Ffoto o Richard Feasey

Mae Richard Feasey yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae gan Richard Feasey 25 mlynedd o brofiad fel uwch swyddog gweithredol yn y sector telathrebu gyda chyfrifoldebau byd-eang. Bu’n Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yn Vodafone plc am ddegawd a mwy.

Mae Richard bellach yn mynd i’r afael â diddordebau rhan-amser amrywiol, yn cynnwys fel Aelod Panel yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan ar Reoleiddio yn Ewrop, darlithydd yn University and Kings College, Llundain ac Ysgol Fusnes Judge, Caergrawnt ac ymgynghorydd annibynnol. Mae Richard wedi byw yn Aberystwyth am fwy nag 20 mlynedd.