Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol - Pennod 2: sgwrs genedlaethol
Adroddiad terfynol y comisiwn sy'n manylu ar opsiynau i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Un o’n tasgau pwysicaf oedd cynnal 'sgwrs genedlaethol’ gyda dinasyddion Cymru am sut maen nhw’n gweld dyfodol eu cenedl.
Roedd hwn yn ymarfer uchelgeisiol, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni lle mae llawer o ddinasyddion yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth eu cynrychiolwyr etholedig, ynghyd â chyfyngiadau’r pandemig ar ddechrau ein hymchwiliad. Fe wnaethom ddefnyddio nifer o ddulliau gwahanol i ymgysylltu â dinasyddion lle maen nhw, gan fynd atyn nhw yn ogystal â’u gwahodd i ddod atom ni.
Fe wnaethom ddarparu platfform i siarad â ni drwy nifer o gyfryngau gwahanol. Fe wnaethom fynd at y rheini na fyddent fel arfer yn dewis ymgysylltu’n rhagweithiol â Chomisiwn fel hwn: fe aethom i ganolfannau siopa, i ddiwrnodau hwyl i’r teulu ac i wyliau bwyd, fe aethom i’r stryd fawr ac i ganolfannau cymunedol. Fe wnaethom gysylltu â’r rheini sy’n wynebu rhwystrau strwythurol sy’n atal eu lleisiau rhag cael eu clywed. Fe wnaethom sefydlu paneli dinasyddion i glywed safbwyntiau o bob cwr o Gymru, gan y rheini sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol ac yn arddel safbwyntiau cryf, a chan y rheini nad ydynt wedi ffurfio barn ar faterion cyfansoddiadol cyn hyn. Rydym wedi cefnogi ymchwil meintiol newydd i farn pobl ar sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu a’u dyheadau i’r dyfodol.
Gyda’i gilydd, mae hyn wedi datgelu sut mae dinasyddion yn gweld llywodraeth a’u perthynas â llywodraeth. Mae wedi dangos beth yw barn pobl Cymru, a’r DU drwyddi draw, am yr Undeb a lle Cymru ynddo. Yn bwysicaf oll, mae wedi dangos eu dyheadau ar gyfer dyfodol eu cenedl.
Rhoi llinell uniongyrchol i bobl at y Comisiwn
O gamau cyntaf gwaith y Comisiwn, gwnaethom gadw llinell agored i ddinasyddion allu dweud eu barn a beth sy’n bwysig iddyn nhw.
Ym mis Mawrth 2022 fe wnaethom agor Dweud eich Dweud: Have your Say, arolwg ar y we a oedd yn gofyn cwestiynau agored am yr hyn sy’n bwysig i ddinasyddion, beth maen nhw’n ei ystyried yw cryfderau a gwendidau’r system bresennol a sut maen nhw’n teimlo am wahanol fodelau llywodraethu. Roedd hyn yn cynnwys manylion cyswllt i anfon ymatebion testun rhydd drwy e-bost neu drwy’r post, os oedd pobl eisiau dweud rhywbeth nad oedd yn cyd-fynd â strwythur yr arolwg, a’r opsiwn i lwytho negeseuon fideo neu sain i fyny.
Roedd mwy na 2500 o bobl wedi ymateb i’r arolwg Dweud eich Dweud: Have your Say. Fe wnaethom drafod y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion hynny yn yr adroddiad interim. Roedd Dweud eich Dweud: Have your Say yn rhoi cipolwg gwerthfawr o flaenoriaethau’r rheini a ymatebodd, ond roedd cyfyngiadau i’r data a gawsom. Roedd hyn wedi ein harwain i greu sianeli eraill i ymgysylltu â dinasyddion a deall eu safbwyntiau, gan siapio’r sgwrs ehangach a gawsom dros y flwyddyn ddiwethaf.
Un neges o Dweud eich Dweud: Have your Say yw bod pobl yn awyddus i gael dweud eu dweud am ddiwygio cyfansoddiadol, ond yn teimlo nad oedd ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ymgysylltu’n ystyrlon. Mewn ymateb, ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom sefydlu’r platfform ymgysylltu ar-lein, a oedd yn gofyn cwestiynau penodol i bobl am opsiynau posibl ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Yn bwysig, roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddatganoli a llywodraethu, blogiau ar agweddau amserol ar lywodraethu, a swyddogaeth sylwadau a sgwrsio wedi’i chymedroli er mwyn i bobl allu gofyn cwestiynau a chael atebion, yn ogystal â chyfleu pwyntiau nad oeddent yn cyd-fynd â chwestiynau’r arolwg. Cawsom 1025 o ymatebion ar wahân drwy’r platfform ymgysylltu ar-lein, yn ogystal â nifer o sylwadau a negeseuon e-bost (cafwyd mwy na 15,600 o ymweliadau â gwefan y platfform ymgysylltu ar-lein, lle gallai ymwelwyr gael gafael ar wybodaeth am system lywodraethu Cymru ac opsiynau ar gyfer llywodraethu yn y dyfodol yn ogystal â chael yr opsiwn i gyflwyno ymateb i’r arolwg).
