Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) fel panel cynghori anstatudol.

Cylch Gwaith a Phwrpas 

Cylch gwaith CSCC yw asesu anghenion seilwaith Cymru dros 5-30 o flynyddoedd  o safbwynt yr economi a'r amgylchedd, gan gynnwys; ynni, trafnidiaeth, dŵr a charthffosiaeth, datrysiadau draenio, gwastraff, cyfathrebu digidol, a rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae cylch gwaith CSCC yn ymestyn i seilwaith datganoledig, seilwaith trawsffiniol a seilwaith nad yw wedi'i ddatganoli a bydd yn esblygu yn unol â'r setliad datganoli. Bydd CSCC yn cynnal astudiaethau ar heriau mwyaf dybryd Cymru o ran seilwaith ac yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru. Bydd y cyngor a ddarperir gan CSCC yn gyngor diduedd, strategol ac yn edrych at y dyfodol. 

Mewn perthynas â ‘seilwaith cymdeithasol’, bydd CSCC yn ystyried y seilwaith strategol sydd angen ei ddarparu er mwyn cefnogi cyflenwi tai, dulliau newydd o adeiladu tai, a modelau newydd o ariannu a darparu cartrefi. Bydd hefyd yn ystyried sut y mae’r seilwaith hwnnw’n rhyngweithio â seilweithiau cymdeithasol eraill, megis ysgolion ac ysbytai. Fodd bynnag, nid oes disgwyl i CSCC ystyried y seilwaith sydd ei angen ym meysydd iechyd ac addysg, na chynghori arnynt mewn manylder. 

Mae angen i CSCC fod yn gallu ystyried prosiectau sydd eisoes yn bodoli a rhai sydd ar ddod pan fo'n nodi anghenion y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw adolygu rhaglenni a gwaith sydd eisoes wedi'u penderfynu neu sy'n agos i'w penderfynu yn rhan o'i gylch gwaith. 

Gall CSCC ystyried materion cyflenwi sy'n ymdrin â sawl pwnc, megis llywodraethu, costau, ariannu a rheoli rhaglenni/prosiectau, os yw'n ystyried eu bod yn rhwystro'r gwaith o ddiwallu anghenion seilwaith. Ni fydd CSCC yn gwrthwneud prosesau statudol ond gall rhoi cyngor ac argymell gwelliannau i brosesau o'r fath os daw rhwystrau arwyddocaol i'r amlwg yn hynny o beth.

Rhaid i CSCC ymddwyn yn unol ag egwyddorion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hynny'n cynnwys: 

  • Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru,
  • Y Pum Ffordd o Weithio,
  • Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Rhaid i CSCC ystyried dyletswyddau Gweinidogion Cymru dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; gan gynnwys rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) a dyletswydd adran 6 i wella Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau.

Rhaid i CSCC ystyried rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru hefyd o ran rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill wrth ddarparu cyngor.

Aelodaeth

Bydd CSCC cynnwys 10-12 o Gomisiynwyr gan gynnwys y Cadeirydd. Caiff y Comisiynwyr eu penodi fel arfer gan Weinidogion Cymru am gyfnod o 3 blynedd.

Bydd aelodau CSCC:

  • yn darparu cyngor arbenigol diduedd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith,
  • yn dod â sgiliau neu brofiad penodol o sectorau penodol i CSCC,
  • yn cynnwys rhanddeiliaid gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, grwpiau buddiant a'r cyhoedd i hyrwyddo CSCC a chasglu amrywiaeth eang o farn ar seilwaith y dyfodol,
  • yn cefnogi'r Cadeirydd wrth gynrychioli CSCC yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau cyhoeddus, yn enwedig ar faterion lle y mae gan gomisiynwyr arbenigedd unigol.

