Yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ DL Comisiynydd
Mae'r Athro Peter Vaughan yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Cafodd yr Athro Vaughan ei benodi’n Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn 2010 ac fe ymddeolodd ddiwedd 2017, wedi 33 mlynedd o wasanaeth gyda’r heddlu. Fel Prif Gwnstabl, bu’n is-gadeirydd Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu ac is-gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu. Bu hefyd yn cadeirio Grŵp Prif Swyddogion Heddlu Cymru, Bwrdd Cydweithredu Rhanbarthol Cwm Taf a Chyd-grŵp Gwasanaethau Brys Cymru. Ef hefyd oedd arweinydd cenedlaethol yr heddlu ar gyfer ymateb y gwasanaeth i'r Gofyniad am Blismona Strategol. Peter yw Is-Arglwydd Raglaw Sir Morgannwg Ganol ac Is-ganghellor St. John Cymru. Yn mis Ionawr 2018 daeth yn Athro Plismona a Diogelwch ym Mhrifysgol De Cymru.