Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro Rick Rawlings

Mae'r Athro Rick Rawlings yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Mae’r Athro Rawlings yn Athro Cyfraith Gyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn Athro Gwadd Nodedig yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru. Mae wedi ysgrifennu’n eang am ddatganoli yng Nghymru ac ar sawl agwedd arall ar gyfraith gyhoeddus y DU ac Ewrop. Bu’n Gynghorydd Cyfreithiol Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ac ar hyn o bryd mae’n Brif Gymrawd Ymchwil gyda Leverhulme.