Yn amlwg, roedd pobl wedi mynd ati o’u gwirfodd i gyflwyno sylwadau drwy ein dau arolwg ar-lein. Roedd yr ymatebwyr wedi cyfrannu oherwydd cymhelliant ac ymrwymiad personol, nid oherwydd eu bod wedi cael eu dewis i gynrychioli safbwyntiau pobl yng Nghymru drwyddi draw. Byddai felly’n gamarweiniol dweud bod dadansoddiad meintiol o’r dewisiadau a oedd orau gan bobl yn yr ymatebion hyn yn cynrychioli ‘beth mae Cymru ei eisiau’. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion i’n harolygon ar-lein yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar farn yr ymatebwyr am ddiwygio cyfansoddiadol.
Fe wnaethom ddysgu bod rhai dinasyddion wedi meddwl o ddifri am gyfansoddiad Cymru yn y dyfodol ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddiwygio. Roedd arnom eisiau cael eu safbwyntiau a deall yn well beth maen nhw’n ei wybod, eu dyheadau a’u disgwyliadau.
Mae yna ddinasyddion eraill sy’n frwd dros wella eu cenedl ac ansawdd bywyd y rheini sy’n byw yma, ond nad ydynt efallai’n meddwl am bethau yng nghyd-destun llywodraethu a diwygio cyfansoddiadol. Roedd arnom eisiau dysgu am eu blaenoriaethau a’u dyheadau i Gymru.
Mae yna ddinasyddion hefyd sy’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y cyfeiriad y mae’r wlad yn ei dilyn, sy’n teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. Roedd arnom eisiau clywed beth maen nhw’n anhapus amdano, beth maen nhw’n ei deimlo sy’n mynd o chwith a beth maen nhw’n ei feddwl fyddai’n datrys y problemau hyn.
Clywed barn y rheini nad ydynt yn aml yn cael eu clywed
Un anfantais i’n dau arolwg ar-lein yw eu bod yn mynnu bod pobl yn chwilio am sianeli o’r fath ac yn ymateb drwy gyfrwng digidol. Rhaid i ymatebwyr fod yn gwybod am waith y Comisiwn cyn gallu dewis cymryd rhan o’u gwirfodd. Roeddem wedi defnyddio llawer ar sianeli hyrwyddo, ond byddai cyrraedd pawb yng Nghymru mewn cyfnod o ddwy flynedd wedi golygu llawer mwy o adnoddau nag a oedd gennym.
Er ei bod yn well gan lawer ymateb ar-lein, nid yw’r dull hwn o fewn cyrraedd i’r rheini nad ydynt yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol neu blatfformau tebyg, ac nid yw o unrhyw ddefnydd i’r rheini sydd wedi'u heithrio’n ddigidol.
Diffyg arall y dulliau lle mae pobl yn dewis cymryd rhan o’u gwirfodd yw nad ydynt yn cyrraedd y rheini sydd ddim eisiau ymgysylltu, am ba reswm bynnag. Gall hyn gynnwys y rheini sy’n wynebu rhwystrau strwythurol i ymgysylltu, boed hynny’n iaith, yn addysg, yn dechnoleg neu’n anabledd. Efallai nad oes gan rai pobl ddiddordeb neu eu bod yn credu nad yw eu barn yn cael ei gwerthfawrogi.
I oresgyn y rhwystrau hyn, fe wnaethom geisio dod a’r Comisiwn at bobl yn uniongyrchol. Fe wnaethom gomisiynu Cazbah (mae Cazbah yn gwmni marchnata a rheoli digwyddiadau dwyieithog yng Nghymru sydd â phrofiad helaeth o reoli sioeau teithiol ymgysylltu â’r cyhoedd, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â sgiliau, gyrfaoedd, addysg, iechyd a llywodraeth) i gynnal digwyddiadau ymgysylltu dros dro mewn 26 o wahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru. Cafodd y rhain eu cynnal yng nghalon cymunedau lle roeddem yn gallu cyrraedd pobl yn ystod eu diwrnodau arferol; mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd, mewn diwrnodau hwyl i’r teulu yn ystod yr haf sy’n cael eu cynnal gan gynghorau lleol, mewn canolfannau cymunedol ac ar y stryd fawr. Yn ystod haf 2023 roedd hyn wedi cyrraedd 3,545 o bobl, ac roedd 2,327 o’r rheini wedi llenwi arolwg byr (roedd yr arolwg hwn yn un gwahanol a byrrach na'r hyn a gynhaliwyd ar y platfform ymgysylltu ar-lein, ac roedd ei strwythur yn debycach i Dweud eich Dweud: Have your Say) i fynegi’r gwerthoedd roedden nhw’n meddwl a oedd yn bwysig i Gymru yn y dyfodol, ac roedd 600 wedi rhoi eu cyfeiriadau e-bost i gael rhagor o wybodaeth am waith y Comisiwn.
