Sut y cynhaliodd y Comisiwn ei waith
Ystyriodd y Comisiwn ymchwil a dadansoddiadau cyfredol.
Edrychodd ar Fwrdd Gwaith Teg y partneriaid cymdeithasol a'i ragflaenodd.
Gofynnodd am dystiolaeth yn ystod mis Hydref er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau allweddol o safbwynt ei gylch gorchwyl.
Cynhaliodd y Comisiynwyr gyfarfodydd gyda’r canlynol:
- cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
- cyrff cynrychioliadol
- undebau llafur
- cyrff cydraddoldeb a
- rhanddeiliaid pwysig eraill
Daeth aelodau’r Comisiwn ynghyd i drafod yr adroddiad ar 19 a 20 Chwefror ac ar 8 ac 18 Mawrth.
Gwnaethom gyflwyno’r adroddiad drafft i Brif Weinidog Cymru ar ddiwedd mis Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad ym mis Mai.
Mae gwaith y Comisiwn bellach ar ben.