Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r arolwg bob dwy flynedd hwn yn rhoi darlun o safbwyntiau cyflogwyr ar recriwtio a sgiliau a'u profiadau yn y meysydd hynny.

Mae’r arolwg wedi ei seilio ar 18,000 o gyfweliadau ffôn gyda chyflogwyr yn y DU ar draws pob sector a maint. Mae’n casglu safbwyntiau cyflogwyr ar ddulliau recriwtio, rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU, a phenderfyniadau i’w defnyddio ai peidio.

Defnyddir y wybodaeth i lywio penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol ac o fewn sectorau ynghylch ble a sut i fuddsoddi yn y gyfundrefn sgiliau i sicrhau ei bod yn gallu cwrdd ag anghenion busnesau.

Mae gwaith maes bellach wedi cychwyn ar Arolwg Safbwyntiau Cyflogwyr 2016 (EPS16)

Cynhelir ymchwil ar gyfer yr arolwg rhwng mis Mai a mis Awst 2016 gan IFF Research ar ran:

  • UKCES
  • Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS)
  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • Adran Cyflogaeth a Dysgu, Gogledd Iwerddon (DELNI)

Mae llwyddiant yr arolwg yn ddibynnol ar barodrwydd cyflogwyr i gymryd rhan. Os cânt eu dethol mae cyfle i’r cyflogwyr ddewis amser sy’n gyfleus ar gyfer y cyfweliad. Os ydych yn gyfranogwr gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ar wefan IFF Research.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn gallwch anfon e bost at: eps16@ukces.org.uk.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

James Carey

Rhif ffôn: 0300 025 3811

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.