Yn ogystal â'i gyfrifoldebau fel comisiynydd, bydd cyfrifoldebau penodol y Cadeirydd fel a ganlyn:

  • darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer CSCC; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion; goruchwylio darpariaeth gwaith CSCC, gan gynnwys monitro’r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru,
  • cyfarwyddo mewnbwn Comisiynwyr a manteisio ar eu sgiliau, eu profiad a’u harbenigedd,
  • darparu cyngor diduedd, arbenigol i Lywodraeth Cymru ar seilwaith, gan gynnwys cyngor ar flaenoriaethu a gwerth am arian ar fuddsoddiadau cyhoeddus a phreifat,
  • creu consensws mewn perthynas ag argymhellion CSCC,
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau â buddiant a’r cyhoedd,
  • creu perthynas waith â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU,
  • cynrychioli CSCC yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau,
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tîm cymorth addas ar waith i ddarparu dadansoddiad a chyngor a/neu waith comisiwn cadarn i CSCC yn ôl yr angen.

Allbynnau

Bydd CSCC yn llunio:

  • adroddiad blynyddol sy'n ymdrin â materion llywodraethu,
  • ei weithgareddau dros y 12 mis blaenorol a'i gynllun gwaith ar gyfer y 12 mis nesaf,
  • adroddiad ar gyflwr y genedl bob 3 blynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn mynegi barn ddiduedd ar gyflwr presennol y seilwaith economaidd ac amgylcheddol ar draws Cymru ac yn gwneud argymhellion i'w wella,
  • adroddiadau achlysurol ar faterion penodol sy'n ymwneud â seilwaith fel y gwêl CSCC yn briodol.  

Wrth ddatblygu ei ddadansoddiad, dylai CSCC wneud defnydd priodol o waith a ymgymerir gan gyrff eraill. Dylai hynny gynnwys ond heb ei gyfyngu i:

  • y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol,
  • tueddiadau'r dyfodol,
  • yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol,
  • gwaith a ymgymerir gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru,
  • gwaith a ymgymerir gan lywodraeth a chyrff cyhoeddus,
  • gwaith a ymgymerir gan y byd academaidd, gweithwyr proffesiynol, cyrff masnach a’r trydydd sector, a melinau trafod.

Dylai CSCC fod yn ofalus nad yw'n dyblygu unrhyw waith ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud. Pan fo CSCC yn nodi bod angen targedu ymchwil newydd, dylai gomisiynu a gwerthuso gwaith priodol. Dylid cyhoeddi unrhyw waith ymchwil a wneir a sicrhau ei fod ar gael yn hawdd i'r cyhoedd. 

Wrth lunio ei adroddiadau, bydd CSCC yn cynnwys asesiad tryloyw o'r effaith ar gostau i fusnesau, cwsmeriaid, llywodraeth, cyrff cyhoeddus a defnyddwyr eraill a fyddai'n dod i'r amlwg wrth weithredu argymhellion CSCC.

Bydd CSCC yn monitro cynnydd o ran datblygu'r seilwaith yn unol â'i argymhellion.

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi annibyniaeth CSCC drwy:  

  • ymateb yn ffurfiol i adroddiadau CSCC, gan nodi'n glir a yw'r llywodraeth yn derbyn neu'n gwrthod yr argymhellion,
  • rhoi rhesymau pan fo'n anghytuno ag argymhellion CSCC a, lle bo'n briodol, gyflwyno cynnig arall ar gyfer diwallu'r angen a nodwyd,
  • ymateb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a ddylai olygu o fewn 6 mis yn y mwyafrif llethol o achosion a byth yn hirach na blwyddyn,
  • gosod adroddiadau blynyddol ac adroddiadau cyflwr y genedl CSCC, ynghyd ag ymatebion y llywodraeth iddynt, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cylch gwaith

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau clir i CSCC drwy gyhoeddi llythyr cylch gwaith. Bydd hynny'n cynnwys cylch gwaith cyllidol sy'n rhwymo mewn cyfraith i sicrhau y byddai argymhellion CSCC yn fforddiadwy.

