Ffoto o Roderick Smith

Mae Roderick Smith yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Athro Roderick Smith yn Athro Emeritws yn Imperial College Llundain, a chyn hynny ef oedd Athro Ymchwil Peirianneg Reilffordd Network Rail yr Academi Beirianneg Frenhinol, a Chadeirydd Canolfan Ymchwil Rheilffyrdd y Dyfodol.

Mae’n Athro Ymweld ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Academydd CRRC Tsieina. Arferai fod yn Brif Gynghorydd Gwyddonol yn yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n Gyn-Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.