Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn helpu pobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogadwyedd yn y gymuned gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. 

Mae'r rhaglen yn cael ei darparu drwy fentoriaid cyflogadwyedd mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Maent yn rhoi cyngor ac arweiniad i helpu pobl i wneud y canlynol:

  • meithrin eu hyder a'u sgiliau
  • goresgyn rhwystrau i gyflogaeth
  • gwella eu sefyllfa ariannol drwy gyflogaeth

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn canolbwyntio ar bobl 20 oed neu'n hŷn nad ydynt yn gyflogedig ac sy'n wynebu anfanteision yn y farchnad swyddi.

Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl anabl
  • cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • pobl ifanc rhwng 20 a 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed (sy'n gymwys fesul achos os nad ydynt yn addas ar gyfer unrhyw ddarpariaeth arall)
  • unigolion dros 50 oed
  • pobl â lefel sgiliau isel neu ddim sgiliau o gwbl
  • menywod (yn enwedig rhieni unigol)
  • gofalwyr a phobl sydd â chyfrifoldebau gofal plant sy'n rhwystr i gyflogaeth.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhoi cymorth cyflogaeth a hyfforddiant. Mae partneriaid cyflawni awdurdodau lleol yn trefnu hyfforddiant yn seiliedig ar anghenion unigol a lleol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: CymunedauAmWaithaMwy@llyw.cymru