Bydd CSCC yn sicrhau bod ei argymhellion yn cyd-fynd â'r cylch gwaith.

Atebolrwydd

Mae CSCC yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a'i argymhellion, a'i ddefnydd o arian cyhoeddus. Dylai CSCC sicrhau bod y dystiolaeth a'r dadansoddiad sy'n sail i'w argymhellion yn gadarn.

Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru graffu ar waith CSCC hefyd. Dylai CSCC sicrhau ei fod ar gael i drafod ei adroddiadau a'r dadansoddiad sy'n sail iddynt gyda Phwyllgorau perthnasol y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y cyfarwyddyd y mae'n ei roi i CSCC. Bydd yn craffu ar yr argymhellion y mae'n ei dderbyn a'i gwrthod, a'r sail resymegol am y penderfyniadau hynny.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw llunio polisïau a chyfrifoldeb y Gweinidogion yw penderfynu ynghylch polisïau seilwaith a chyflenwi'r polisïau hynny. Cyfrifoldeb y Gweinidogion, a hwy yn unig, yw penderfynu a ddylid cymeradwyo argymhellion CSCC a sut y dylid bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny fel polisi.

Bydd CSCC yn dwyn y llywodraeth i gyfrif am gyflawni unrhyw rai o argymhellion CSCC y cytunwyd bwrw ymlaen â hwy.

Ymgysylltu

Bydd CSCC yn ceisio gweithredu mewn modd agored a thryloyw, gan greu consensws ynghylch ei argymhellion ac ymgysylltu â phartïon yn ogystal â'r cyhoedd, gwneuthurwyr polisi, arbenigwyr seilwaith a chyrff perthnasol. 

Rhaid i broses ymgysylltu CSCC fod yn gymesur ac ystyrlon, a rhaid bod ganddi ffocws strategol.  Bydd CSCC yn ystyried anghenion seilwaith pob rhan o Gymru. Bydd yn gweithredu prosesau priodol i gynnwys rhanbarthau a chymunedau Cymru. Bydd prosesau ymgysylltu CSCC yn galluogi ei allu i ddarparu cyngor strategol a hirdymor ac ni fyddant yn cyfyngu ar y gallu hwnnw nac yn tynnu sylw oddi ar hynny.

Perthynas â Chyrff Seilwaith y DU

Bydd gan CSCC rôl i'w chwarae mewn perthynas â chyfrifoldebau seilwaith Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol. Bydd CSCC yn ymgysylltu'n agos gyda'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a chyrff dan awdurdodaeth Llywodraeth y DU fel y bo'n briodol. Bydd sicrhau perthynas weithio gynhyrchiol â'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a chyrff eraill yn y DU yn rhan hanfodol o ddatblygu cyngor ystyrlon ac argymhellion ar faterion trawsffiniol. Byddant hefyd yn bwysig o ran ystyried goblygiadau'r datblygiadau sydd wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yn Lloegr ond a fydd yn cael effaith fawr ar Gymru. Dylai CSCC sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle a’u bod yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Pan fyddai rhannu gwybodaeth a chydweithio â chyrff seilwaith mewn rhannau eraill o'r DU a thramor yn fuddiol, dylai CSCC wneud trefniadau priodol.

Trefniadau ar gyfer Adolygu CSCC

Bydd CSCC yn ddarostyngedig i adolygiad cynhwysfawr o'i statws, ei gylch gwaith a'i amcanion cyn diwedd pumed tymor Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2016-2021). Rhoddir trefniadau dilynol ar gyfer adolygu'r CSCC yn eu lle ar ôl yr adolygiad cychwynnol hwn.

Diwygio, Addasu neu Amrywio

Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn effeithiol o (Dyddiad cytundeb 30/10/2019) ac mae'n parhau hyd nes bod Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ei ddiwygio ar yr amod bod pawb yn gytûn.