Ymgynghoriadau yr awdurdod strategol ar gyfer goruchwylio pob agwedd ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.
Cynnwys
Ymgynghoriadau
Rhestrau arfaethedig o undebau a chyrff sy'n gymwys i enwebu aelodau cyswllt ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Ymgynghorwyd ar y rhestr o Undebau Llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr a all enwebu unigolion at ddiben penodi aelodau cyswllt y gweithlu ac aelodau cyswllt y dysgwyr i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 21 Mehefin 2023 a 29 Medi 2023.
Cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol: rheoliadau cychwynnol
Rydym yn ymgynghori i geisio barn ar y rheoliadau y mae angen i ni eu gwneud i alluogi'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 31 Hydref 2023 a 5 Chwefror 2024.
Diwygio Deddf yr Economi Ddigidol 2017 mewn perthynas â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Byddwn yn ymgynghori ar ychwanegiad arfaethedig y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i'r rhestr o bobl a all rannu gwybodaeth at ddibenion gweithredu i fynd i'r afael â thwyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 2 Hydref 2023 a 22 Rhagfyr 2023.
Diwygiadau technegol i Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
Rydym yn ymgynghori ar ddirymu ac ail-wneud Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 i gymryd i ystyriaeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a rôl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Dyddiadau ymgynghori i'w cadarnhau.
Rheoliadau cyllido addysg bellach a hyfforddiant
Byddwn yn ymgynghori ar reoliadau drafft sydd i'w gwneud o dan adran 94 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ynghylch cyllido addysg bellach a hyfforddiant. Dyddiadau ymgynghori i'w cadarnhau.
Cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol: rheoliadau pellach
Byddwn yn ymgynghori i geisio barn ar y rheoliadau sydd eu hangen arnom i sicrhau bod y gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yn gweithredu fel y bwriadwyd iddo weithredu. Dyddiadau ymgynghori i'w cadarnhau.
Cysylltu â ni
Os ydych angen rhagor o wybodaeth neu ganllawiau, e-bostiwch CTER@llyw.cymru.