Ar ben hynny, roedd arnom eisiau clywed gan y rheini sydd â nodweddion sy’n cael eu tangynrychioli yn y boblogaeth gyffredinol, a deall sut mae eu profiadau a’u hanghenion wedi siapio eu barn am newid cyfansoddiadol. Mae ymchwil cynrychioladol, cytbwys ac sydd wedi’i bwysoli o ran y boblogaeth yn gallu cynnwys rhai o’r safbwyntiau hynny, ond mae safbwyntiau grwpiau llai yn gallu cael eu cysgodi gan y boblogaeth ehangach yn y dadansoddiad cyfanredol.
I fynd i’r afael â hyn, fe wnaethom lansio’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned. Pwrpas y gronfa hon oedd galluogi grwpiau o gymunedau mwy ymylol i gasglu ac i adlewyrchu barn eu cymuned i’r Comisiwn. Roedd 42 o grwpiau wedi gwneud cais am hyd at £5,000 o gyllid. Roeddem wedi gallu ariannu 11 sefydliad ar draws Cymru rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023. Derbyniwyd adroddiad terfynol erbyn mis Mai 2023. Mae rhestr lawn o’r grwpiau a gafodd gyllid yn atodiad 7 – Lleisiau y dinasyddion.
Mae’r dull cyfathrebu yn gallu bod yn rhwystr i’r math hwn o gyfranogiad. Yn aml, disgwylir ymatebion yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio iaith ffurfiol neu broffesiynol. Mae hyn yn gallu eithrio pobl nad ydyn nhw’n gallu mynegi eu hunain yn gyfforddus mewn Cymraeg neu Saesneg ysgrifenedig ffurfiol. Fe wnaethom gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i grwpiau o ran sut roedden nhw’n ymgysylltu ac yn adrodd yn ôl i ni. Roedd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y grwpiau demograffig roedd pob grŵp yn eu cyrraedd, ond roedd pob adroddiad yn defnyddio dull gweithredu gwahanol ac yn cyfrannu safbwynt gwahanol. Roedd yr adroddiadau ar nifer o ffurfiau gwahanol gan gynnwys barddoniaeth, rap, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol, celfyddydau gweledol a ffotograffiaeth, ochr yn ochr ag adroddiadau cryno ysgrifenedig mwy traddodiadol.
Drwy alluogi pobl i ddefnyddio eu geiriau eu hunain i ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw am lywodraethu, cawsom wybodaeth werthfawr am brofiad o lywodraeth, llywodraethiant a diwygio cyfansoddiadol gan bobl nad ydynt yn cael eu clywed yn aml ar y pynciau hyn. Roedd hyn wedi datgelu gwybodaeth am flaenoriaethau, am syniadau am lywodraeth a rôl y dinesydd, a dyheadau ar gyfer y dyfodol na fyddent wedi ein cyrraedd drwy ddulliau llai penodol.
Clywed barn Cymru gyfan a’r tu hwnt
Roedd y dulliau ymgysylltu a drafodwyd uchod wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ansoddol gyfoethog am safbwyntiau dinasyddion, ar sail ymatebion wedi’u targedu neu ymatebion lle’r oedd yr ymatebwyr wedi dewis cymryd rhan o’u gwirfodd. Roedd arnom eisiau ategu hyn gyda data ansoddol a meintiol, o Gymru a’r DU drwyddi draw hefyd. Fe wnaethom hyn mewn dwy ffordd.
Yn gyntaf, fe wnaethom gomisiynu Beaufort Research i gynnal cyfres o baneli dinasyddion cydgynghorol ac arolwg Cymru gyfan. Yn ail, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â'r Athro Richard Wyn Jones yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a'r Athro Ailsa Henderson ym Mhrifysgol Caeredin ar eu hymchwil Cyflwr yr Undeb 2023.
Data ansoddol
Paneli dinasyddion
Fe wnaethom sefydlu wyth panel dinasyddion i ystyried opsiynau cyfansoddiadol mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru. Cafodd y darn hwn o waith ei wneud gan Beaufort Research sydd â phrofiad helaeth yn y maes hwn. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu cael gafael ar ystod ehangach o gyfranogwyr nag y gallem fod wedi’i wneud fel arall.
Sesiynau cydgynghorol oedd y rhain yn hytrach na grwpiau ffocws. Roedden nhw’n dilyn egwyddorion proses gydgynghorol: rhoi gwybodaeth gytbwys, cefnogi trafodaethau a galluogi cyfranogwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Rydym yn trafod gwerth mecanweithiau cydgynghorol ym mhennod 3.
Roedd pob panel yn cynnwys 16 o bobl a ddewiswyd i adlewyrchu trawstoriad eang o boblogaeth Cymru o ran oedran, rhywedd, safbwyntiau gwleidyddol, cefndir economaidd-gymdeithasol, byw mewn ardal wledig/drefol, siaradwyr Cymraeg, LHDTC+, cyfnodau bywyd (ee rhieni â phlant ifanc, pobl sy’n gadael addysg, pobl wedi ymddeol ac ati), ethnigrwydd, a gwybodaeth a diddordeb canfyddedig yn y cyfansoddiad. O’r 128 o ddinasyddion a wahoddwyd i gymryd rhan yn y paneli (16 i bob panel, gydag 8 panel yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru), roedd 127 wedi cymryd rhan yn y cam cyntaf ac roedd 121 o bobl wedi cymryd yn yr ail gam. Roeddem wedi rhagweld na fyddai pawb yn dod, oherwydd ffactorau fel salwch, diffyg gofal plant, patrymau gwaith ac yn y blaen.
Cyfarfu pob panel ddwywaith. Y tro cyntaf, siaradodd y cyfranogwyr yn gyffredinol am lywodraeth a llywodraethiant, ac am eu blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth yng Nghymru. Nesaf, roedd aelodau’r paneli wedi cymryd rhan mewn cyfnod o ymgysylltu arlein, gyda’r bwriad o gynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth i baratoi ar gyfer ail gam cydgynghorol y trafodaethau wyneb yn wyneb. Roedd hyn wedi arwain at lefelau da o ymgysylltu gyda dros 1,150 o bostiadau ar y platfform i gyd (heb gynnwys cwestiynau pleidleisio). Roedd y cam hwn hefyd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr ofyn cwestiynau a chael gwybodaeth mewn ymateb, a ddarparwyd yn ystod ail gyfarfodydd y panel.
Yna cyfarfu’r paneli eto, y tro hwn i ystyried opsiynau penodol ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Cyflwynwyd gwybodaeth gytbwys i’r cyfranogwyr am sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu ar hyn o bryd, y gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol. Yna gofynnwyd iddyn nhw bwyso a mesur hyn, trafod a dod i’w hasesiad eu hunain o’r opsiynau cyfansoddiadol. Weithiau daeth y cyfranogwyr i gasgliad gwahanol erbyn diwedd y sesiwn olaf o’i gymharu â phan ddechreuon nhw’r broses, gan ddangos effaith gwybodaeth, trafodaeth ac amser i feddwl ar eu safbwyntiau.
Roedd y rhan hon o’r sgwrs genedlaethol yn werthfawr o ran dweud wrthym beth yw barn dinasyddion nawr, a sut newidiodd eu barn weithiau ar ôl trafod â’u cymheiriaid a chael gwybodaeth am sut mae’r llywodraeth yn gweithio a diwygio cyfansoddiadol.
Data meintiol
Rhwng sesiynau’r panel dinasyddion, cynhaliodd Beaufort Research arolwg ar ddiwygio cyfansoddiadol gyda sampl gynrychioladol o 1596 o aelodau o boblogaeth oedolion Cymru sy’n 16 oed a hŷn drwy gyfuniad o ymchwil ar-lein a thros y ffôn. Gosodwyd cwotâu ar gyfer rhywedd, oedran a dosbarth cymdeithasol ac fe’u haddaswyd gan bwysoli data i sicrhau bod y sampl mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth oedolion Cymru.
Ymchwil Cyflwr yr Undeb
Byddai gan unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol sylweddol i Gymru oblygiadau i rannau eraill o’r DU. I gefnogi ein trafodaethau ar ddyfodol Cymru, roedd arnom eisiau cael tystiolaeth feintiol ar farn dinasyddion ar draws y DU. I gael y darlun 360 gradd hwn o bob un o bedair rhan y DU, gwnaethom ffurfio partneriaeth â staff yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin ar eu hymchwil.
Cyflwr yr Undeb 2023. Maen nhw wedi cynnal arolwg rheolaidd ymysg poblogaeth gynrychioliadol pob un o wledydd y DU ar faterion cyfansoddiadol ers 2011, gan olrhain y newidiadau dros amser. Roedd gweithio mewn partneriaeth a nhw yn golygu ein bod yn gallu cynnwys cwestiynau newydd, wedi’u teilwra I waith y Comisiwn.
Rhoi cyhoeddusrwydd i waith y Comisiwn
Ar ddechrau ein gwaith yn 2022, cafodd cyfleoedd i ymgysylltu eu cyfyngu gan gam olaf cyfyngiadau Covid. Ar ôl codi’r rhain, fe wnaethom fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb, yn ogystal ag ar-lein. Roedd Comisiynwyr wedi mynd i ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys cymryd rhan mewn sesiynau a gynhaliwyd drwy’r Gronfa Ymgysylltu a’r Gymuned. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau hyn yn atodiad 7 – Lleisiau y dinasyddion.
Roedd yn flaenoriaeth sicrhau bod cyfleoedd i glywed am y Comisiwn a’i waith yn cael eu cynnig ar hyd a lled Cymru. Roedd sioe deithiol Cazbah wedi cyrraedd y 22 awdurdod lleol, fwy nag unwaith weithiau. Roedd y paneli dinasyddion yn cynrychioli gwahanol ardaloedd daearyddol, gyda phob un yn cael ei gynnal mewn rhan wahanol o Gymru. Mae Atodiad 7 yn nodi leoliadau’r paneli ac ymweliadau sioe deithiol Cazbah.
Roedd y platfform ymgysylltu ar-lein yn gallu cofnodi lle roedd y bobl a oedd yn defnyddio’r platfform yn byw (roedd yr ymatebwyr yn rhoi pedwar digid cyntaf eu cod post i roi data am eu lleoliad). Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu monitro ymatebion i’r arolwg yn ol ardal ddaearyddol a thargedu ein gwaith cyfathrebu mewn ardaloedd nad oeddem wedi clywed cymaint ganddyn nhw ag eraill.
Yr hyn a ddysgon ni o’r sgwrs genedlaethol
Roedd llawer o’r hyn a ddysgon ni yn sail i’r canfyddiadau a nodir yn y penodau sy’n dilyn. Dyma oedd y negeseuon cyffredinol o’r sgwrs:
1. Mae lefelau’r ddealltwriaeth am gyfansoddiad y DU yn isel, ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i gyfrannu at y ddadl am ei newid.
Mae dwy agwedd i’r canfyddiad hwn: faint o wybodaeth sydd gan bobl am drefniadau cyfansoddiadol eu gwlad (gwaelodlin gyffredinol o wybodaeth), a faint o wybodaeth mae pobl yn teimlo sydd ganddyn nhw (hyder dinasyddion yn eu dealltwriaeth eu hunain). Mae’r ddwy agwedd yn gysylltiedig, ond yn wahanol, ac yn cael effaith wahanol ar allu dinasyddion i ymgysylltu â’r ddadl ar ddiwygio cyfansoddiadol.
Mae’r sgwrs genedlaethol wedi cadarnhau’r hyn sydd wedi cael ei feddwl ers tro byd: yn gyffredinol, nid yw pobl yng Nghymru (ac yn y DU drwyddi draw) yn gwybod rhyw lawer am sut maent yn cael eu llywodraethu. Roedd hyd yn oed y rheini a oedd yn cael eu cymell i ymateb inni’n uniongyrchol drwy ein harolygon ar-lein yn aml yn camddeall y cyfrifoldebau datganoledig a sut mae llywodraethau’n gwneud penderfyniadau.
Yn y paneli dinasyddion, roedd llawer wedi dechrau drwy ddweud ‘ddim yn gwybod’ wrth eu holi pa un o’r tri opsiwn oedd orau ganddyn nhw. Nid oedd rhai’n teimlo’n hyderus wrth ddewis opsiwn hyd yn oed ar ol cael y cyfle i ddysgu, i drafod ac i ystyried pa opsiwn oedd orau ganddynt. Rhaid nodi bod hyn yn seiliedig ar y cam data ansoddol, ac nid yw’n ystadegol arwyddocaol, ond mae’n rhoi syniad o’r heriau sy’n wynebu dinasyddion wrth drafod opsiynau cyfansoddiadol.
Pan ofynnwyd i aelodau ein paneli dinasyddion pa lywodraeth oedd yn gyfrifol am beth, roedd y rhan fwyaf yn gallu priodoli’r rhan fwyaf o bynciau’n gywir ac eithrio plismona a darlledu - roedden nhw’n meddwl bod y rhain yn faterion datganoledig (Canfyddiadau terfynol yr ymchwil ansoddol gydgynghorol: safbwyntiau ar y tri opsiwn a ffefrir gan y Comisiwn ar gyfer Cymru, Beaufort Research, 2023). Ond yn yr arolwg meintiol a gynhaliwyd gan Beaufort Research, roedd lleiafrifoedd sylweddol yn cael pethau’n anghywir – roedd traean yn meddwl bod budd-daliadau wedi’u datganoli, ac roedd ychydig o dan draean yn meddwl mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am bolisi iechyd yng Nghymru (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Mae data o arolwg tebyg gan Beaufort Research yn 2013 yn awgrymu nad yw’r lefelau gwybodaeth wedi codi (ibid), er gwaethaf degawd o ehangu deddfwriaeth y Senedd a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy amlwg yn ystod pandemig Covid.
Fe ddaeth yn amlwg o’r sgwrs genedlaethol hefyd bod hyder pobl yn eu gwybodaeth yn ymddangos yn is fyth nag oedd eu dealltwriaeth yn ei awgrymu.Er enghraifft, yn yr ymchwil Cyflwr yr Undeb, pan ofynnwyd i ddinasyddion osod eu hunain ar sbectrwm gyda sofraniaeth seneddol ar un pen a sofraniaeth ar y cyd a llywodraethau cenedlaethol ar y pen arall, un o’r atebion mwyaf poblogaidd ym mhedair rhan y DU oedd ‘ddim yn gwybod’.
Yn y paneli dinasyddion ac yn nifer o adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned, dechreuodd llawer o’r cyfranogwyr drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod dim am sut roedd Cymru’n cael ei rhedeg (ac ychwanegodd rhai nad oedden nhw’n poeni). Fodd bynnag, wrth bwyso neu ofyn iddyn nhw am eu barn yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus, daeth hi’n amlwg bod llawer yn deall llawer mwy am lywodraethu yng Nghymru nag yr oedden nhw’n ei gydnabod.
Mae’r lefelau isel cyffredinol o wybodaeth a dealltwriaeth, hyd yn oed ymysg y rheini sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, yn drawiadol. Nid yw’n unigryw i Gymru, ond mae’n broblem sy’n tanseilio hyder mewn sefydliadau democrataidd ar bob lefel o lywodraeth. Pan fydd Llywodraeth y DU yn ymyrryd ar faterion datganoledig, mae hyn yn ychwanegu at y dryswch. Mae dinasyddion yn ansicr ynghylch pwy sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan, hyd yn oed ar bynciau sydd o bwys mawr iddynt, fel gwasanaethau iechyd.
Yr effaith gronnol yw bod pobl wedi ymddieithrio, ddim yn ymwybodol o’r dylanwad y gallen nhw ei chael ar y system bresennol a ddim yn ymwybodol o’r opsiynau ar gyfer newid.
Sofraniaeth Senedd y DU
Cwestiwn: Pan fydd pobl yn son am newid y ffordd mae’r DU yn cael ei llywodraethu, mae hyn weithiau’n cynnwys y syniad y dylai Senedd y DU rannu sofraniaeth (ei goruchaf bŵer i wneud deddfau) a’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae pobl eraill yn dadlau y dylai sofraniaeth Senedd y DU barhau heb ei gwanhau. Ar y raddfa ganlynol, pa un sydd agosaf at eich barn chi? Noder: mae 1,2 a 3 yn dynodi pwyntiau ar sbectrwm ymatebion.
Graff o ymchwil Cyflwr yr Undeb 2023.
Y paneli dinasyddion a’r opsiynau cyfansoddiadol
Canlyniadau pleidleisio o ddechrau a diwedd sesiynau terfynol y paneli dinasyddion, mae rhifo yn cynrychioli nifer yr unigolion sy’n ymateb.
Graff o adroddiad 2023 Beaufort Research (Canfyddiadau terfynol yr ymchwil ansoddol gydgynghorol: safbwyntiau ar y tri opsiwn a ffefrir gan y Comisiwn ar gyfer Cymru, Beaufort Research, 2023)
2. At ei gilydd, mae gan ddinasyddion ddiddordeb mewn diwygio cyfansoddiadol, ond efallai nad ydyn nhw’n mynegi’r diddordeb hwnnw yn y termau hynny. Mae llawer o ddinasyddion yn fframio eu barn ar ddiwygio cyfansoddiadol o ran blaenoriaethau uniongyrchol yn hytrach nag mewn termau haniaethol.
Wrth holi am flaenoriaethau cyffredinol, mae pobl yn aml yn gosod newid cyfansoddiadol yn is na materion fel y GIG, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill (The economy and inflation remain the country’s biggest concerns, closely followed by the NHS).
Mae gwaith Beaufort Research yn awgrymu y byddai’n gamgymeriad dehongli hyn fel ‘does gan ddinasyddion ddim diddordeb mewn sut mae Cymru’n cael ei rhedeg, ac felly dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill.’
Wrth holi dinasyddion am eu diddordeb yn y ffordd caiff Cymru ei rhedeg, heb gyfeirio at dermau technegol am lywodraethiant, dywedodd 81% o’r ymatebwyr ar draws Cymru fod ganddyn nhw ddiddordeb mawr neu eithaf diddordeb. Mae’r ffigur hwn yn weddol gyson ar draws yr holl grwpiau demograffig ac ymlyniadau gwleidyddol (yr allanolyn yw’r rheini nad ydyn nhw’n pleidleisio – 62% - Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023).
Rydym hefyd wedi gweld pan fydd pobl yn cael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl, eu bod yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwnnw. Cawsom dros 5,900 o ymatebion i’n harolygon ar-lein. Roedd cyfraddau gadael cyn gorffen y panel dinasyddion yn isel iawn a’r presenoldeb yn uchel, hyd yn oed ym mhaneli’r ail gam a gynhaliwyd ar nosweithiau braf o haf. Fodd bynnag, mae modd priodoli rhywfaint o’r presenoldeb hwn i’r ffaith bod y cyfranogwyr yn cael eu talu am eu hamser.
Pan ofynnwyd i bobl beth sy’n bwysig iddynt, roeddent yn dweud wrthym am eu gwerthoedd a’u blaenoriaethau polisi ar gyfer gwaith y llywodraeth. Roedd y rhain yn amrywio’n fawr, gan gynnwys newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon a llawer mwy. Y neges gyson yw bod cael llais yn y penderfyniadau hyn yn bwysig i bobl. Yn aml, nid ydyn nhw’n fodlon â’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan ac maen nhw eisiau cael rhagor o lais mewn llywodraeth.
