Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn falch o gyflwyno adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae hi wir wedi bod yn fraint i’r ddau ohonom arwain yr ymchwiliad hwn a gwneud cyfraniad pwysig, gobeithio, at y ddadl am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae trafodaethau’r comisiynwyr wedi mynd i’r afael â chwestiynau hollbwysig am y ffordd mae Cymru’n cael ei llywodraethu, am iechyd ein democratiaeth a sut mae ymgysylltu â dinasyddion o bob cwr o’n gwlad. O’r cychwyn cyntaf roedd pobl Cymru wrth galon ein gwaith: mae’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn arwain y ddadl hon, er mwyn gallu teimlo yn y dyfodol eu bod wir yn rhan o’r gwaith o wneud penderfyniadau yn ein cenedl ac yn gallu dylanwadu ar y gwaith hwnnw.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi Cymru ar y droed flaen ar adeg ansicr i wleidyddiaeth. Mae ein comisiwn yn arbennig gan ei fod yn fenter drawsbleidiol sy’n cynrychioli lleisiau’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd, ynghyd ag arbenigeddau a phrofiadau y rheini sydd heb ymlyniad i unrhyw blaid. Nid oedd yr un ohonom yn mynd i’r afael â’r gwaith hwn gydag unrhyw agenda, ein hunig nod oedd trin a thrafod pa sefydliadau ac arferion fydd y gorau i bobl Cymru. Drwy ein trafodaethau a’n casgliadau unfrydol, mae Cymru wedi arloesi drwy gynnal dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth.

Fe wnaethom ddechrau ar ein gwaith drwy gychwyn sgwrs â phobl Cymru. Fe wnaethom ddefnyddio nifer o sianeli ymgysylltu i wneud hyn ac fe aeth y gwaith hwn ymlaen am dros ddeuddeg mis. Roedd dinasyddion yn awyddus i ymgysylltu ac roedd y cyfle wedi’u galluogi i wneud cyfraniadau meddylgar, pwyllog a chraff. Rydym yn credu bod canlyniadau’r dull hwn wedi dangos y math o ymgysylltu sydd ei angen i adfywio democratiaeth yng Nghymru, a’r awydd am drafodaeth wleidyddol ddifrifol ac adeiladol ymysg pobl Cymru.

Yn ein hadroddiad, rydym yn mynd i’r afael â 4 mater allweddol:

Yn gyntaf, rydym yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu democratiaeth. Nid yw’r rhain yn unigryw i Gymru o bell ffordd ac maent i’w gweld mewn gwledydd ym 4 ban byd sydd ag amrywiaeth eang o gyfansoddiadau. Maent yn mynd y tu hwnt i strwythurau a systemau etholiadol. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu drwy wrando ar brofiadau rhyngwladol ar sut mae goresgyn heriau o’r fath. Rydym yn credu bod gan Gymru’r potensial i greu diwylliant sy’n fwy cadarn yn ddemocrataidd, i fod yn ddemocratiaeth eang, drwy fecanweithiau ymgysylltu arloesol sy’n cyfoethogi gwaith cynrychiolwyr etholedig. Mae hyn yn gwbl hanfodol os ydym am oresgyn yr ymddieithriad a’r sinigiaeth sy’n peryglu ein democratiaeth.

Yn ail, rydym yn ystyried cyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol a ffiniau setliad datganoli Cymru. Nid yw Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi cydweithredu yn y ffordd mae dinasyddion yn ei disgwyl ac sy’n hanfodol i lwyddiant yr Undeb. Rydym yn galw am gamau brys i gryfhau pileri cyfreithiol a gweithdrefnol y berthynas rhwng y llywodraethau.

Yn drydydd, rydym yn nodi meysydd lle mae pwerau datganoledig newydd yn hanfodol i ddiogelu’r setliad presennol, a meysydd eraill lle dylid ac y gellid cryfhau llais Cymru drwy fecanweithiau cydlywodraethu. Mae’r rhain yn newidiadau sydd eu hangen ar frys i roi’r setliad ar sylfaen sefydlog a chadarn.

Yn bedwerydd, rydym yn cyflwyno ein dadansoddiad manwl o dri opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru:

  • atgyfnerthu datganoli
  • Cymru mewn DU ffederal
  • Cymru annibynnol.

Rydym yn ddiolchgar i aelodau ein Panel Arbenigol. Roedd eu gwaith ar y dadansoddiad hwn yn amhrisiadwy. Rydym yn dod i’r casgliad bod y dadansoddiad yn dangos bod y tri opsiwn yn hyfyw. Mae i bob un ei gryfderau, ei wendidau, ei risgiau a'i gyfleoedd. Nid dewis yr opsiwn gorau i Gymru oedd ein tasg ni; yn hytrach, ein bwriad yw taflu goleuni ar y dewisiadau i bobl Cymru yn y dyfodol.

Rydym yn gomisiwn amrywiol ac annibynnol, ac mae pob un ohonom wedi cyfrannu o’n profiadau a’n harbenigeddau ein hunain. Rydym wedi ceisio bod mor ddiduedd â phosibl yn ein dadansoddiad a’n casgliadau.

Gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel yn y DU, ac etholiad Senedd Cymru yn 2026, rydym  yn obeithiol y bydd y pleidiau gwleidyddol yn ymateb yn ddi-oed i’n dadansoddiad a’n casgliadau, yn yr un ysbryd o ddadl agored ac adeiladol sydd wedi arwain ein gwaith. Yn hollbwysig, rydym yn gobeithio y bydd pobl Cymru yn defnyddio canfyddiadau ein hadroddiad i godi eu lleisiau ac i helpu i gyfeirio sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Anrh. Dr Rowan Williams