Mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi methu darparu unrhyw eglurder na sicrwydd pellach ynghylch sut bydd ymadael â'r UE yn effeithio, yn ôl gweinidogion Cyllid Cymru a'r Alban.
Yn dilyn cyfarfod y gweinyddiaethau datganoledig gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans:
"Ro'n i'n gobeithio am lawer mwy o eglurder ynghylch materion pwysig sy’n dod yn fwy ac yn fwy difrifol bob dydd wrth i'r dyddiad ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd agosáu, ond yn anffodus rwy'n gadael y cyfarfod heb unrhyw sicrwydd ychwanegol.
"Mae'n ymddangos bod diffyg eglurder ar draws Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch yr hyn sy'n digwydd o ran Brexit ond wrth i ni wynebu perygl gwirioneddol o ymadael heb gytundeb, mae hyn yn destun pryder difrifol i Lywodraeth Cymru.
"Gyda'm cyfaill o'r Alban, pwysais ar y Prif Ysgrifennydd am eglurder ar nifer o faterion ariannol yn ymwneud ag effaith Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o gyllideb argyfwng. Roedd yn neges yn glir, dydy cyhoeddi cyllideb lawn ddim ar yr agenda, ac mae hynny'n ychwanegu at yr ansicrwydd sydd o'n blaen wrth i ni baratoi i ymadael.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddadlau'r achos dros Gymru er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn ganolog i'r trafodaethau."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay:
"Codais nifer o faterion gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan gynnwys ei hannog i ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, rhoi sicrwydd hollol bendant i mi y bydd yn gwneud yn iawn am yr holl gyllid Ewropeaidd fydd yn cael ei golli, a thalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â newidiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i bensiynau sector cyhoeddus. Doedd dim modd iddi wneud unrhyw un o'r rhain.
"Gydag ond ychydig wythnosau i fynd nes y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i fod yn bryderus tu hwnt am y diffyg manylion ynghylch trefniadau amgen yn lle ffrydiau ariannu'r Undeb Ewropeaidd, heb sôn am yr effaith ddifrifol y gallai ymadael heb gytundeb ei chael ar ein heconomi a'n marchnad lafur.
"Fel llywodraeth gyfrifol, byddwn yn parhau i ddwysau ein gwaith i baratoi ar gyfer pob canlyniad posib Brexit, hyd eithaf ein gallu, a phwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, ac ymestyn proses Erthygl 50."