Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n gallu cynnig help fel busnes neu sefydliad, mae angen i chi ddweud wrthym am yr help y gallwch ei roi.

Gallwch ddarparu cymorth yn eich ardal leol, yn rhanbarthol neu ar draws Cymru gyfan.

Gallwch newid eich meddwl am yr hyn rydych wedi cynnig ei ddarparu. Rhowch wybod i ni pan fyddwn yn cysylltu â chi. Ni allwn eich talu am yr help hwn.

Mae angen pethau fel:

  • llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
  • gwersi iaith
  • cyflogaeth a hyfforddiant
  • cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

Os gallech chi, fel unigolyn, gynnig llety yn eich cartref ar gyfer ffoaduriaid a’u teulu agos, gallech gofrestru ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin (ar GOV.UK).