Neidio i'r prif gynnwy
Ffoto o Dr Eurgain Powell

Mae Dr Eurgain Powell yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae Eurgain Powell yn ymarferydd cynaliadwyedd profiadol gydag 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes datblygu cynaliadwy a newid hinsawdd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi rhoi cyngor ar ddatblygu polisi ar draws trafnidiaeth, datgarboneiddio, caffael a thai tra'n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Chomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.   
 
Ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.