Cylch gorchwyl: yr ail gam
Mae’n esbonio beth fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ei drafod.
Cynnwys
Cefndir
Gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw gwneud argymhellion er mwyn cryfhau polisi cyhoeddus o ran cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau, a defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol/gymdeithasol.
Mae’r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan, ac yn wir yn cael ei siarad y tu allan i Gymru hefyd, a bydd gwaith y Comisiwn yn digwydd yng nghyd-destun cynaliadwyedd y Gymraeg lle bynnag y caiff ei siarad.
Ym mis Awst 2024 cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei adroddiad terfynol ar gyfer cymunedau Cymraeg dwysedd uwch (cam cyntaf ei waith). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt. O ganlyniad i’r ymrwymiad hwn bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gwneud hyn fel ail gam o’i raglen waith.
Mae llawer o’r ardaloedd nad oeddynt yn rhan o gylch gorchwyl y Comisiwn yn ystod Cam 1 wedi gweld cynnydd o ran niferoedd a chanrannau siaradwyr Cymraeg dros y degawdau diwethaf a hynny yn bennaf o ganlyniad i dwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen cynyddu’r cyfleoedd yno i bobl gaffael a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol hefyd.
Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei gadeirio gan Dr. Simon Brooks.
Cylch gorchwyl
Prif nod ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw ystyried sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Bydd disgwyl i’r Comisiwn gyflwyno argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru cyn pen dwy flynedd.
Gall y Comisiwn bennu rhai amcanion o’i eiddo ei hun sy’n fuddiol yn ei farn ef i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, serch hyn mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’r Comisiwn drafod yr amcanion canlynol fel rhan o gylch gorchwyl yr ail gam:
- Ystyried sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol/gymunedol mewn cymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg.
- Ystyried sut y gellir cryfhau cynaliadwyedd y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau hyn.
- Adnabod rôl a chyfraniad meysydd polisi allweddol mewn perthynas â’r Gymraeg yn y cyd-destun hwn pan fo hynny’n berthnasol.
- Ystyried strategaethau perthnasol o ran y Gymraeg mewn cymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg (er enghraifft, lle ceir rhwng oddeutu 25% a 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg).
- Cwblhau adroddiad cryno ar gynllunio gwlad a thref erbyn mis Rhagfyr 2024.
- Ystyried presenoldeb y Gymraeg tu hwnt i Gymru, gan gynnwys y cyfraniad y gallai siaradwyr Cymraeg yno ei wneud i ffyniant y Gymraeg yn gyffredinol.
- Cyflwyno adroddiad ac argymhellion polisi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru cyn pen dwy flynedd o ddyddiad ei sefydlu.
Mae Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr yn arddel yr iaith fel iaith genedlaethol ac wedi gosod dau brif darged, sef:
- Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
- Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013 i 2015) i 20% erbyn 2050.
Cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ac argymhellion ynghylch cynaliadwyedd ieithyddol a defnydd iaith yng nghyd-destun ardaloedd lle mae dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg ym mis Awst 2024. Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ac argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd eraill Cymru a thu hwnt cyn pen dwy flynedd o ddyddiad ei sefydlu.