Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nod yr ymchwil oedd darparu adolygiad annibynnol o'r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, a goleuo camau gweithredu a chamau nesaf er mwyn cyflwyno cofrestrfa ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Roedd yr astudiaeth yn rhoi sylw i'r cwestiynau ymchwil canlynol.

  • CY1: Pwy sy'n rhan o'r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru? Beth yw eu rolau, ac ym mha fath o leoliad y maent yn gweithio?
  • CY2: Sut y mae gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn cael eu categoreiddio a'u gweld? A oes rhannau o'r gweithlu wedi eu cofrestru yn barod gyda chofrestrfeydd sydd eisoes yn bodoli a/neu trwy gyrff proffesiynol? A welir gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar fel rhan o'r sector addysg, y sector gofal, neu sectorau eraill?
  • CY3: Mewn achos lle byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu cofrestrfa newydd, a ddylid cofrestru pob gweithiwr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar? Os na ddylid, a oes yna is-grwpiau penodol y dylid eu cofrestru?
  • CY4: Beth yw profiadau Gweinyddiaethau eraill wrth gofrestru'r gweithlu gofal plant a chwarae neu weithluoedd cysylltiedig? Pa wersi y gallwn eu dysgu ganddynt a'u cymhwyso i gyd-destun Cymru?
  • CY5: Beth yw'r opsiynau posibl, yr amserlenni posibl ac unrhyw gostau ariannol posibl y mae modd eu hadnabod, ar gyfer symud ymlaen?

Defnyddiwyd amrywiol ddulliau gan gynnwys ymchwil o'r ddesg, cyfweliadau wedi eu lled-strwythuro a gweithdy i ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Gwnaethpwyd ymchwil o'r ddesg er mwyn llunio darlun eang o'r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Gwnaethpwyd, hefyd, astudiaethau achos ar gofrestrfeydd y gweithlu addysg a gofal plentyndod cynnar mewn gwledydd eraill, gyda ffocws ar y rheiny a chanddynt gofrestrfa ar waith yn barod (yr Alban ac Unol Daleithiau America), a’r rheiny a chanddynt systemau addysg a gofal plentyndod cynnar tebyg ac a oedd yn archwilio potensial cofrestrfa ar gyfer y gweithlu (Awstralia).

Cafwyd un-ar-ddeg o gyfweliadau grŵp gyda rhanddeiliaid o’r maes gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, dau gyfweliad gyda sefydliadau sy'n gyfrifol am gofrestrfa gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn yr Alban ac un gyda'r rheiny sy'n archwilio cofrestrfa ar gyfer y gweithlu yn Awstralia. 

Ar gyfer rhan olaf y prosiect, aethpwyd ati i ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, mewn dwy awr o weithdy. Nod y gweithdy oedd adnabod meysydd lle’r oedd cytundeb ac anghytundeb ymhlith y rhanddeiliaid, ac, o'r rhain, tynnu casgliadau terfynol ac argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o fwrw ati i greu cofrestrfa ar gyfer y gweithlu. Wedi cyflwyno iddynt ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwil o'r ddesg a'r cyfweliadau, rhannwyd cyfranogwyr y gweithdai yn grwpiau, i drafod materion allweddol a ddaeth i’r amlwg yn y cyfweliadau fel rhai yr oedd angen eu trafod ymhellach, i ddod â phersbectifau gwahanol ynghyd er mwyn meithrin consensws. Rhoddodd bob grŵp grynodeb o'r meysydd lle'r oedd cytundeb, materion i'w hystyried ymhellach a syniadau ar gyfer y camau nesaf, gan roi cyfle i bob grŵp adrodd yn ôl.

Prif ganfyddiadau

Diffinio'r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar a phwy ddylid eu cynnwys yn y gofrestrfa

Yn yr ymchwil o'r ddesg, amlygwyd yr anhawster wrth amcangyfrif maint y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar, yn enwedig rhai grwpiau fel gweithwyr chwarae, gweithwyr tymhorol, pobl sydd â rolau deuol a staff a gyflogir mewn lleoliadau heb eu cofrestru.

Yn y cyfweliadau gyda rhanddeiliaid a'r gweithdy ymgysylltu, roedd cyfranogwyr yn cydnabod bod y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn amrywiol, ac yn cynnwys pobl sy'n gweithio mewn nifer o fathau gwahanol o leoliadau ac mewn nifer o rolau. Er y cytunai cyfranogwyr y dylid edrych ar y sector yn ei gyfanrwydd, ni chafwyd consensws llawn ynghylch y rheiny y dylid eu cynnwys mewn cofrestrfa ar gyfer y gweithlu, a sut i wneud hynny.

Roedd yna gytundeb clir ymhlith cyfranogwyr ynghylch cynnwys (neu beidio â chynnwys) rhai grwpiau. Dylid cynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal dydd ar y gofrestr, ond nid oedd fawr o ddiddordeb mewn cofrestru nanis. Dyma'r grwpiau y nodwyd y byddai'n fwy cymhleth eu cynnwys mewn cofrestrfa ar gyfer y gweithlu: gweithwyr chwarae (sy'n grŵp amrywiol ynddynt eu hunain, ac yn cynnwys gweithwyr tymhorol, gwirfoddolwyr a'r rheiny sy'n gweithio mewn lleoliadau heb eu cofrestru); gwarchodwyr plant (sydd eisoes wedi eu cofrestru fel lleoliad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru); a gweithwyr mewn lleoliadau heb eu cofrestru (nad oes gennym fawr o wybodaeth amdanynt oherwydd nad ydynt wedi eu cofrestru).

Yn y gweithdy a'r cyfweliadau, bu'r cyfranogwyr yn rhannu syniadau cychwynnol ynghylch sut i gynnwys categorïau mwy cymhleth o weithwyr yn y gofrestrfa, er enghraifft dechrau'r broses gofrestru gyda gweithwyr sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, cyn symud ymlaen at grwpiau eraill. Syniad arall oedd mynd ati'n raddol, fel sydd wedi digwydd mewn gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar un rôl ar y tro, er enghraifft, rheolwyr i'w cofrestru yn gyntaf, cyn symud ymlaen i gofrestru gweithwyr llinell flaen.

Elfennau ymarferol cofrestrfa

Pwysleisiodd cyfranogwyr y cyfweliadau a'r gweithdy bwysigrwydd ystyried lle y dylai'r gofrestrfa eistedd a phwy ddylai fod yn gyfrifol amdani. Elfen sy’n allweddol i'r cwestiwn hwn yw sut y mae rolau gweithwyr yn cael eu cysyniadu: disgrifiodd cyfranogwyr sut y mae rhai o'r gweithwyr yn ffitio i faes addysg, ac eraill i faes gofal, ond nad yw rolau eraill wedi eu diffinio mor glir. Mae gweithwyr chwarae yn enghraifft o grŵp nad yw’n ffitio'n glir i faes addysg na gofal. Trafodwyd nifer o awgrymiadau yn y cyfweliadau, ond nid oedd cytundeb clir ynghylch pwy ddylai fod â chyfrifoldeb dros y gofrestrfa, er bod yna bryderon ynghylch ymyleiddio rhannau o'r gweithlu petai'r gofrestrfa yn eistedd gyda sefydliad nad oedd rhannau o'r gweithlu yn ffitio i'w gylch gwaith.

Yn y cyfweliadau a'r gweithdy, roedd yna gonsensws eang y dylai fod yn fandadol i gofrestru.

Pryderai cyfranogwyr y cyfweliadau a'r gweithdy y byddai ffi gofrestru yn faich ychwanegol ac yn rhwystr wrth geisio recriwtio, yn enwedig i weithlu sydd ar gyflog isel. Fodd bynnag, roedd rhai o'r cyfranogwyr hefyd yn cydnabod y gallai fod rhai buddion i godi ffioedd cofrestru. Un o'r rhain oedd bod gweithwyr yn fwy tebygol o chwilio am fuddion y gofrestrfa. Budd arall, o bosibl, fyddai'r potensial i’r gofrestrfa fod yn fecanwaith i sicrhau gwell cyswllt gyda gweithwyr. Roedd yna gytundeb clir y dylai unrhyw ffi gofrestru fod yn ddigon isel i sicrhau bod modd ei thalu, os oedd ffi yn cael ei chodi. Unwaith eto, pwysleisiodd rhanddeiliaid bwysigrwydd cyfathrebu buddion y gofrestrfa'n glir, er mwyn cyfiawnhau unrhyw ffi a godir, yn ogystal â chyfathrebu gwybodaeth am y broses gofrestru yn gyffredinol.

Cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus

Cytunai cyfranogwyr y cyfweliadau a'r gweithdy ei bod yn bwysig sicrhau nad yw cymwysterau yn rhwystro pobl rhag cofrestru a gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Awgrymai'r cyfranogwyr y byddai cynnig cyfnod o ras er mwyn ennill cymwysterau (fel sy'n digwydd yn yr Alban), yn gymorth i atal cymwysterau rhag bod yn rhwystr. Awgrym arall oedd cynnwys y llwybr ‘cymhwysedd wedi’i gadarnhau' lle cydnabyddir profiad gweithwyr mwy profiadol fel prawf o'u cymhwysedd.

Cydnabu cyfranogwyr y cyfweliadau a’r gweithdy mai un o fuddion posibl cofrestrfa yw'r cyfle i gefnogi gweithwyr i uwchsgilio ac i gael datblygiad proffesiynol parhaus. Gallai'r cymorth hwn fod ar sawl ffurf. Ar ei lefel symlaf, gellid defnyddio'r gofrestrfa fel offeryn i gofnodi a chadw llygad ar oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus, a byddai hyn o fudd i gyflogeion a chyflogwyr. Ar lefel fwy datblygedig, gallai’r gofrestrfa hwyluso mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus yn uniongyrchol, ac arwain at ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus yn fwy effeithlon, trwy gyfateb y cyflenwad a'r galw.

Ar y cyfan, cytunai cyfranogwyr â buddion sicrhau bod oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ofyniad er mwyn cynnal cofrestriad, ond amlygwyd yr angen i sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus yn hygyrch i weithwyr ar draws y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar gan fod y cyfleoedd yn anghyfartal ar hyn o bryd.  Mae sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus yn hygyrch yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr yn cael yr amser y mae arnynt ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, a hefyd cael gwared ar rwystrau ariannol.

Casgliadau ac argymhellion

Yn y cyfweliadau a'r gweithdy ymgysylltu â rhanddeiliaid, dangoswyd bod yna gytundeb cyffredinol, mewn egwyddor, â’r syniad o sefydlu cofrestrfa ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar, er bod angen datrys elfennau pwysig y gofrestrfa er mwyn gwireddu'r buddion posibl. Ar sail y canfyddiadau a amlinellwyd uchod, cynigir yr argymhellion canlynol er ystyriaeth Llywodraeth Cymru.

Cyn y cam sefydlu

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gweithgor sydd â'r dasg o wneud y canlynol.

