Dr Nerys Llewelyn Jones Comisiynydd
![Dr Nerys Llewelyn Jones](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/_AJM6356_600x400.jpg?itok=b1-ivX7H)
Mae Dr Nerys Llewelyn Jones yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Dr Llewelyn Jones yw Partner Rheoli Agri Advisor yng Nghaerfyrddin. Sefydlwyd y cwmni ganddi yn 2011 i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ac eirioli arbenigol i ffermwyr, perchnogion tir a thrigolion cefn gwlad. Mae ganddi wybodaeth ymarferol o'r diwydiant ffermio a PhD mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy a'i Weithredu ar lefel Ryngwladol, Ewropeaidd a Rhanbarthol. Mae'n gyfryngwr achrededig ac yn gymrawd Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol.