Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) yn canolbwyntio ar ynni, cyfathrebu digidol a thrafnidiaeth yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, mae'r Comisiwn yn galw ar bob parti sydd â diddordeb i gyflwyno ei safbwyntiau a thystiolaeth ynghylch materion allweddol.

Sefydlwyd CSCC yn 2018 fel corff anstatudol i gynghori a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru  dros y 5–30 mlynedd nesaf.

Yn ei flwyddyn gyntaf, mae'r Comisiwn wedi edrych ar gyflwr seilwaith Cymru yn gyffredinol ac wedi dod i ddeall ychydig am y ffordd y bydd y newidiadau yn yr economi a'r amgylchedd ac mewn technoleg yn gofyn am fathau newydd o seilwaith.

Mae wedi nodi datgarboneiddio, cysylltedd a chydnerthedd fel y themâu allweddol a fydd yn hollbresennol yn ei waith.

Mae'r gwaith o ddatblygu cynllun seilwaith y corff yn ei ddyddiau cynnar, ond mae CSCC wedi dod i rai casgliadau cychwynnol y mae bellach yn ceisio tystiolaeth yn eu cylch, ac mae wedi nodi deg mater allweddol y bydd yn canolbwyntio arnynt yn y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ynghylch cyfathrebu digidol: barn gychwynnol y Comisiwn yw mai band eang symudol 4G a 5G fyddai'r dechnoleg rataf i ddarparu cysylltiadau cyflym iawn i rai cartrefi yng Nghymru, ac y dylai cyfran uwch o arian cyhoeddus gael ei neilltuo i fand eang symudol yn hytrach nag i fand eang sefydlog.
  • Ynghylch ynni: mae'r Comisiwn yn chwilio am ragor o dystiolaeth ynglŷn â sut i wella’r berthynas rhwng grid ynni Cymru a thwf ynni adnewyddadwy yn y dyfodol, gan gynnwys cynlluniau arloesol ar gyfer storio ynni, peirianneg drydanol, y system gynllunio ac ymyriadau eraill gan y llywodraeth.
  • Ynghylch trafnidiaeth: mae'r Comisiwn yn chwilio am dystiolaeth ynglŷn â'r rhwystrau yn y seilwaith sy’n atal trafnidiaeth dim allyriadau ar y ffyrdd a sut y gellir eu goresgyn – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'n bosibl na fydd y farchnad yn gallu datrys y broblem.


Erbyn Tachwedd 2021 bydd y Comisiwn yn cyflwyno cynllun ar gyfer seilwaith Cymru. Bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fforddiadwy ar gyfer darparu'r seilwaith sydd ei angen arnom a'n helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus ar gyfer pawb.

Wrth siarad cyn lansio'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd dros dro CSCC, John Lloyd Jones OBE:

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein syniadau cynnar ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer rhagor o ymchwil. Ond rhaid inni bwysleisio bod y broses yn parhau i fod yn ei dyddiau cynnar, ac nid ydyn ni am ruthro i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru tan y gwelwn dystiolaeth gref o blaid atebion seilwaith.

Mae Comisiynwyr wedi bod yn awyddus i drafod ag amrywiaeth o ddefnyddwyr a darparwyr seilwaith er mwyn deall eu dyheadau a'u pryderon ynghylch y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi ymweld â'r Gogledd, y Canolbarth a'r De i glywed am y cyfleoedd a'r heriau ym mannau gwahanol y wlad, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r llawer o bobl sydd wedi ein helpu.

Byddwn yn llunio ein hadroddiad ‘cyflwr y genedl’ cyntaf erbyn mis Tachwedd 2021.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Hoffwn i ddiolch i Gomisiynydd Seilwaith Cenedlaethol Cymru am ei ddadansoddiad cychwynnol o anghenion seilwaith Cymru – dw i’n croesawu ei flaenoriaethau clir ar gyfer rhagor o ymchwil.

Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu seilwaith sy'n cyfrannu at dyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol. Ar ôl datgan argyfwng ansawdd yn gynharach eleni, mae angen inni sicrhau bod ein seilwaith newydd yn addas ar gyfer y tymor hir – mae hyn yn golygu ystyried opsiynau carbon isel. Felly, mae'n dda gen i fod y Comisiwn wedi sicrhau y bydd y themâu datgarboneiddio, cysylltedd a chadernid yn hollbresennol yn ei waith.

Dw i'n edrych ymlaen at dderbyn ei argymhellion terfynol maes o law – bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r rhain yn ffurfiol.

Mae'r Alwad am Dystiolaeth ar agor tan 27 Mawrth 2020.