Neidio i'r prif gynnwy

Beth rydym yn ei wneud

Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion gyda’r nod o gryfhau cymunedau Cymraeg.

Roedd sefydlu Comisiwn yn un o argymhellion yr adroddiad Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru (2021).

Ar 8 Awst 2024, cyflwynodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks, adroddiad y Comisiwn, Grymuso Cymunedau, cryfhau'r Gymraeg, i'r Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r adroddiad, a bydd yn ymateb i'r adroddiad a'i argymhellion yn 2025.

Ym mis Awst 2024, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ail gam i waith y Comisiwn sef edrych ar ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt.