Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r cwestiynau sy’n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn hanfodol i ddyfodol Cymru. P’un a yw pobl yn cefnogi’r Undeb, annibyniaeth, datganoli, neu unrhyw ffurf gyfansoddiadol arall, mae’n hanfodol trafod yr opsiynau’n agored ac yn adeiladol. Heb drafodaeth ar sail gwybodaeth bydd y ddadl boblogaidd yn dod yn fwy adweithiol ac wedi'i phegynu’n fwy byth.

Roedd dau amcan cyffredinol i’n cylch gwaith:

  1. ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni
     
  2. ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle hwn i gyfrannu at greu dadl aeddfed sy’n seiliedig ar wybodaeth, tystiolaeth gadarn a dadansoddiad arbenigol. Mae gan rai ohonom ar y comisiwn ymlyniad gwleidyddol ac eraill ddim. Rydym wedi dod ag amrywiaeth ein safbwyntiau ein hunain i’r gwaith ac rydym wedi ceisio cadw meddwl agored a dadansoddi’n ofalus y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni. Drwy ein hymchwiliad trawsbleidiol, mae Cymru wedi arloesi drwy gynnal dadl adeiladol ar sail tystiolaeth.

Barn dinasyddion

Ein tasg gyntaf oedd cynnal 'sgwrs genedlaethol’ gyda dinasyddion Cymru am sut maen nhw’n gweld dyfodol eu cenedl. Mae hon wedi bod yn dasg anodd, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni lle mae dinasyddion yn aml yn teimlo eu bod ymhell oddi wrth y rheini sy’n eu llywodraethu. Rydym wedi ceisio ymgysylltu â dinasyddion lle maen nhw, gan eu gwahodd i ddod atom ni hefyd. Rydym wedi ategu’r gwaith ymgysylltu hwn gyda data meintiol ac ansoddol ar safbwyntiau dinasyddion.

Roedd yr ymgysylltu a’r ymchwil hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar farn dinasyddion am lywodraeth a’u perthynas â’u cynrychiolwyr etholedig. Fe ddatgelodd eu dyheadau o ran sut caiff eu gwlad ei rhedeg nawr a sut gellid ei rhedeg yn y dyfodol, ac roedd yn tynnu sylw at ddiffygion democratiaeth yng Nghymru o safbwynt dinasyddion.

Mae pennod 2 yn disgrifio’r sgwrs genedlaethol ac mae pennod 3 yn ystyried iechyd democratiaeth yng Nghymru.

Un o’r negeseuon cryfaf oedd bod llawer o ddinasyddion yn teimlo nad oes ganddynt ddylanwad ar waith y llywodraeth. Er bod sefydliadau democrataidd Cymru yn aeddfedu, nid yw dinasyddion yn ymddiried yn llwyr mewn datganoli eto, ac rydym yn argymell camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

Rydym yn argymell tri mesur i gryfhau democratiaeth yng Nghymru:

Argymhellion i gryfhau democratiaeth yng Nghymru:

Arloesi democrataidd

1. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.

Egwyddorion cyfansoddiadol

2. Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i ymgysylltu dinasyddion â’r gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru.

Diwygio’r Senedd

3. Rydym yn argymell y dylid darparu adnoddau ar gyfer yr adolygiad arfaethedig o ddiwygio’r Senedd i sicrhau dadansoddiad cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o effaith y newidiadau, gan gynnwys o safbwynt y pleidleiswyr ac atebolrwydd democrataidd.

Diogelu datganoli

Mae penodau 4 a 5 yn ystyried cyflwr y berthynas rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU a’r pwysau ar ffiniau pwerau datganoledig.

Ers y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE, mae Senedd San Steffan a Llywodraeth y DU wedi diystyru’r confensiynau sydd i fod i ddiogelu datganoli droeon. Ni ellir cymryd y setliad presennol yn ganiataol ac mae mewn perygl o gael ei erydu’n raddol heb gamau i’w ddiogelu. Dylai ‘dim newid’ fod yn opsiwn i ddinasyddion, ond heb weithredu ar frys ni fydd setliad hyfyw i’w ddiogelu.

Mae ein hargymhellion i ddiogelu datganoli wedi’u nodi isod. Maent wedi cael eu dylunio i atgyfnerthu cysylltiadau rhynglywodraethol, rhoi pwys ar gonfensiwn Sewel, ac ymestyn y pwerau datganoledig i wella atebolrwydd a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Mae angen y newidiadau hyn ar frys i wneud datganoli yn opsiwn hyfyw i’r hirdymor.

Argymhellion i ddiogelu datganoli

Cysylltiadau rhynglywodraethol

4. Dylai Llywodraeth Cymru gynnig i lywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon y dylai Senedd San Steffan ddeddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU.

