Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y Comisiynau Gwaith Teg

Ar sail tystiolaeth a dadansoddiad mae'r Comisiwn i wneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru.

Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion a mesurau gwaith teg a nodi ffynonellau data i helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn ystyried a ellid datblygu ymhellach y mesurau i hyrwyddo gwaith teg sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, a nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, a gwneud argymhellion.

Mae'r Comisiwn i ddechrau gwaith fis Gorffennaf 2018 ac i adrodd yn ôl erbyn Mawrth 2019.