Wrth holi am opsiynau ar gyfer newid cyfansoddiadol roedd y bobl roeddem wedi ymgysylltu â nhw, y rheini a oedd wedi dewis cymryd rhan eu hunain a’r rheini a gyfrannodd drwy’r arolygon ymchwil meintiol a’r paneli dinasyddion, yn gallu rhoi safbwyntiau clir am fodelau llywodraethiant, yr hyn roedden nhw’n ei ystyried yn fanteision ac yn anfanteision, a’r dewisiadau a oedd orau ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
Yn gyffredinol, nid yw pobl yn meddwl am lywodraethu mewn ffordd haniaethol, maen nhw’n meddwl am ei effaith uniongyrchol ar fywyd cymunedau ac unigolion yng Nghymru. Efallai nad oes ganddyn nhw farn bendant am yr hyn a fyddai orau i Gymru: yr hyn y mae arnyn nhw ei eisiau yw system lywodraethu effeithlon ac effeithiol sy’n cyflawni’r polisïau maen nhw’n eu cefnogi, gyda gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n diwallu eu hanghenion.
Efallai na fydd pobl eisiau cymryd rhan yn y ddadl ar newid cyfansoddiadol os yw’n ymddangos ei fod ar wahân i bryderon bywyd bob dydd, ond mae’r ffordd caiff eu gwlad ei llywodraethu yn bwysig iawn iddyn nhw ac maen nhw eisiau i’w lleisiau gael eu clywed.
3. Mae llawer o bobl yn cyfuno cwestiynau am strwythurau cyfansoddiadol gyda barn ar waith llywodraeth y dydd.
Nid yw llawer o ddinasyddion yn gwahaniaethu rhwng gwaith y llywodraeth a’r strwythurau llywodraethiant y mae’n rhaid iddi eu dilyn. Yn y paneli dinasyddion, soniodd pobl am ddarparu gwasanaethau yn hytrach na sofraniaeth neu ymreolaeth. Wrth drafod llywodraethiant, soniodd pobl am lygredd a defnyddio arian cyhoeddus yn wael (cafodd y farn hon ei rhannu fwyaf yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein ac adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned, ac i ryw raddau yn y paneli dinasyddion).
Yn yr un modd, nododd yr adroddiadau gan grwpiau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned fod cyfranogwyr yn siarad am lywodraeth yng nghyd-destun y gwasanaethau mae’n eu darparu. Mewn llawer o’r adroddiadau hyn, disgrifiodd y cyfranogwyr eu perthynas â’r llywodraeth fel defnyddiwr gwasanaeth i ddarparwr gwasanaeth. Maen nhw’n mesur perfformiad y llywodraeth yn ôl ansawdd y gwasanaeth a pha mor addas yw’r gwasanaeth i’w hanghenion a’u dewisiadau.
Mae’r farn hon o lywodraeth sy’n seiliedig ar ddarpariaeth, ynghyd â lefel isel o wybodaeth am strwythurau lleol a chenedlaethol, yn golygu bod barn llawer o bobl am llywodraethiant yn deillio o’u profiad o bolisïau a pherfformiad y llywodraeth. Er enghraifft, roedd y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd gan ymatebwyr sy’n cefnogi annibyniaeth yn ymwneud ag anfodlonrwydd â gweithredoedd Llywodraeth bresennol y DU. Yn groes i hynny, roedd llawer o’r rheini a oedd yn dadlau dros lai o ddatganoli, neu dros ddiddymu’r sefydliadau datganoledig, yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Cymru neu’n teimlo nad yw gwasanaethau yng Nghymru yn ddigon da (roedd hyn i’w weld yn yr ymatebion i’r arolygon ar-lein).
4. Mae hunaniaeth ac ymlyniad gwleidyddol yn effeithio ar farn pobl am y ffordd ymlaen.
Os yw pobl yn ystyried bod y llywodraeth sydd mewn grym a’r strwythurau llywodraethiant cenedlaethol yn golygu’r un peth, nid yw’n syndod bod eu hymlyniad gwleidyddol yn effeithio ar eu dewisiadau o ran llywodraethiant.
Yn yr adroddiad interim, fe wnaethom sylwi bod y safbwyntiau a fynegwyd gan ddinasyddion wedi cael eu pegynu, gan gyd-fynd â’u dewisiadau cyfansoddiadol.
Mae ymchwil y paneli dinasyddion yn rhoi cipolwg ar sut mae nodweddion gwahanol yn effeithio ar brofiadau pobl o ddatganoli, a barn am y dyfodol cyfansoddiadol gorau i Gymru.
Mae 54% yn meddwl bod system lywodraethu bresennol Cymru yn gweithio’n dda iawn neu’n weddol dda, ac mae 43% yn meddwl fel arall. Mae pobl iau yn fwy cadarnhaol o’u cymharu â charfannau hŷn (ond mae’r gwahaniaethau’n fach).