  • Gweithio gyda’r sector I ddatblygu opsiynau cadarn o ran pwy ddylai fod yn gyfrifol am sefydlu’rgofrestrfa a’ chynnal, gan ystyried a ddylai fod yng nghylch gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg neu gorff gwahanol
  • Gweithio gyda’r sector i ddatblygu opsiynau cadarn o ran pa  grŵp/grwpiau o'r gweithlu ddylau gofrestru a sut, gan ystyried yr opsiwn o fynd ati'n raddol, lle mae'r cofrestru'n dechrau gydag un grŵp o weithwyr. Gallai dull gweithredu graddol o'r fath gynnwys argymhellion ar gyfer y manylion canlynol:
    • Gallai'r broses gofrestru fynd rhagddi fesul grŵp o weithwyr, gan ddechrau gyda grŵp y cytunir yn llwyr y dylai fod yn rhan o'r gofrestrfa, er enghraifft gweithwyr gofal plant mewn lleoliadau cofrestredig
    • Gallai'r broses gofrestru ddechrau gyda gweithwyr mewn rolau rheoli cyn symud ymlaen at weithwyr llinell flaen
    • Dylid llunio a chyhoeddi llinell amser glir er mwyn i grwpiau eraill ymuno unwaith y bydd y cam sefydlu cychwynnol wedi'i gwblhau ac unwaith y cymerwyd camau gweithredu clir i fynd i'r afael â materion sy'n benodol i bob grŵp
  • Dylid llunio a chyhoeddi llinell amser glir er mwyn i grwpiau eraill ymuno unwaith y bydd y cam sefydlu cychwynnol wedi'i gwblhau ac unwaith y cymerwyd camau gweithredu clir i fynd i'r afael â materion sy'n benodol i bob grŵp

Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ffurfiol â'r sector a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol, ynghylch elfennau o'r gofrestr a ystyriwyd gan y gweithgor.

Unwaith y mae'r ymgynghoriad yn gyflawn, dylai Llywodraeth Cymru:

  • ysturiad adborth a lle y bo’n briodol, mireinio’r cynigion
  • parhau â gweithgareddau i ymgysylltu â'r sector er mwyn sicrhau bod diben y gofrestrfa'n cael ei gyfathrebu'n glir. Gallai gweithgareddau o'r fath gynnwys cylchlythyron, ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol, gweithdai a seminarau rhanbarthol
  • ystyried yr enw iawn ar gyfer y gofrestrfa er mwyn sicrhau bod yr iaith yn adlewyrchu ei gwir swyddogaeth
  • trefnu ymgyrch 'ar eich marciau', h.y. ymgyrch wybodaeth sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar o fanylion a llinell amser y broses gofrestru

Dylai Llywodraeth Cymru benderfynu am faterion sy'n ymwneud â ffioedd cofrestru ac amseru, gan benderfynu a ddylai fod yn rhad ac am ddim i gofrestru neu a ddylid codi ffi, ac, os penderfynir codi ffi, a ddylai'r ffi ddibynnu ar y rôl ac a ddylid cofrestru'n flynyddol, yn achlysurol neu'n barhaus

Dylai Llywodraeth Cymru lunio cynlluniau clir ar gyfer cysylltu cymwysterau a Datblygiad Proffesiynol Parhaus at y gofrestrfa. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau nad yw cymwysterau'n rhwystro pobl rhag mynd i mewn i'r sector
  • gweithio gyda chyrff y sector er mwyn deall datblygiad proffesiynol parhaus o ran yr hyn a gynigir ar hyn o bryd yn ogystal â'r hyn sy'n cyfrif fel datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd da
  • asesu i weld a oes angen nawdd ychwanegol er mwyn cael gwared ar y rhwystr ariannol sy’n atal unigolion rhag cael datblygiad proffesiynol parhaus ac i gynorthwyo lleoliadau i ryddhau staff er mwyn iddynt gael hyfforddiant

Yn ystod y cam lansio a blwyddyn gyntaf gweithrediad y gofrestrfa

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymgynghori â'r sector, er enghraifft trwy arolygon neu grwpiau ffocws gyda’r grŵp cyntaf sydd wedi cofrestru, er mwyn gwerthuso swyddogaeth y gofrestrfa a deall a oes angen newid unrhyw beth ai peidio, cyn ychwanegu rhannau eraill o'r gweithlu.

Dylai Llywodraeth Cymru drefnu proses ymgynghori cyn ychwanegu'r grwpiau eraill.

Manylion cyswllt

Awduron: Sara Bonetti and Kerris Cooper (Education Policy Institute)

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 52/2022
ISBN digidol 978-1-80364-507-0

Image
GSR logo