Rydym yn cyflwyno cynllun newydd ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae ein Cytundeb Rhaglen Lywodraethu a Chydweithrediad gyda Phlaid Cymru yn cynnwys ein hymrwymiad i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer gosod gwyliau.
Nod y cynllun yw:
- cefnogi twristiaeth a chymunedau lleol, yn eu tro yn helpu i warchod amgylchedd naturiol Cymru er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau
- mynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar gymunedau.
Cofrestriad
Yn flaenorol, buom yn ymgynghori ar gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wedi cynnal ymchwil ynglŷn â sut y bydd yr ardoll ymwelwyr yn gweithio. Mae hyn wedi dangos bod angen system gofrestru. Roedd hyn yn sail i'n penderfyniad i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru o fewn y bil ardoll ymwelwyr.
Bydd rheoleiddio llety ymwelwyr yng Nghymru yn cael ei wneud fesul cam. Y cyntaf yw cofrestru unrhyw un sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru. Mae manylion y cynllun cofrestru yn cael eu cynnig yn y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr a Lefi) ac ati (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd ar 25 Tachwedd.
Bydd y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yn dweud wrthym pwy sy'n gweithredu yn y sector ac yn cefnogi casglu'r ardoll ymwelwyr. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn dâl bach a delir gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr.
Bydd y gofrestr hefyd yn darparu data gwerthfawr i lywio datblygiad twristiaeth yn y dyfodol a chyfnodau ar gyfer rheoleiddio llety ymwelwyr yn y dyfodol.
Trwyddedu
Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth bellach i symud tuag at gynllun trwyddedu statudol. Bydd hyn yn galluogi darparwyr llety ymwelwyr i ddangos sut mae eu llety yn bodloni amodau penodol.
Bydd rhagor o wybodaeth am y Bil Rheoleiddio Llety Ymwelwyr yn dilyn maes o law. Yn y cyfamser, bydd cymorth ar gael i ddarparwyr llety drwy gydol y broses gofrestru.
Sut rydyn ni yn ymgynghori
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar y cynllun arfaethedig: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru
Cynhaliwyd rhagor o ddigwyddiadau ymgynghori gennym ledled Cymru yng ngwanwyn 2023. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar elfennau penodol o'r cynllun. Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cynrychioli cymdeithasau twristiaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ogystal â chynrychiolwyr:
- awdurdodau lleol
- asiantau teithio ar-lein
- undebau a chymdeithasau ffermio a chefn gwlad
- asiantau llety hunanddarpar
Mae'r adroddiad Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr: barn defnyddwyr a phreswylwyr yn cyflwyno canlyniadau arolwg rhai o gynigion y cynllun.
Y camau nesaf
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â darparwyr llety a rhanddeiliaid twristiaeth eraill wrth i ni ddatblygu'r cynigion hyn. Darllenwch ein llythyr at y Fforwm Economi Ymwelwyr i gael rhagor o wybodaeth: Llythyr agored at aelodau Fforwm yr Economi Ymwelwyr
Bydd cyhoeddiadau am y cynllun yn cael eu gwneud drwy gylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at StatutoryLicensing@llyw.cymru