Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn defnyddio eich data a'ch hawliau o ran gwybodaeth bersonol.

Cyflwyniad

Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg (‘y comisiwn’) gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a allai helpu cryfhau cymunedau Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.

Bydd y comisiwn yn cyflwyno ei argymhellion ar ffurf adroddiad.

I'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, rydym yn gofyn barn dinasyddion, sefydliadau a rhan-ddeiliaid.

Data personol

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod. Nid yw gwaith ymgysylltu'r comisiwn yn gofyn yn benodol am ddata y gellir ei adnabod yn bersonol, ond gall gohebwyr ddewis darparu data personol fel rhan o'u dulliau cyfathrebu â'r comisiwn.

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar ei chyfer.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer  hwn yw ein tasg gyhoeddus, sef ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae cyfranogiad unigol yn wirfoddol.

Mae'r comisiwn yn annibynnol ar y Llywodraeth yn yr ystyr ei fod yn gallu datblygu argymhellion, ceisio tystiolaeth ac fel arall gyflawni ei rôl heb ymyrraeth wleidyddol gan Weinidogion. Ac eithrio’r Cadeirydd, nid yw’r Comisiynwyr yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cymorth gweithredol i'r comisiwn, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rheoli cronfa ddata'r rhestr bostio.

Storio data

Mae data personol pobl sy'n cysylltu â'r comisiwn yn cael ei gasglu gan swyddogion Llywodraeth Cymru a'i gadw ar gronfa ddata mewn ffeil ddiogel, lle dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru all gael mynediad at y data.

Mae gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig a gaiff ei chasglu a'i chadw yn cynnwys manylion personol megis enw, cyfeiriad a manylion cyswllt.

Os ydych wedi cyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth i'r comisiwn ei hystyried, bydd unrhyw ddata y gellir ei adnabod yn bersonol yn cael ei ddileu gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn i'r wybodaeth gael ei throsglwyddo i aelodau o'r comisiwn nad ydynt yn gyflogedig gan Lywodraeth Cymru.

Ni chaiff data personol ei rannu y tu allan i Lywodraeth Cymru. Ni fydd data personol, megis enwau, yn cael ei rannu ag aelodau o'r comisiwn nad ydynt yn gyflogedig gan Lywodraeth Cymru heb ganiatâd penodol.

Defnyddio gwybodaeth

Yn ein cylch gwaith fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law, at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol:

  • cysylltu ag unigolion sydd wedi mynegi dymuniad i gael gwybod am weithgarwch y comisiwn
  • monitro'r ymgysylltiad cyffredinol â'r comisiwn

Caiff y rhestr hon ei ehangu wrth i waith y comisiwn ddatblygu.

Hawliau'r unigolyn

O dan y GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • hawl i gael mynediad (gofyn am gopi o'ch data eich hun)
  • hawl i gywiro (cywiro gwybodaeth anghywir)
  • hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data
  • hawl i ddileu data
  • hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon neges at cymraeg@llyw.cymru

Cysylltwch â

Os hoffech drafod sut mae eich data yn cael ei storio a'i brosesu, gallwch cysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Neu cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y comisiwn:

Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Is-adran Cymraeg 2050
Llywodraeth Cymru
Doc Fictoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1TH

Cymraeg@llyw.cymru 

Yn unol â'r hawl derfynol a nodir uchod, gellir cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: casework@ico.org.uk neu ar 029 2067 8400 / 0303 123 1113. Ceir rhagor o fanylion am y Comisiynydd Gwybodaeth isod. 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Churchill House
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth