Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 24 Hydref 2019.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ym mis Medi 2017 ei fod yn sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i fwrw golwg ar y modd y mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer.

Dechreuodd y Comisiwn ar ei waith ym mis Rhagfyr, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd. Bydd yn ystyried pa drefniadau y mae angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan Gymru system gyfiawnder sy’n addas i’r diben ac yn addas ar gyfer y setliad datganoli newydd yn Neddf Cymru 2017. Bydd yn cyhoeddi ei adroddiad ar 24 Hydref 2019.

Mae’r Comisiwn yn edrych ar gyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant yn y gyfraith; proffesiynau ac economi’r gyfraith; a’r awdurdodaeth gyfreithiol. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar 27 Chwefror 2018 a bydd yn cynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru i’w helpu i lywio ei waith.

Os oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth y Comisiwn, cysylltwch â ni.