Effeithiolrwydd llywodraethiant Cymru
Cwestiwn: Yn eich barn chi, pa mor dda mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio?
% ymatebion fesul oedran.
Sail: pob un (1,596), 16 i 34 (465), 35 i 54 (506), 55 oed a hŷn (339).
Graff o adroddiad Beaufort Research 2023.
Effeithiolrwydd a chefnogaeth y pleidiau
Cwestiwn: Yn eich barn chi, pa mor dda mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio? % yn ôl ymlyniad gwleidyddol. Sail: Ceidwadwyr (284), Llafur (567), Democratiaid Rhyddfrydol (126), Plaid Cymru (196), Reform UK (58), Y Blaid Werdd (61), arall (14), Dim (197), Mae’n well gen i beidio â dweud (41), Ddim yn gwybod (48).
Mae angen nodi’r seiliau bach, ac mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hwn.
Graff o adroddiad Beaufort Research 2023.
Gan nodi bod rhai o seiliau’r arolwg hwn yn fach, mae’n ymddangos bod cefnogwyr y Ceidwadwyr a Reform UK, y rheini nad oeddent yn cefnogi plaid wleidyddol, a’r rheini a oedd yn cefnogi pleidiau eraill o’r opsiynau a gynigiwyd yn llai bodlon â’r ffordd mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio, tra bod cefnogwyr y pleidiau eraill a restrir yn fwy cadarnhaol o lawer am y system lywodraethu bresennol.
Roedd y safbwyntiau a fynegwyd i ni yn y Gymraeg bron yn gyfan gwbl o blaid mwy o ymreolaeth, yn aml yn fwy o blaid yr UE ac yn debygol o gefnogi polisïau a oedd yn hyrwyddo nodau cymdeithasol (mynd i’r afael â thlodi, hawliau lleiafrifoedd, mesurau amgylcheddol). Yn groes i hynny, at ei gilydd roedd y lleiafrif a ddywedodd wrthym eu bod yn siaradwyr Cymraeg ond yn dewis ymateb yn Saesneg yn erbyn rhagor o ymreolaeth, ac yn aml yn gwrthwynebu sut roedd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r Gymraeg (gwelwyd hyn yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein ac i raddau yn rhai o adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned).
Safbwyntiau ar opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol
Roedd tynnu’r elfennau hyn o’r sgwrs genedlaethol at ei gilydd yn dangos:
- At ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli, a byddai llawer yn ffafrio mwy o ymreolaeth, er bod eu dyheadau’n amrywio o ran hyd a lled hynny.
- Mae Cymru mewn DU ffederal yn ddyhead deniadol i rai. Mae ffederaliaeth yn gallu bod ar sawl ffurf ac nid yw’n ymddangos bod unrhyw fersiwn blaenorol yn gwbl briodol i’r DU. Mae’n dod yn llai deniadol wrth drafod agweddau ymarferol gweithredu ffederasiwn gweithredol ar draws y DU.
- Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ac i ddiddymu’r sefydliadau datganoledig yn safbwyntiau lleiafrifol ar hyn o bryd, ond yn safbwyntiau cryf. Mae’r gefnogaeth i bob un wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n ymddangos bod y twf yn y gefnogaeth i’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu lefel uwch o begynu gwleidyddol yn y boblogaeth yn gyffredinol.
Rydym yn edrych yn fanylach ar y safbwyntiau hyn mewn penodau eraill.
Casgliad
Mae defnyddio dulliau amrywiol, gyda’r nod o ymgysylltu â chynifer o bobl â phosibl, wedi rhoi persbectif manwl a chyfoethog ar farn dinasyddion Cymru.
Roeddem wedi llwyddo i gyrraedd lawer o bobl drwy ddulliau costeffeithiol, ond mae bylchau mawr yn ein gwaith ymgysylltu o hyd: Nid yw 18 mis yn ddigon hir i gynnal sgwrs genedlaethol gynhwysfawr. Nid oeddem wedi gallu clywed gan gynrychiolwyr o bob cymuned ar hyd a lled Cymru. Roeddem wedi dechrau ymgysylltu â chymunedau sy’n cynrychioli pobl F/fyddar a phobl sy’n rhannol ddall a sipsiwn a theithwyr. Cafodd camau pwysig eu cymryd, gyda diolch i sefydliadau trydydd parti sydd wedi gweithio gyda ni, ond nid oedd gennym ddigon o amser i oresgyn rhwystrau a’u galluogi i gymryd rhan yn llawn. Mae angen i sgwrs genedlaethol fod yn un barhaus a thymor hir, dros flynyddoedd yn hytrach na misoedd, er mwyn adeiladu ar y dechrau rydym wedi’i wneud.
Yn y bennod nesaf, byddwn yn ystyried sut mae ymateb i’r materion hyn drwy adfywio democratiaeth yng Nghymru.