Simon Davies Comisiynydd
![Simon Davies](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/_AJM6363_600x400.jpg?itok=MuHkftua)
Mae Simon Davies yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Mr Davies oedd Prif Swyddog Pobl, Cyfraith a Strategaeth Grŵp Bancio Lloyds ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredol. Cyn hynny treuliodd 25 mlynedd gyda Linklaters, un o gwmnïau cyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r byd. Yn ystod ei wyth mlynedd olaf gyda’r cwmni, ef oedd y Partner Rheoli. Mae’n Gyfreithiwr i Uwchlysoedd Cymru a Lloegr a bu’n gweithio fel cyfreithiwr yn Hong Kong a Japan. Mae’n ymwneud yn agos â’r gwaith o feithrin perthynas rhwng y DU a Tsieina.