Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd – Ebrill 2023
Adroddiad Cynnydd a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac Arweinydd Plaid Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
- Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:
- Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
- Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr, sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:
- Cadeirydd: Gareth Williams, cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
- Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
- Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
- Akash Paun, Pennaeth rhaglen ddatganoli Institute for Government
- Dr Hugh Rawlings, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Mairi Spowage, Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser of Allander
- Yr Athro Diana Stirbu, Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain
Cynnydd
Daeth Adroddiad Interim y Comisiwn, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2022, i’r casgliad bod tri opsiwn hyfyw – pob un â’i gyfleoedd a’i heriau ei hun – ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru:
- atgyfnerthu datganoli
- strwythurau ffederal
- annibyniaeth
Ar 3 Mawrth, cyhoeddodd y Comisiwn Fframwaith dadansoddi'r opsiynau cyfansoddiadol ar gyfer dadansoddi ac arfarnu’r tri opsiwn cyfansoddiadol.
Ers yr adroddiad cynnydd diwethaf, mae’r Comisiwn wedi cyfarfod i drafod y dystiolaeth ar bedwar achlysur, gan gynnwys dau weithdy.
Mewn cyfarfodydd i rannu tystiolaeth, mae’r Comisiwn wedi clywed oddi wrth:
- Y Gwir Anrh. Gordon Brown
- Yr Athro Jim Gallagher
- Darren Millar AS, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig
- Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Plismona yng Nghymru
- Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
- Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
Cymerwyd rhan mewn gweithdy ar oblygiadau cyfansoddiadol/deddfwriaethol a gwleidyddol y tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn adroddiad y Comisiwn gan yr unigolion canlynol:
- Yr Athro Erin F. Delaney, Prifysgol Northwestern, Chicago
- Yr Athro Aileen McHarg, Prifysgol Durham
- Stephen Noon, Prifysgol Caeredin
- Yr Athro Rick Rawlings, Coleg y Brifysgol Llundain (UCL)
- Yr Athro Meg Russell, Uned y Cyfansoddiad, Coleg y Brifysgol Llundain (UCL)
- Paul Silk, Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad
Cymerwyd rhan mewn gweithdy ar oblygiadau cyllidol ac economaidd y tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn yr Adroddiad Interim gan yr unigolion canlynol:
- David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
- Guto Ifan, Dadansoddi Cyllid Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro John Doyle, Prifysgol Dinas Dulyn
Cymerodd swyddogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban sydd â gwybodaeth arbenigol am berthnasedd gwaith y Comisiwn ran yn y gweithdai er mwyn darparu gwybodaeth ffeithiol.
Mae’r Comisiwn yn ystyried goblygiadau datganoli pellach mewn perthynas â: chyfiawnder a phlismona, trafnidiaeth, cyflogaeth, lles, ynni, a darlledu. Fel y nodwyd yn Adroddiad Interim y Comisiwn, nid ystyried y materion hyn o’r newydd yw’r amcan yn awr ond deall y sefyllfa ddiweddaraf ac ystyried sut y mae’r pynciau hyn yn cydweddu â dadansoddiad y Comisiwn o’r opsiynau cyfansoddiadol a nodir yn yr Adroddiad Interim.
Hyd yma, mae’r Comisiwn wedi derbyn tystiolaeth gan y canlynol:
- ASLEF (cyflwyniad ysgrifenedig)
- RMT (cyflwyniad ysgrifenedig)
- Joe Allen, TUC Cymru
- Mark Barry, Athro mewn Ymarfer Cysylltedd, Prifysgol Caerdydd
- Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (a swyddogion cynorthwyol)
- Yr Arglwydd Peter Hendy, Cadeirydd Network Rail (cyflwyniad ysgrifenedig)
- David Hughes, Cyfraith Gyhoeddus Cymru
- Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (a swyddogion cynorthwyol)
- Yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddyfodol Datganoli a Gwaith
- Gethin Jones, PCS (Carchardai)
- Su McConnel, Is-gadeirydd, Napo Cymru
- Nisreen Mansour, TUC Cymru
- Yr Arglwydd Neuberger
- Sarah Rigby, Cymdeithas y Swyddogion Carchar
- Nicky Ryan, Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr
- Trafnidiaeth Cymru
- Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (a swyddogion cynorthwyol)
- Rhodri Williams CB
- Dr Victoria Winkler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan
- Liz Withers, Pennaeth Materion Cymreig, Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
- Swyddogion o Adran Gyfiawnder Llywodraeth Cymru
Ymgysylltu
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymateb i ymgynghoriad ar-lein y Comisiwn 'Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru' oedd 28 Chwefror. Daeth dros 2,500 o ymatebion i law. Cafodd cynnwys adroddiad interim y Comisiwn ei lywio gan yr ymatebion a dderbyniwyd erbyn diwedd mis Hydref 2022. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei lywio gan y cyflwyniadau rhwng mis Hydref a diwedd yr arolwg.
Mae’r Comisiwn wedi sefydlu platfform digidol y Safle Sgwrsio (defnyddiadylais.cymru) er mwyn gallu parhau â’r sgwrs genedlaethol. Bydd sianeli cyfathrebu a digwyddiadau cyhoeddus y Comisiwn yn cyfeirio defnyddwyr i’r safle, lle y bydd cynnwys newydd (e.e. fideos, blogiau, arolygon barn a straeon) yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd gyda’r nod o annog pobl i sgwrsio am y materion perthnasol ar-lein.
Mae’r Comisiwn wrthi yn cynnal ymchwil ansoddol a meintiol i nodi barn dinasyddion ledled Cymru. Mae’n gweithio’n agos gyda grwpiau a sefydliadau i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn cymryd rhan a bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
Mae’r Comisiwn wedi cynnal paneli trafod yng nghynhadledd wanwyn pob un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.
Mae cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael ei chynllunio ar gyfer yr haf i sicrhau bod pob dinesydd yng Nghymru benbaladr yn cael cyfle i ymuno â’r sgwrs genedlaethol. Bydd y rhain yn cynnwys sioeau teithiol mynediad agored ac ymddangosiadau ‘mewn partneriaeth’ mewn digwyddiadau allweddol a gynhelir yng Nghymru.
Ym mis Mai, mae’r Comisiwn yn cyfarfod ag aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a’r Tŷ Cyffredin mewn digwyddiad trawsbleidiol yn San Steffan, a bydd y Cyd-gadeiryddion yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig.
Adrodd
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.