywodraeth Cymru yn cynnwys Gweinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae cyfeiriadau at y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cynnwys Gweinidogion a swyddogion y Weinyddiaeth Cyfiawnder, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydi a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Gall cyrff hyd braich y Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd fod â buddiant yn y telerau a nodir yn y Concordat hwn, ond nid oes rhwymedigaetharnynt i’w dilyn. Yn wir, nid yw’r Concordat hwn yn effeithio ar unrhyw berthynas uniongyrchol rhwng cyrff hyd braich a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyrff hyd braich hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedigi: CAFCASS Lloegr, y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol , y Bwrdd Parôl a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
[2] Diben Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yw cydlynu’n ganolog y berthynas gyffredinol rhwng y gweinyddiaethau datganoledig; cadw golwg ar y trefniadau ac ystyried anghydfodau rhnwg y gweinyddiaethau.
[3] Yn yr un modd ag y mae swyddogaethau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder fel arfer wedi’u breinio yn eiGweinidogion, mae swyddogaethau Llywodraeth Cymru fel arfer wedi’u breinio yn ei Gweinidogion (‘Gweinidogion Cymru’). Mae hefyd yn bosibl i swyddogaethau gael eu breinio yn y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol.
[4] Penodwyd yr Uwch-swyddog Arweiniol yn sgil argymhelliad (vii) gan y Gweithgor Cyfiawnder yng Nghymru y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ystyried creu un pwynt cyswllt i arwain ar gydlynu ei waith yng Nghymru yn gyffredinol, drwy gydweithio â phartneriaid mewn sefydliadau eraill a Llywodraeth Cymru.
[5] Rhaid i reolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn sy’n gyfrifol am Fil, ar neu cyn cyflwyno’r Bil, wneud datganiad ysgrifenedig sy’n nodi unrhyw effaith bosibl (os oes unrhyw effaith) darpariaethau’r Bil ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr (“asesiad o’r effaith ar gyfiawnder”).
Atodiad 1: meysydd rhyngweithio rhwng cyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru lle y mae angen ymgynghori agos a/neu gyfnewid gwybodaeth
Ymhlith pethau eraill, mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gyfrifol am lysoedd, tribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli, barnwyr, achosion sifil a throseddol (gan gynnwys rheolau tystio, trefniadaeth a gorfodaeth ac, mewn achosion troseddol, dedfrydu), carchardai a rheoli troseddwyr, y proffesiwn cyfreithiol a chymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr (Gweler Atodlen 7A Newydd i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
Gall cymhwysedd deddfwriaethol a meysydd pŵer datganoledig Llywodraeth Cymru ryngweithio â chyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, yn benodol yn achos tribiwnlysoedd, carchardai a phrawf. Mae enghreifftiau penodol o hyn yn cynnwys defnyddio barnwyr ar draws tribiwnlysoedd datganoledig a thribiwnlysoedd heb eu datganoli a darparu gwasanaethau i droseddwyr o bob oed mewn iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a hyfforddiant.
Gall penderfyniadau a wneir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder mewn rhai meysydd heb eu datganoli effeithio ar feysydd cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd angen ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth yn unol â’r Concordat hwn.
Dyma restr anghyflawn o enghreifftiau:
- Materion rheoli troseddwyr, er enghraifft, mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai
- Materion cyfiawnder ieuenctid sy’n ymwneud, er enghraifft, â chyfrifoldebau llesiant cymdeithasol neu lywodraeth leol a gwasanaethau datganoledig Llywodraeth Cymru
- Materion cyfraith Droseddol, Sifil, Teulu a Gweinyddol, a chyfiawnder sydd, er enghraifft, yn ymwneud â thribiwnlysoedd datganoledig
- Materion diogelu a llesiant cymdeithasol, er enghraifft, lle y mae dyletswyddau ychwanegol yn cael eu gosod ar dimau prawf neu Droseddau Ieuenctid, a
- Materion llys teulu sy’n effeithio ar gyfrifoldebau CAFCASS Cymru (y gwasanaeth cynghori llys teulu yng Nghymru).