Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi cynigion heddiw (dydd Mawrth 20 Mehefin) i greu comisiwn newydd i oruchwylio'r sector addysg uwch a phellach yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi sut y bydd y corff newydd, a fydd yn olynu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn rheoleiddio'r sector sgiliau ac yn gyfrifol am ariannu gwaith ymchwil ac arloesi.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd yr Athro Ellen Hazelkorn ei hadolygiad annibynnol o'r sector addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Gwnaeth amrywiaeth o argymhellion a dderbyniwyd gan yr Ysgrifennydd Addysg ym mis Ionawr eleni.

Mae ymgynghoriad wedi'i lansio ynghylch y Papur Gwyn heddiw. Y cynnig allweddol yw sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru i oruchwylio a rhoi cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Mae swyddogaethau'r corff newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Diogelu buddiannau dysgwyr, sicrhau bod llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn cael yr un parch â’i gilydd, a helpu i sicrhau bod Cymru'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn economi sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.
  • Cynllunio strategol y ddarpariaeth addysg a sgiliau ledled y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.
  • Goruchwylio a chydgysylltu holl wariant Llywodraeth Cymru ar ymchwil ac arloesi. Y nod yw creu amgylchedd sy'n fwy deinamig ac yn ymateb yn well i anghenion ym meysydd ymchwil, arloesi a gwybodaeth yng Nghymru.
  • Ariannu, contractio, asesu ansawdd, cynnal gwaith monitro ariannol ac archwilio addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned, a rhaglenni cyflogadwyedd a rhaglenni dan arweiniad cyflogwyr perthnasol.
  • Datblygu gwell cysylltiadau rhwng addysg uwch a phellach a byd busnes yng Nghymru.

Byddai’r Comisiwn yn adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar berfformiad y sector ôl-orfodol.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Dw i'n cyhoeddi cynigion ar gyfer dull o ddarparu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sy’n unigryw i Gymru er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ddysgu ac ennill sgiliau gydol eu gyrfaoedd.

“Mae technoleg yn newid ein bywydau a’n heconomi yn enfawr.  Oherwydd yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle sydd wedi’i weddnewid, mae dyddiau ‘diddrwg-didda’ wedi dod i ben. Mae'r sector mewn rhannau eraill o'r DU yn newid yn gyflym a chanlyniadau Brexit hefyd yn newid yn barhaus. Nid yw peidio â gweithredu o gwbl, neu gadw at bethau fel y maen nhw, yn ddewis ymarferol.

“Nid yw ein cenhadaeth genedlaethol yn dod i ben wrth borth yr ysgol. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy’n gadael ein hysgolion yn y dyfodol  yn symud i system ôl-orfodol sy’n rhoi’r un parch i lwybrau galwedigaethol ac academaidd. Hefyd, rhaid sicrhau bod y system ôl-orfodol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn cael gyrfaoedd cynaliadwy a gwerth chweil. Bydd gweithlu o’r fath yn sicrhau bod ein heconomi yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol a bod ein pobl yn fwy ffyniannus a diogel.”