Fe aeth y bobl sy'n chwilio am ffyrdd gwell o gyfiawnder yng Nghymru i Butetown yng Nghaerdydd ddoe (dydd Mercher 17 Hydref).
FE AETH y bobl sy'n chwilio am ffyrdd gwell o gyfiawnder yng Nghymru i Butetown yng Nghaerdydd ddoe (dydd Mercher 17 Hydref).
Daeth tua 40 o bobl at y sesiynau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymunedol Butetown ar Loudon Square i rannu eu barn ar blismona, cyfiawnder a'r system gyfreithiol yn gyffredinol.
Roeddent yn drigolion lleol a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system gyfiawnder yng Nghymru a bydd aelodau'r comisiwn yn defnyddio eu cyfraniadau wrth gasglu eu canfyddiadau ar gyfer adrodd y flwyddyn nesaf.
Bu'r aelod o'r Comisiwn, Sarah Payne, yn cadeirio'r sesiwn yn Butetown. Dywedodd: "Mae'n wirioneddol bwysig nad ydym ni'n cael ein gweld fel grŵp o bobl mewn ystafell yn siarad ymhlith ein hunain.
"Rydyn ni'n awyddus iawn bod canlyniad ein gwaithwedi ei selio ar yr hyn y mae pobl wedi dweud wrthym ni yng Nghymru a mae’n bwysig i glywed profiadau pobl."
Mae Sarah yn gyn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a Chadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan.
Dilynodd y digwyddiad sesiwn debyg ym Mhontypridd ddydd Mawrth pan gyfarfu aelodau'r comisiwn â gweithwyr proffesiynol a goroeswyr cam-drin domestig o Dde Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd papur ymgynghorol ar Gyngor Cyfraith Cymru ac y mae'r comisiwn wedi gwahodd sylwadau arno.
Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer ei ddyfodol.
Mae'r comisiwn yn teithio o amgylch Cymru a'r DU yn cymryd tystiolaeth gan bobl am eu profiadau a'r hyn y maent yn meddwl y dylai newid.