Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd – Gorffennaf 2022
Adroddiad Cynnydd a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac Arweinydd Plaid Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio'n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau'n rhan annatod ohoni.
- Ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:
- Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
- Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, penodwyd Panel Arbenigol i roi cymorth i'r Comisiwn ar amrywiaeth o arbenigeddau, megis llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, economeg a chyllid, i'w helpu i wneud argymhellion gwybodus. Dyma aelodau'r panel:
- Jess Blair - Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
- Yr Athro Emyr Lewis – Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
- Auriol Miller – Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
- Akash Paun – Pennaeth rhaglen ddatganoli’r Institute for Government
- Dr Hugh Rawlings – Cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Mairi Spowage – Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr y Fraser of Allander Institute
- Yr Athro Diana Stirbu – Athro Polisi a Llywodraethiant ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain
- Gareth Williams (Cadeirydd) – Cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Bontio Ewropeaidd
Cynnydd
Mae'r Comisiwn wedi cyfarfod i glywed tystiolaeth ar saith achlysur.
Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae'r Comisiwn wedi clywed tystiolaeth yn ei gyfarfodydd gan y bobl a'r sefydliadau canlynol:
- Yr Arglwydd Peter Hain, aelod o'r Grŵp Diwygio Cyfansoddiad, a chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Yr Athro Mererid Hopwood, Cadeirydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
- Dafydd Iwan, ymgyrchydd iaith Gymraeg, cerddor, a chyn-Lywydd Plaid Cymru
- Elin Jones AS, Llywydd, Senedd Cymru
- Mabli Siriol Jones, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith
- Syr Paul Silk, aelod o'r Grŵp Diwygio Cyfansoddiad, a chyn Gadeirydd Comisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru
- Huw Thomas, Arweinydd, Cyngor Caerdydd
- Mae Bywydau Du o Bwys Cymru
- Democracy Box
- Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru
- Urdd Gobaith Cymru
- Voices From Care Cymru
- Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
- Academi Gofalwyr Ifanc
Mae gweithdy technegol diweddaraf y Comisiwn wedi ystyried sefyllfa ariannol Cymru.
Ymgysylltu
Ar 11 Gorffennaf, roedd y Comisiwn wedi derbyn bron i 1,600 o ymatebion wedi'u cwblhau i'w alwad am dystiolaeth, a lansiwyd ar 31 Mawrth: Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd y cyfraniadau hyn yn llywio cynnwys adroddiad interim y Comisiwn.
Ar 11 Gorffennaf lansiodd y Comisiwn Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Crëwyd y gronfa i sicrhau bod barn y cymunedau amrywiol yng Nghymru yn cael ei chydnabod, fel y gellir eu hadlewyrchu yn adroddiad interim y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn darparu grantiau i sefydliadau cymwys o hyd at uchafswm o £5,000 fesul sefydliad trydydd sector neu grŵp cymunedol, a disgwylir i'r gweithgarwch ddigwydd ym mis Awst - Tachwedd 2022.
Adrodd
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, a'i adroddiad llawn, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.