Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi’i ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. 

Bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth ehangach o swyddogaethau na Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac mae’r newid enw yn adlewyrchu’r rôl estynedig hon.

Cafodd ei ailenwi a’i addasu drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae hyn yn adlewyrchu’r rôl ehangach a fydd gan y Comisiwn o ganlyniad i newidiadau mewn deddfwriaeth (sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024).

Swyddogaethau ychwanegol

Cafodd swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu ehangu gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 i gynnwys bod yn gyfrifol am gynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 a 2030, ac yn rheolaidd wedi hynny. 

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ehangu swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i gynnwys: 

  • creu a chynnal y Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer etholiadau datganoledig
  • bod yn gyfrifol am benderfynu ar y fframwaith taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau’r prif gynghorau, cynghorwyr tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a chyd-bwyllgorau corfforedig ledled Cymru

Mae hefyd yn gwneud nifer o newidiadau i’r ffordd y bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys newid y cyfnod amser ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol, a newid y trefniadau llywodraethu gan gynnwys ystyried pa mor agored a thryloyw ydy’r trefniadau hynny.

Yr aelodau

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a hyd at saith aelod ar y mwyaf. 

Er bod hyn yn gynnydd o bedwar aelod o’i gymharu â nifer aelodau Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, mae’n bwysig ystyried y set lawn o newidiadau. Ym mis Ebrill 2025, bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dod yn gyfrifol am benderfynu ar daliadau cydnabyddiaeth aelodau o’r teulu llywodraeth leol. Ar hyn o bryd, mae’r swyddogaeth hon yn cael ei chyflawni gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel).

Ar hyn o bryd, mae’r Panel yn cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a hyd at bedwar aelod. Gyda’i gilydd, roedd nifer aelodau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn dod i gyfanswm o un ar ddeg o aelodau. Pan fydd y Panel yn cael ei ddiddymu, bydd lleihad cyffredinol yn nifer yr aelodau sy’n cefnogi’r amrywiaeth lawn o swyddogaethau y mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn gyfrifol amdani.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) yn gyfrifol am bennu lefel y taliadau cydnabyddiaeth i aelodau etholedig cynghorau, cyd-bwyllgorau corfforedig, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Cafodd y Panel ei sefydlu yn 2008 ac mae’n annibynnol ar y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol.

Bydd y Panel yn cael ei ddiddymu o 1 Ebrill 2025 ymlaen, pan fydd ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. O ganlyniad, bydd yn fwy hwylus i weithio gydag awdurdodau lleol a bydd mwy o dryloywder ynghylch taliadau cydnabyddiaeth.

Pan oedd y Panel ar fin nodi deng mlynedd ers ei sefydlu, cafodd adolygiad annibynnol ei gomisiynu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd. Cafodd yr adolygiad hwnnw ei gynnal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021. Ystyriwyd a oedd y Panel yn parhau i gynrychioli gwerth am arian ac a allai fod angen gwneud unrhyw newidiadau i’w swyddogaethau a’i weithrediadau ar sail y profiad a gafwyd ers ei sefydlu.

Cafodd nifer o feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau eu hamlygu yn yr adroddiad terfynol ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer newid.

Trosglwyddo’r swyddogaeth cydnabyddiaeth ariannol

Yr un egwyddor sy’n sail i waith Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a’r Panel, sef mai’r hyn sydd wrth wraidd democratiaeth yw bod pob unigolyn yn gyfartal ac y dylai gael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar newid drwy’r system ddemocrataidd a chael ei gefnogi a’i gynrychioli yn y system honno. Mae hyn yn hanfodol i’r strwythurau gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru.

Ar ôl ystyried yr amrywiaeth lawn o gyrff cyhoeddus annibynnol yng Nghymru, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru oedd y corff sydd fwyaf addas gan fod ganddo agenda debyg i agenda’r Panel. 

Er mwyn penderfynu ar y trefniadau a’r lefelau tâl priodol ar gyfer aelodau etholedig, rhaid i’r Panel gasglu tystiolaeth i ddeall llwyth gwaith yr aelodau etholedig a sut y mae natur y llwyth gwaith yn newid gan ddibynnu ar amryw o ffactorau. Mae hyn yn cynnwys demograffeg yr etholwyr yn ardal y cyngor, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol y wardiau, ac i ba raddau y mae’r boblogaeth yn un dros dro.

Y Comisiwn sy’n pennu’r gymhareb o aelodau etholedig i etholwyr. Mae’n gwneud hyn drwy geisio sicrhau bod y gymhareb o aelodau etholedig i etholwyr yr un fath ar gyfer pob ardal o fewn ardal sirol/bwrdeistref sirol.

Bydd swyddogaethau’r Panel yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiwn, ac eithrio cylch gwaith y Panel o ran cyflogau Prif Weithredwyr. Ar hyn o bryd, gall y Panel wneud argymhellion mewn cysylltiad ag unrhyw gynnig i newid cyflog prif weithredwr cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. 

Mae cynghorau yn gyrff sy’n cael eu hethol yn ddemocrataidd, eu cyfrifoldeb democrataidd nhw yw pennu cyflog y prif weithredwr, a nhw hefyd sy’n atebol amdano. Mae hyn yn golygu ein bod yn adfer y cyfrifoldeb democrataidd hwn yn ôl i’r cynghorau lleol.

Ni fydd ansawdd y gwasanaeth yn gostwng o ganlyniad i hyn. Ar sawl ystyr, bydd yn elwa ar ffocws ehangach y Comisiwn, gan roi golwg fwy holistaidd ar y cysylltiadau rhwng rolau yr aelodau etholedig, y materion sy’n ymwneud â ffiniau a’r taliadau cydnabyddiaeth.

Bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch taliadau ailsefydlu mewn cysylltiad â Chynghorwyr. Fodd bynnag, bydd y corff newydd yn penderfynu ar y taliadau hyn yn unol â fframwaith a fydd wedi’i gynllunio gan Weinidogion Cymru.

Taliadau Cydnabyddiaeth Aelodau o’r Senedd

Gofynnwyd a ddylai swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gynnwys tâl ar gyfer Aelodau o’r Senedd a pham na wnaeth yr adolygiad gynnwys Bwrdd Taliadau’r Senedd. Adolygiad penodol i’r Panel oedd yr adolygiad deng mlynedd a oedd yn rhan o’r rhesymeg dros newid. Taliadau cydnabyddiaeth aelodau etholedig llywodraeth leol yn unig sy’n cael eu hystyried gan y Panel. 

Corff unigol sy’n gyfrifol am dâl i Gynghorwyr ac i Aelodau o’r Senedd

Cafodd y mater hwn ei godi yn ystod hynt Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Cafwyd cydnabyddiaeth mai mater i’r Senedd yw hwn, ac y byddai angen gwneud rhagor o waith i nodi a oes angen newid y trefniadau presennol ar gyfer penderfynu ar dâl Aelodau o’r Senedd. Byddai unrhyw waith pellach yn llywio trefniadau yn y dyfodol