Confensiwn Sewel

5. Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth i Senedd San Steffan i nodi bod angen cydsyniad y sefydliadau datganoledig ar gyfer unrhyw newid i’r pwerau datganoledig, ac eithrio pan fydd angen hynny am resymau y cytunir arnynt rhyngddynt, fel: rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch gwladol, neu bolisi macroeconomaidd.

Rheolaeth ariannol

6. Dylai Llywodraeth y DU ddileu’r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, ac eithrio lle ceir goblygiadau macroeconomaidd.

Darlledu

7. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.

Ynni

8. Dylai llywodraethau Cymru a’r DU sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys ar sut y gellid diwygio’r setliad datganoli ac ymgysylltu rhynglywodraethol mewn perthynas ag ynni i baratoi ar gyfer arloesi technegol cyflym ym maes cynhyrchu a dosbarthu ynni, er mwyn sicrhau bod Cymru’n gallu gwneud y mwyaf o’i chyfraniad at sero net ac at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol. Dylai cylch gwaith y grŵp gynnwys cynghori ar yr opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron, a ddylai ddod yn gyfrifoldeb i lywodraeth ddatganoledig Cymru, fel y mae yn yr Alban.

Cyfiawnder a phlismona

9. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona yn ddeddfwriaethol ac yn weithredol i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn unol ag amserlen y bydd y naill lywodraeth a’r llall yn cytuno arni i ddatganoli pob rhan o’r system gyfiawnder, gan ddechrau gyda phlismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, gyda’r cyllid angenrheidiol wedi’i sicrhau, a darpariaeth ar gyfer cydlywodraethu lle bo angen ar gyfer gweithrediadau effeithiol.

Gwasanaethau rheilffyrdd

10. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffyrdd a’r seilwaith rheilffyrdd i Gymru gyda chyllid teg a chydlywodraethu yng nghyswllt gwasanaethau trawsffiniol.

Y cyd-destun allanol

Ni ellir ystyried newid cyfansoddiadol yng Nghymru heb ystyried datblygiadau yng ngweddill y DU. Nid yw barn y cyhoedd yn bodoli mewn gwactod. Mae dinasyddion yn ymateb i’w hamgylchiadau, a phan fydd yr amgylchiadau hynny’n newid, felly hefyd eu hasesiad o’r hyn sydd orau i Gymru. Drwy gynllunio ymlaen llaw, bydd ein dinasyddion a’n gwleidyddion yn cael cyfle i ymgysylltu’n adeiladol â newidiadau allanol a’u heffaith bosibl ar Gymru.

Ym mhennod 6 rydym yn crynhoi safbwyntiau dinasyddion ar yr opsiynau cyfansoddiadol ac yn ystyried goblygiadau newidiadau yng nghyfansoddiad y DU, fel annibyniaeth yr Alban, ailuno Iwerddon, newid cyfansoddiadol radical yn San Steffan neu newid yn y berthynas rhwng y DU a’r UE.

Opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol

Yn ein hadroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom nodi tri opsiwn hyfyw ar gyfer y dyfodol:

  1. mwy o ddatganoli*
  2. strwythur ffederal
  3. Chymru annibynnol.

* Roedd yr adroddiad interim yn galw’r opsiwn hwn yn ‘ddatganoli wedi'i wreiddio’, ond drwy ein sgyrsiau gyda dinasyddion fe wnaethom ddysgu nad oedd y term hwn yn golygu rhyw lawer iddynt. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn galw’r opsiwn hwn yn fwy o ddatganoli, er mwyn cyfleu ein hystyr yn gliriach.

Ym mhennod 7 rydym yn nodi’r diffiniadau o’r opsiynau a’n hasesiad o bob un yn erbyn y meini prawf yn ein fframwaith dadansoddi. Fe wnaethom ddefnyddio’r fframwaith yn gyfartal gyda phob opsiwn a hynny mewn ffordd niwtral a gwrthrychol.

Ein casgliad yw bod pob opsiwn yn hyfyw. Mae i bob un ei gryfderau a’i wendidau, ei risgiau a’i gyfleoedd. Nid ydym yn argymell pa un sydd orau i Gymru, oherwydd mae dewis rhwng yr opsiynau yn dibynnu ar y canlynol:

  1. y pwysoliad cymharol a roddir i bob un o’r meini prawf
  2. lefel y risg a’r ansicrwydd y mae pobl yn barod i’w derbyn wrth geisio gwireddu’r cyfleoedd mae pob opsiwn yn eu cynnig.

Nid yw hwn yn benderfyniad y gall y Comisiwn ei wneud. Mae dewis rhwng y meini prawf a gwerthuso’r risg yn ddewis i bleidiau gwleidyddol a dinasyddion unigol.

Ein dyhead yw y dylid cael dadl adeiladol sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i Gymru, ar sail y dystiolaeth a’r dadansoddiad gorau sydd ar gael, er mwyn i bobl Cymru allu gwneud dewis gwybodus ac ystyriol.