Egluro pryd nad oes angen i ddarparwr gofal plant, chwarae neu weithgareddau i blant gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, neu pryd nad yw'n gymwys i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru ac yn arolygu darparwyr gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Gall hyn gynnwys:
- gwarchodwyr plant
- gofal dydd llawn
- gofal dydd sesiynol
- gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- crèches
- darpariaeth chwarae mynediad agored.
Fodd bynnag, nid yw pob darparwr sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant yn gymwys i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn nodi amgylchiadau pan na fo'n ofynnol cofrestru yn seiliedig ar ffactorau fel y canlynol:
- y math o ddarpariaeth
- oriau gweithredu
- y berthynas â'r plentyn
- lleoliad y gofal
- oedran y plant
Eithriadau i gofrestru fel darparwr gofal plant ag Arolygiaeth Gofal Cymru
Darpariaeth pan fo rhiant neu aelod o'r teulu yn bresennol
Os yw rhiant neu aelod o'r teulu yn bresennol mewn gweithgaredd ac yn gyfrifol am ofalu am y plentyn yn llawn, nid ystyrir bod y gwasanaeth yn cynnig darpariaeth gwarchod plant na gofal dydd ac nid yw'n gymwys i gofrestru.
Enghreifftiau
Clwb chwaraeon llawr gwlad
Mae plentyn yn mynychu grŵp chwaraeon llawr gwlad ac mae'r rhiant/gofalwr yn gwylio o'r llinell ystlys.
Nid yw'r clwb chwaraeon yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd byddai'r rhiant/gofalwr yn diwallu anghenion gofal y plentyn.
Grŵp rhieni a phlant
Mae plentyn bach yn mynychu grŵp rhieni a phlant gyda'i riant/gofalwr.
Nid yw'r grŵp yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd byddai'r rhiant/gofalwr yn diwallu anghenion gofal y plentyn.
Gofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano, neu blentyn y mae'n byw gydag ef
Nid yw'r person yn gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.
Nanis ac Au Pairs
Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd.
Gall nanis ac au pairs, sy'n bodloni'r meini prawf, wneud cais i fod yn ddarparwr gofal plant cartref cymeradwy o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref.
Gofal Gyda'r Nos a Gofal Dros Nos
Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, nid yw'n gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd.
Os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, caiff y person sy'n darparu'r gofal wneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.
Gofalu am blentyn ffrind heb gael taliad naill ai ar ffurf arian neu roddion
Nid yw person yn gymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd am na wneir taliad na thaliad mewn nwyddau am y gofal.
Darparu gofal mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd
Nid yw darparwr yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Ysgolion yn ystod oriau ysgol pan fo'r gofal yn gysylltiedig ag addysg
Nid yw ysgol yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fo'r gofal yn gysylltiedig â darparu'r addysg yn ystod oriau ysgol.
Gwasanaethau Ieuenctid
Nid yw darparwr yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid ac mae taliad nominal, neu ddim taliad o gwbl, am y gwasanaeth.
Gweithredu am lai na 2 awr y dydd
Os yw gwarchodwr plant neu ddarparwr gwasanaeth gofal dydd yn gweithredu ei wasanaeth am lai na 2 awr y dydd, nid yw'n gymwys i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Enghreifftiau
Clwb ar ôl ysgol
Mae ysgol yn rhedeg clwb ar ôl ysgol ar safle'r ysgol am lai na 2 awr y dydd.
Nid yw'n gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Mwy nag un sesiwn
Mae grŵp chwarae yn rhedeg 2 sesiwn y dydd, sy'n para awr yr un.
Nid yw cyfanswm yr oriau a ddarperir mewn diwrnod yn fwy na 2 awr felly nid yw'n gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Gofal am lai na 6 diwrnod y flwyddyn
Os yw gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am lai na 6 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.
Enghreifftiau
Crèche symudol
Mae awdurdod lleol yn darparu crèche symudol i ofalu am blant tra bod eu rhieni'n mynychu dosbarthiadau addysgol. Mae'n gweithredu mewn gwahanol leoliadau. Mae pob sesiwn yn para mwy na 2 awr.
Os yw'n mynd dros 5 diwrnod mewn unrhyw leoliad unigol, bydd angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd yn y lleoliad hwnnw.
Chwarae mynediad agored
Mae darparwr chwarae mynediad agored yn gweithredu am 4 awr y dydd, ar 5 diwrnod y flwyddyn mewn 2 leoliad gwahanol. Mae'r plant rhwng 4 ac 11 oed.
