Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Comisiwn Dylunio Cymru (DCfW) yw'r corff cynghori cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws yr amgylchedd adeiledig. Sefydlwyd DCFW Ltd yn 2002 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r rôl hon a helpu i wneud Cymru'n lle gwell.
Yn dilyn proses recriwtio agored, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Simon Jones, Simon Power, Zaynub Akbar a Barney Evans yn ymuno â bwrdd DCfW o 1 Ebrill 2025. Yn ogystal, yn dilyn adolygu'u perfformiad, bydd Jon James, Cora Kwiatkowski, Mike Biddulph a Joanne Rees yn cael eu hailbenodi i'w rolau ar y Bwrdd am bedair blynedd arall.
Rôl y Comisiwn yw hyrwyddo dylunio da ar draws pob sector, ar gyfer ein lleoedd, ein hadeiladau a'n mannau cyhoeddus ac i gyfathrebu manteision dylunio da ym mhobman i bawb. Gyda Bwrdd wedi'i adnewyddu sy'n meddu ar ystod eang o sgiliau a phrofiad perthnasol, rwy'n hyderus o gyfraniad DCfW i wella'r amgylchedd adeiledig ar draws pob sector dros y pedair blynedd nesaf.
Bydd y penodiad hwn yn para am bedair blynedd yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus (Saesneg yn unig), ac fe'i gwnaed ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol.petitive process.