Heddiw cyhoeddodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ei argymhellion terfynol.
Sefydlwyd y Comisiwn i argymell ffyrdd o leihau tagfeydd ar draffordd yr M4 heb adeiladu ffordd liniaru newydd o amgylch Casnewydd.
Eu prif gynnig yw 'Rhwydwaith o Ddewisiadau Amgen', sy'n darparu dewis trafnidiaeth gyhoeddus cynhwysfawr a chydgysylltiedig yn lle'r M4. Mae'r rhwydwaith wedi'i gynllunio i roi dewisiadau trafnidiaeth newydd i bobl a busnesau nad ydynt yn cynnwys defnyddio'r draffordd – na char hyd yn oed.
Mae hyn yn canolbwyntio ar wella'r gwasanaethau trenau a ddarperir rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste drwy uwchraddio pedair llinell bresennol Prif Reilffordd De Cymru, fel y gall rhagor o drenau ddefnyddio'r llinellau hyn, a hynny mewn modd mwy hyblyg. Byddai hyn, am y tro cyntaf, yn caniatáu i wasanaethau cymudo lleol redeg yn rheolaidd heb amharu ar wasanaethau rheilffordd cyflym. Maent hefyd yn argymell rhaglen uchelgeisiol ar gyfer adeiladu gorsafoedd trenau, a fyddai'n ychwanegu chwe gorsaf drenau newydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren.
I ategu gorsafoedd presennol Caerdydd Canolog, Casnewydd a Thwnnel Hafren, y gorsafoedd newydd arfaethedig fyddai: Heol Casnewydd (Caerdydd), Parcffordd Caerdydd (Llaneirwg), Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd (Somerton), Llanwern a Magwyr.
Byddai asgwrn cefn y rheilffordd yn cael ei gefnogi gan goridorau bysiau a beiciau cyflym newydd ar draws y rhanbarth, yn enwedig yng Nghasnewydd. Gyda'i gilydd, byddai dros 90 y cant o boblogaeth Caerdydd a Chasnewydd yn byw o fewn milltir i orsaf drenau neu goridor bws cyflym pe bai'r cynigion yn cael eu datblygu. Gellir cyflawni llawer o'r argymhellion hyn drwy uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd presennol.
Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, yr Arglwydd Burns:
Mae'r ardal o amgylch yr M4 yn goridor economaidd pwysig iawn i Gymru. Mae'n ehangu ac yn dod yn lle deniadol i bobl weithio a byw ynddo. Yn union fel rhanbarthau tebyg yn y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill, mae angen amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth deniadol, fforddiadwy a chydgysylltiedig i wireddu ei photensial.
Mae'n amlwg nad oes gan bobl yn Ne-ddwyrain Cymru opsiynau da yn lle’r M4. Does dim fawr o ddewis gan bobl ond defnyddio'r draffordd, o ystyried y diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Credwn ni y gallai rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a dibynadwy, sy’n gystadleuol o ran prisiau, ddod yn ddewis cyntaf i lawer o deithwyr.
Gallai hyd yn oed ostyngiad cymedrol yn nifer y ceir sy'n teithio ar yr M4 arwain at welliant sylweddol i'r llif traffig. Byddai'r newidiadau rydyn ni’n eu hargymell yn creu cryn gapasiti ychwanegol yn system drafnidiaeth ein rhanbarth. Byddai'r newid hwn i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn arwain at lawer o fanteision ehangach y tu hwnt i liniaru tagfeydd, gan gynnwys lleihau llygredd aer, gwella iechyd y cyhoedd, a darparu gwell mynediad at swyddi a gwasanaethau i bawb.
Y tu hwnt i’r seilwaith, mae’r adroddiad yn argymell y canlynol:
- ffyrdd newydd o drefnu gwasanaethau trafnidiaeth, cyflymu trosglwyddo rhwng gwasanaethau, cydlynu amserlenni ac integreiddio tocynnau
- model llywodraethu newydd fel y mae 'un dull arweiniol' ar gyfer trefnu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cyfan
- mesurau i leihau'r angen i deithio, gan gynnwys mannau gweithio o bell â band eang cyflym iawn, fel y gall pobl weithio'n agosach i'w cartrefi
- awdurdodau lleol yn ystyried cyflwyno ffi parcio yn y gweithle i ddylanwadu ar ddewisiadau teithio, ar ôl i welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus gael eu gwneud
- dull o gynllunio sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth, gan sicrhau bod datblygiadau'n cael eu hadeiladu o amgylch y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'r draffordd
Mae argymhellion terfynol y Comisiwn yn dilyn eu hargymhellion llwybr carlam cynharach yn ymwneud â rheoli traffig yr M4, a oedd yn cynnwys disodli'r terfyn cyflymder newidiol presennol â rheolaeth cyflymder cyfartalog newydd o 50mya, a mesurau i wella disgyblaeth lôn fel ar y ffordd ddynesu o flaen Twneli Brynglas.