Nid yw'n gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd am ei fod yn cynnig gofal am lai na 6 diwrnod mewn unrhyw un lleoliad.
Hyfforddiant a Gwersi
Mae'r eithriad hyfforddiant a gwersi yn gymwys pan fo'r ddarpariaeth ar safle annomestig. Os yw darparwr yn gweithredu am lai na 4 awr y dydd, nid yw'n gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.
Ni ellir cynnig hyfforddiant a gwersi mewn mwy na dau o'r meysydd canlynol:
- Chwaraeon
- Celfyddydau perfformio
- Celf a chrefft
- Cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref
- Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol
Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw bod y plant yn cael hyfforddiant neu wersi yn y gweithgaredd ac mae'r gofal a roddir yn gysylltiedig.
Enghreifftiau
Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig hyfforddiant pêl-droed a thenis, ynghyd â gwersi dawns a chanu. Mae'n cynnig 2 fath o weithgaredd (chwaraeon a chelfyddydau perfformio). Nid yw'n darparu gweithgareddau heb hyfforddiant o unrhyw fath arall ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae'r plant sy'n bresennol i gyd yn 5 oed neu'n hŷn.
Nid yw'r darparwr yn gymwys i gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig sesiynau o fwy na dwy awr mewn gwersi paentio, astudiaethau Sbaeneg a hyfforddiant badminton. Mae pob un o'r 3 gweithgaredd hyn yn dod o dan fath gwahanol o weithgaredd (celf a chrefft, astudiaethau diwylliannol, a chwaraeon).
Bydd angen i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod yr hyfforddiant a'r gwersi hyn yn cwmpasu mwy na 2 fath o weithgaredd.
Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd
Mae darparwr yn cynnig hyfforddiant gymnasteg am ddwy awr allan o sesiwn pum awr. Am weddill y sesiwn, mae'n darparu ystod o weithgareddau corfforol fel castell bownsio a gemau parasiwt. Mae'r plant yn gwylio ffilmiau ac yn darllen llyfrau ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Mae'r plant sy'n bresennol i gyd yn 5 oed neu'n hŷn.
Bydd angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod ystod o weithgareddau y tu hwnt i hyfforddiant a gwersi yn cael eu cynnig am fwy na 2 awr.
Adolygu eithriadau
Mae adolygiad o'r Gorchymyn Eithriadau yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Diben yr adolygiad yw ystyried a yw unrhyw newidiadau i'r Gorchymyn Eithriadau yn ofynnol er mwyn sicrhau y gall plant yng Nghymru gael mynediad at ofal plant o safon a gweithgareddau sy'n diwallu eu hanghenion hwy a rhai eu teuluoedd.
Ni fydd unrhyw newidiadau i'r Gorchymyn Eithriadau yn cael effaith tan o leiaf 2026/27.
Diogelu
Mae darparwyr sy'n gweithio gyda phlant yn gyfrifol am ddiogelu plant.
Ystyr diogelu yw:
- cadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
- gwybod beth i'w wneud os byddwch yn meddwl bod rhywun mewn perygl.
Mae gwybod beth i'w wneud, pryd i'w wneud a sut i'w wneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
I'r rhai nad ydynt wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, rydym yn disgwyl i unigolion, grwpiau neu sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ddilyn y cyngor yn Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu. Bydd hyn yn helpu i ddangos bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau diogelwch plant.
Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys:
- bod â pholisi amddiffyn plant
- bod ag arweinydd diogelu dynodedig
- rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr
- bod ag arferion recriwtio a chyflogaeth diogel ar waith (ee gwiriadau cymwysterau, gwiriadau adnabod a gwiriadau DBS)
- darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i staff a gwirfoddolwyr.
Mae chwe bwrdd diogelu rhanbarthol ledled Cymru a all ddarparu gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys am gyfleoedd hyfforddi lleol a sut i riportio a chofnodi unrhyw bryderon.
Os oes gennych wybodaeth neu os ydych yn amau bod plentyn yn dioddef, wedi dioddef, neu'n debygol o fod mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed, dylai hyn gael ei riportio i wasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol.
Os gallai plentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio 999 neu 101, yn ddi-oed.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar lwyfan Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Rhagor o wybodaeth am gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru
Os oes gennych gwestiynau ynghylch a ddylai darparwr fod wedi ei gofrestru, neu a yw gwasanaeth yn gweithredu o fewn unrhyw ddarpariaethau yn y Gorchymyn Eithriadau, dylech gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru.